5. Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar ei ymchwiliad i Iechyd Emosiynol ac Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc

Part of the debate – Senedd Cymru am 3:48 pm ar 4 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Julie Morgan Julie Morgan Labour 3:48, 4 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwy'n aelod o'r pwyllgor, a chredaf mai dyma un o'r ymchwiliadau mwyaf pwysig a gyflawnwyd gennym mewn gwirionedd. Gwn fod y Llywodraeth yn cydnabod bod iechyd emosiynol ac iechyd meddwl plant yn fater sy'n croesi cymaint o ffiniau rhwng cymaint o wahanol bobl a chymaint o wahanol sefydliadau—iechyd, ysgolion, sefydliadau cefnogi ieuenctid, clybiau ieuenctid, CAMHS—felly, croesawaf argymhelliad y pwyllgor a derbyniad y Llywodraeth y dylai fod yn flaenoriaeth genedlaethol, ond os oes gennych rywbeth yn flaenoriaeth genedlaethol, credaf fod yn rhaid ichi wneud popeth a allwch i'w chyflawni, ac yn yr argymhellion mwy manwl ni chawsom yr ymateb y gobeithiem ei gael mewn gwirionedd.

Rwy'n cytuno'n gryf â barn y pwyllgor y dylai pawb sy'n dod i gysylltiad â phlant roi eu lles a'u hiechyd meddwl yn flaenaf yn eu meddyliau, oherwydd beth allai fod yn bwysicach na chyflwr meddwl plentyn? Rhaid inni anelu i gael cenhedlaeth o blant hapus a sicr yn emosiynol, gyda meddylfryd cadarnhaol, ond i wneud hynny rhaid i Lywodraeth Cymru weithredu.

Mae'r adroddiad yn argymell y dylai pawb sy'n gofalu am blant, neu'n gwirfoddoli neu'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc gael hyfforddiant mewn ymwybyddiaeth o iechyd emosiynol ac iechyd meddwl fel y gallant fynd i'r afael â materion stigma a hyrwyddo iechyd meddwl da. Nawr, mae'r Llywodraeth yn derbyn hyn, ond mewn egwyddor yn unig. Mae'n siomedig gweld hyn yn cael ei ddisgrifio fel rhywbeth 'afrealistig'. Does bosib nad yw'r rhan fwyaf o bobl sy'n gweithio gyda phlant yn cael rhywfaint o leiaf o hyfforddiant cychwynnol, felly pam na allai hyn gynnwys elfen i godi ymwybyddiaeth fan lleiaf o bwysigrwydd gofalu am les emosiynol a meddyliol plant? Ni allaf weld bod unrhyw broblem o gwbl yn hynny, ac nid wyf yn gweld bod hynny'n afrealistig o gwbl. Credaf ei bod yn hanfodol ei fod wedi'i gynnwys mewn hyfforddiant cychwynnol i athrawon, a'r hyfforddiant y mae gweithwyr ieuenctid yn ei gael, yr hyfforddiant y mae staff iechyd yn ei gael, ac rwy'n meddwl o ddifrif fod hynny'n rhywbeth y gellid ei ymgorffori yn yr hyfforddiant sydd eisoes yn digwydd heb unrhyw drafferth. Felly, nid wyf yn derbyn bod gweithredu'r argymhelliad hwnnw'n afrealistig.

Nawr, pan fydd iechyd meddwl plentyn yn dioddef, credaf fod hynny'n achosi llawer iawn o straen a gofid i'w teulu, eu ffrindiau, yr ysgol, a phawb sy'n gweithio gyda hwy. Credaf fod goblygiadau iechyd meddwl plentyn mor bellgyrhaeddol ac mae llawer ohonom wedi profi'r problemau hynny. Gall teuluoedd wneud eu gorau i ddarparu ar gyfer eu plant yn emosiynol ac yn faterol, ond gall problemau gyda'ch iechyd emosiynol a'ch iechyd meddwl ddigwydd i bob teulu. Felly, mae iechyd meddwl plant yn broblem sy'n gallu effeithio ar deuluoedd o bob math. Ond credaf fod pawb ohonom yn gwybod bod yna grwpiau sy'n arbennig o agored i niwed, a dau o'r grwpiau hynny yw plant sy'n derbyn gofal a phlant wedi'u mabwysiadu, ac mae'n bwysig cyfleu hynny.

Yr wythnos diwethaf, noddais ddigwyddiad pan lansiodd Adoption UK eu hadroddiad o'r enw 'Bridging the Gap' ar roi cyfle cyfartal i blant wedi'u mabwysiadu yn yr ysgol. Mae angen cymorth ychwanegol ar blant wedi'u mabwysiadu yn yr ysgol, ac efallai nad yw ysgolion mor ymwybodol o hynny ag y dylent fod weithiau—mae yna fwlch yn y ddealltwriaeth. Ac mae'n dangos nad oedd 65 y cant o blant wedi'u mabwysiadu yn teimlo bod eu hathrawon yn deall yn iawn sut i'w cefnogi, a chodai hyn i 74 y cant yn ystod oedran ysgol uwchradd. Felly, credaf ei fod yn destun pryder mawr fod yr adborth gan blant wedi'u mabwysiadu—sydd, fel y gwyddom, oherwydd problemau ymlyniad y gallent fod wedi'u cael yn gynnar mewn bywyd, yn fwy agored i gael problemau iechyd meddwl—yn dangos nad oeddent yn teimlo y gallent droi at eu hathrawon. Rwy'n credu bod ein hadroddiad wedi adlewyrchu hynny mewn gwirionedd yn y rhan fwyaf o'r elfennau y buom yn ymdrin â hwy—fod plant yn gorfod gofyn am gymorth ac aros am gymorth mewn modd y mae'r Cadeirydd wedi'i alw'n annerbyniol.

Rwy'n teimlo y dylai'r Cynulliad hwn ei gwneud hi'n genhadaeth danbaid i sicrhau bod ein plant yn tyfu i fyny'n iach yn gorfforol ac yn feddyliol, ac mai ein cenhadaeth danbaid ni yw gwneud i hyn ddigwydd. Teimlaf felly fod yr adroddiad hwn yn nodi'r cyfan hyn, ond credaf mai mater i'r Llywodraeth yw sicrhau ei bod hi'n genhadaeth danbaid iddi hi yn ogystal, ac y gallwn, gyda'n gilydd, gydweithio i wneud ein plant yn hapus ac yn fodlon.