Trago Mills

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:01 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Siân Gwenllian Siân Gwenllian Plaid Cymru 3:01, 4 Gorffennaf 2018

Mae'n gwbl briodol eich bod chi yn beirniadu Trago Mills am eu sylwadau sarhaus at y Gymraeg, ond mae'n rhaid cofio mai beth ydy hyn mewn gwirionedd ydy'r enghraifft ddiweddaraf o broblem ehangach, a thystiolaeth goncrit mai ffolineb ydy credu y cawn ni chwarae teg i'r Gymraeg yn y sector breifat heb ddeddfwriaeth a thrwy ddibynnu ar ewyllys da. Rydych chi'n barod iawn eich beirniadaeth o record cwmnïau fel Sports Direct, GWR a rŵan Trago Mills ar y Gymraeg, ond yn llai parod o lawer i weithredu. 

Yn yr hydref, fe gytunodd y Cynulliad trawsbleidiol yma mai gweithredu sydd angen i ymestyn y safonau iaith i'r sector breifat. Sut felly ydych chi'n bwriadu gwireddu ewyllys y Cynulliad yma yn sgil y prawf pellach eto fyth fod angen gosod dyletswydd sylfaenol mewn cyfraith er mwyn i fusnesau mawrion barchu'r Gymraeg?