Part of the debate – Senedd Cymru am 4:34 pm ar 4 Gorffennaf 2018.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae gennyf dri munud a 30 eiliad i ateb, sy'n cyfyngu braidd ar yr hyn y gallaf ei wneud. Felly, gobeithio y bydd yr Aelodau'n maddau imi os nad wyf yn ymateb i bob cyfraniad unigol, ond hoffwn eich sicrhau y byddwn yn mynd drwy'r Cofnod ac yn gwneud yn siŵr fod pawb yn cael ymateb i'r ddadl bwysig hon. Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi siarad, ar draws y pleidiau. Mae hi mor galonogol clywed y gefnogaeth enfawr sydd yn y lle hwn i'r newid sylweddol y gŵyr y pwyllgor fod ei angen. Yn arbennig—er imi ddweud nad oeddwn yn bwriadu ymateb i gyfraniadau unigol—hoffwn ddiolch i David a Lee am rannu eu profiadau personol, sy'n dangos dewrder ond hefyd mae'n helpu pawb arall i sylweddoli ei bod hi'n iawn iddynt siarad am y pethau hyn. Felly, diolch i'r ddau ohonoch.
Dylwn ddiolch, hefyd, i'n clerc gwych a'n tîm ymchwil ardderchog. Rydym yn wirioneddol ffodus, fel pwyllgor, i gael tîm mor wych yn ein cefnogi. Diolch i aelodau'r pwyllgor sydd wedi gweithio'n galed iawn ar yr ymchwiliad pwysig hwn a diolch unwaith eto i'r rhanddeiliaid sydd wedi dod atom mor barod a rhannu eu profiadau mewn ffordd mor rymus. Credaf mai'r pwyllgorau yw un o gryfderau mawr y Cynulliad hwn, ac rydym yn freintiedig, a dylem fod yn ddiolchgar fod pobl wedi dod atom i rannu eu safbwyntiau yn y ffordd honno. Nid oes gan neb fonopoli ar syniadau da, a gobeithiaf fod hynny'n rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ystyried. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am ei hymateb a diolch iddi am ei hymwneud â mi, fel arfer. Hyd yn oed lle nad ydym wedi cytuno, bu parodrwydd i ymgysylltu, a gwn ei bod yn bersonol yn ymroddedig iawn i fynd i'r afael â'r materion hyn.
Gobeithio y bydd y Llywodraeth yn ystyried yr ymateb, oherwydd mae hyd yn oed sylwadau Ysgrifennydd y Cabinet yno yn tynnu sylw at rai o'r anghysonderau, mewn gwirionedd. Rwy'n siomedig fod Llywodraeth Cymru mor bryderus ynglŷn â gweld pawb—neu bobl sy'n gweithio gyda phlant—yn cael rhywfaint o hyfforddiant iechyd meddwl sylfaenol, oherwydd nid wyf yn credu bod hynny'n rhy uchelgeisiol. Mae digonedd o fodelau allan yno. Nid oes ond angen i chi edrych ar Cyfeillion Dementia—45 munud i roi dealltwriaeth dda iawn i chi. Clywodd y pwyllgor iechyd am hyfforddiant atal hunanladdiad 20 munud o hyd. Mae modelau ar gael allan yno, ac ni chredaf y dylai fod yn ormod o ddyhead inni geisio gwneud hyn ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc.
Rwy'n falch gyda'r symud a fu, ond mae angen llawer iawn mwy. Hoffwn ddweud bod y symud ar yr argymhelliad 'canol coll' yn enghraifft bwerus iawn, mewn gwirionedd, o'r modd nad yw'r ymateb hwn wedi cael ei ystyried yn briodol yn fy marn i, oherwydd pe bai pobl wedi darllen y naratif, wedi deall y naratif ac wedi sylweddoli bod hyn yn digwydd yng Ngwent beth bynnag, yna ni ddylai fod angen ei wrthod yn y ffordd honno. Felly, nid yw'n rhoi darlun da o Lywodraeth gydgysylltiedig ar fater mor bwysig.
A gaf fi orffen felly drwy ddiolch unwaith eto i'r bobl ifanc—y bobl ifanc sydd yma ar gyfer y ddadl hon, ond hefyd yr holl bobl ifanc sydd wedi cymryd rhan yn yr ymchwiliad ac y gwn fod hyn mor bwysig iddynt? Rwy'n eu sicrhau ein bod wedi clywed eu lleisiau ac fel pwyllgor, byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn gyda'r brys mwyaf i gael y newid sylweddol sydd ei angen arnom. Mae'n ymwneud â mwy na siarad am ymyrraeth gynnar. Mae'n ymwneud â mwy na honni bod iechyd meddwl yn gydradd ag iechyd corfforol. Mae'n ymwneud â darparu hyn ar gyfer ein plant a'n pobl ifanc. Os cawn hynny'n iawn, nid yn unig y byddwn yn gwella ansawdd eu bywydau, rwy'n credu y byddwn yn achub bywydau hefyd. Diolch.