Cymhwyso Cyfreithiau'r UE

Part of 2. Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol – Senedd Cymru am 2:31 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Jeremy Miles Jeremy Miles Labour 2:31, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Os bydd cyfraith yr UE yn parhau'n gymwys yn y DU yn ystod y cyfnod pontio, fel y mae Rhan 4 o'r cytundeb ymadael drafft cyfredol yn ei ragweld, bydd angen gweithredu rhwymedigaethau cyfreithiol yr UE yn y wlad hon yn ystod y cyfnod hwnnw.