Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:50 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i gynnal hawliau plant a phobl ifanc ledled Cymru, ond eto rydym ni wedi gweld nifer o adroddiadau diweddar yn y misoedd diwethaf lle mae Llywodraeth Cymru yn siomi plant a phobl ifanc. Wrth gwrs, un ffordd y gallai Llywodraeth Cymru gynorthwyo plant a phobl ifanc yn well a chynnal eu hawliau yw trwy gefnogi fy mil Awtistiaeth arfaethedig, sydd wedi cael cefnogaeth cyrff annibynnol fel y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn wir ac a gefnogir gan lawer yn y Siambr hon. Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo nawr felly i gefnogi'r Bil awtistiaeth, a fydd yn anfon neges eglur i blant a phobl ifanc ledled Cymru y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i'w cynorthwyo?