Hawliau Plant

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:29 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Llyr Gruffydd Llyr Gruffydd Plaid Cymru 2:29, 4 Gorffennaf 2018

Rwy'n siŵr y byddwch chi'n ymwybodol o ofidiau a chwestiynau sydd wedi cael eu gofyn gan y pwyllgor plant a phobl ifanc, a phobl eraill fel y comisiynydd plant, a dweud y gwir, ynglŷn â phroses gyllidebu'r Llywodraeth nawr, lle'r ŷm ni yn fwyfwy yn cael asesiadau effaith integredig, yn hytrach, er enghraifft, nag asesiadau effaith penodol ar hawliau plant. Felly, a gaf fi ofyn i chi fel Llywodraeth i edrych ar yr arfer yna eto, ac i chi fel Cwnsler gadarnhau i chi'ch hunan eich bod chi'n cwrdd â goblygiadau deddfwriaethol domestig a rhyngwladol drwy beidio, yn yr achosion yma, â chynnal asesiadau effaith penodol ar hawliau plant, er mwyn sicrhau, er enghraifft, na fyddwn ni'n cael penderfyniadau fel diddymu y grant gwisg ysgol, fel y digwyddodd yn ddiweddar, heb fod yna asesiad trylwyr wedi cael ei wneud?