Part of the debate – Senedd Cymru am 4:23 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i'r pwyllgor am eu hadroddiad cynhwysfawr yn rhoi manylion y newid sylweddol y maent yn teimlo sydd ei angen yn y maes hwn? Ymunaf â David Melding i dalu teyrnged i Gadeirydd y pwyllgor, Lynne Neagle, am ei hymroddiad i'r materion hyn, nid yn unig yn yr adroddiad hwn, ond dros ei hamser yma fel Aelod Cynulliad. A gaf fi ymuno â hi hefyd i ddiolch i'r rhai a roddodd dystiolaeth bersonol i'r pwyllgor—nid yw hynny byth yn beth hawdd i'w wneud—a diolch hefyd i David a Lee sydd wedi sôn am eu profiadau personol eu hunain yn hyn o beth heddiw? Mae'n ein hatgoffa nad oes neb ag imiwnedd rhag problemau iechyd meddwl.
Mae cymorth iechyd emosiynol ac iechyd meddwl ar gyfer pobl ifanc yn fater sy'n torri ar draws portffolios ac yn faes lle na wnaiff dim ond gweithio trawslywodraethol ac amlasiantaethol effeithiol sicrhau'r gweithredu ataliol ac ymyraethol sydd ei angen er mwyn newid, ac mae'n hanfodol inni gael hyn yn iawn. Ac rwy'n dweud hynny, Ddirprwy Lywydd, nid yn unig fel Ysgrifennydd y Cabinet, ond fel mam i ferched yn eu harddegau. Mae gwella iechyd meddwl a lles meddyliol yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac er bod yr adroddiad yn cydnabod y bu gwelliannau mewn gwasanaethau, yn enwedig ar y pen arbenigol i'r ddarpariaeth iechyd meddwl, mae'n tynnu sylw at y maes lle y gallwn a lle mae'n rhaid inni wneud yn well ar gyfer ein pobl ifanc. Yn gyffredinol, credaf fod y pwyllgor a Llywodraeth Cymru yn rhannu'r un dyheadau, er ein bod yn anghytuno mewn rhai meysydd ynglŷn â'r ffordd orau o gyflawni hynny. Ond gallaf addo hyn i chi—yn bersonol, rwyf fi ac Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd wedi ymrwymo i weithio gyda'r pwyllgor a'i aelodau i wneud cynnydd ar yr agenda hon. Rydym wedi teithio'n bell, Ddirprwy Lywydd, ond fi fyddai'r cyntaf i gydnabod bod ffordd bell iawn i fynd o hyd. Ac mae'r araith gan Leanne Wood, a'r dystiolaeth y mae wedi'i chyflwyno o'i hetholaeth ei hun yn ategu hynny.
Ein nod yw sicrhau newid diwylliannol yng Nghymru i gyfeirio ffocws ar les pobl ifanc. Dylai atal fod yn un o ganlyniadau'r ffocws newydd hwn ar les, er mwyn inni symud ein pwyslais o reoli argyfwng i atal problemau iechyd meddwl rhag datblygu neu waethygu yn y lle cyntaf. Fel y cydnabu'r Cadeirydd, dyma sydd orau i'r unigolyn, er mwyn inni allu cyfyngu ar eu poen a'u trallod. Ond bydd hefyd yn creu lle o fewn gwasanaethau iechyd meddwl arbenigol i ganolbwyntio ar y plant a'r bobl ifanc sydd fwyaf o angen y gwasanaethau hynny er gwaethaf y cymorth a'r gefnogaeth.
Rydym yn disgwyl i feysydd gwahanol allu gweithio gyda'i gilydd fel bod gennym ymagwedd system gyfan sydd o ddifrif yn rhoi'r plentyn neu'r unigolyn ifanc yn y canol, ac i'r perwyl hwn, mae angen i ni barhau i adeiladu a gwella'r berthynas rhwng gwahanol wasanaethau.
Os caf droi'n syth at rai materion sy'n wynebu addysg, mae llawer o waith ar y gweill eisoes yn ein hysgolion i gefnogi'r ffocws newydd hwn ar les, megis datblygiad y cwricwlwm newydd a maes iechyd a lles o ddysgu a phrofiad, newidiadau i ddysgu proffesiynol, a rhwydwaith ymchwil iechyd yr ysgolion, gyda'r data newydd y maent wedi'i gasglu ar les.
Hefyd, cyn diwedd y tymor hwn, rwy'n gobeithio cyhoeddi offeryn diogelwch ar-lein ar gyfer plant i fynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau perthnasol iawn y cyfeiriodd Jayne Bryant atynt yn ei haraith ac effaith cyfryngau cymdeithasol ar iechyd meddwl pobl ifanc. O ran hyfforddi staff, a grybwyllwyd gan Julie Morgan, rydym ar hyn o bryd yn diwygio'r ffordd y darparir ein haddysg gychwynnol i athrawon yng Nghymru. Mae'r diwygiadau yn ei gwneud yn ofynnol i'r darparwyr addysg gychwynnol achrededig newydd i athrawon—a gyhoeddwyd ddydd Gwener yr wythnos diwethaf—gynllunio a chyflwyno cyrsiau sy'n ymdrin â maes iechyd a lles o ddysgu a phrofiad. Os nad ydynt yn gwneud hynny, ni chânt eu hachredu.
Nawr, o ran yr argymhelliad a gafodd lawer o sylw heddiw, mae'n hollol iawn wrth gwrs, Julie, i ddisgwyl bod pobl sy'n gweithio yn ein proffesiwn addysg ac yn ein gwasanaeth ieuenctid wedi cael eu hyfforddi yn hyn o beth. Ond mae'r argymhelliad yn dweud y dylid hyfforddi pob gwirfoddolwr sy'n gweithio gyda phlentyn hefyd, ac mae angen amser ychwanegol arnom i ystyried sut, yn ymarferol, y gellid cyflawni hynny, a sut y gallwn ei wneud heb unrhyw ganlyniadau anfwriadol fel anghymell pobl rhag gwirfoddoli gyda phlant o bosibl. A bydd angen inni ystyried yn fwy manwl sut y gallwn weithio gyda'r rhai sy'n cynorthwyo plant yn eu clwb pêl-droed ar ddydd Sadwrn, neu'r Brownis, Geids neu Sgowtiaid, neu hyd yn oed pobl fel fi a fy ngŵr, sy'n gwirfoddoli gyda'n clwb ffermwyr ifanc lleol—sut y gallwn wneud i hyfforddiant gorfodol weithio ar gyfer yr holl bobl sy'n rhoi cymaint o'u hamser i'w cymunedau heb unrhyw gost i'r wladwriaeth. Nid ydym am gael unrhyw ganlyniadau anfwriadol.
Mae'n amlwg fod angen i athrawon gael help a chefnogaeth i ymateb i blant sy'n profi anawsterau megis gorbryder, iselder neu hunan-niwed, ac rwy'n ddiolchgar iawn fod cydnabyddiaeth ar draws y Siambr na all hyn fod yn waith i athrawon yn unig. Rydym eisoes yn gofyn llawer iawn gan ein system addysg a'n gweithwyr proffesiynol, ac rwy'n ddiolchgar iawn fod yr Aelodau wedi cydnabod hyn.
Felly, mae gan y GIG rôl mewn ymgynghori a hyfforddi ar draws y sectorau, gan ddarparu cymorth cynnar mewn ysgolion gan staff wedi'u hyfforddi'n addas. Dyna pam, ym mis Medi y llynedd, y lansiodd Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd a minnau ar y cyd raglen fewngymorth CAMHS i ysgolion, a gefnogwyd gan £1.4 miliwn o fuddsoddiad i ddarparu cymorth proffesiynol penodol i ysgolion. Mae manteision gan wasanaethau ar sail ysgol o'r fath i staff ysgolion a'u dysgwyr, ond hefyd maent yn sicrhau budd i wasanaeth y GIG drwy leddfu'r pwysau ar CAMHS arbenigol, a lleihau atgyfeiriadau amhriodol, ac yn hollbwysig, maent yn adeiladu'r berthynas sydd angen inni ei hadeiladu rhwng gwahanol sectorau'r gwasanaeth cyhoeddus. [Torri ar draws.] Mae angen inni—. Wrth gwrs.