Trago Mills

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 2:59 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mohammad Asghar Mohammad Asghar Conservative 2:59, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Weinidog, cafodd agoriad siop Trago Mills ym Merthyr Tudful ym mis Ebrill, a greodd 350 o swyddi, ei groesawu'n fawr, gydag arweinydd y cyngor yn dweud ei fod yn ychwanegu at yr hyn a gynigir i siopwyr ym Merthyr Tudful a'i fod hefyd yn garreg filltir yn adfywiad cyffredinol y fwrdeistref sirol.

Felly, mae'n siomedig darllen y sylwadau hyn sydd wedi achosi dicter sylweddol ac a allai niweidio proffidioldeb y siop. Fel y dywedoch chi'n gynharach, Weinidog, ac rwy'n cytuno â chi, mae'n bwysig fod arweinwyr busnes yn deall ein bod yn wlad gynyddol ddwyieithog a'i bod yn fanteisiol yn fasnachol i fusnesau ddangos parch tuag at y ddwy iaith. Wyddoch chi, Weinidog, nid wyf yn gallu siarad Cymraeg, ond rwy'n credu bod y gallu i bob unigolyn fod yn ddwyieithog yn beth gwych, yn enwedig os ydych yn byw mewn gwlad ac rydych yn siarad yr iaith leol. Mae'n ymwneud â budd gwleidyddol, cymdeithasol, economaidd a diwylliannol yn ogystal â rhyngweithio rhwng busnesau a budd masnachol. Mae'n ymwneud â dod at ein gilydd. Iaith yw'r peth sy'n dod â ni at ein gilydd, ac undod yw'r rhinwedd orau un. Diolch.