Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:55 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Wel, a gaf fi ddweud fy mod wedi fy siomi'n fawr wrth ddarllen sylwadau Bruce Robertson dros y penwythnos, ac ysgrifennais lythyr ato ddydd Llun i fynegi fy siom? Ac mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod ei sylwadau'n gyfeiliornus, a chredaf eu bod yn anghyson â barn y cyhoedd yng Nghymru. Rwy'n hapus i rannu'r llythyr hwnnw gydag Aelodau'r Cynulliad.