1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:37 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd grŵp UKIP, Caroline Jones.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae Llywodraeth y DU mewn cythrwfl ac yn benderfynol, mae'n ymddangos, o wneud cymaint o lanastr llwyr o Brexit fel nad oes gennym ni unrhyw ddewis heblaw aros yn yr Undeb Ewropeaidd, er gwaethaf dymuniadau etholwyr y DU. Cefnodd David Cameron ar y DU, yn amharod i gyflawni dymuniadau democrataidd yr etholwyr. Mae Theresa May wedi gwneud cawl o bob trafodaeth gyda'r UE, ac mae gan Weinidogion Torïaidd uwch fwy o ddiddordeb mewn edrych ar eu cyfleoedd arweinyddiaeth na thynged ein gwlad. Ac mae hyn i gyd wedi cyrraedd cresendo erbyn hyn, gyda chynllun ar gyfer Brexit nad yw'n cyflawni Brexit. Mae cynigion Chequers yn golygu ein bod ni'n parhau i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau'r UE, heb allu eu newid na dylanwadu arnynt, ac ni fyddem yn gallu cynnal polisïau masnach annibynnol, gan lesteirio ein gallu i ddod i gytundebau masnachol y tu allan i'r UE. Byddai hyn yn ein gadael yn ddarostyngedig i reolau'r UE a Llys Cyfiawnder Ewrop a byddem yn cael ein gorfodi i dderbyn rheolau sydd o fudd i'n cystadleuwyr cyfandirol. Nid dyma wnes i bleidleisio drosto ac nid dyma bleidleisiodd mwyafrif pleidleiswyr y DU drosto. Mae allan yn golygu allan. Prif Weinidog, a ydych chi'n cefnogi'r safbwynt a fabwysiadir gan gytundeb Chequers, neu a ydych chi'n cytuno â mi ei fod yn gytundeb mor ddi-drefn fel bod yn rhaid i ni ddechrau o'r dechrau?
Nid wyf yn cytuno gyda'r un o'r ddau. Rwy'n credu mai'r hyn sydd ei angen arnom ni yw ateb synhwyrol sy'n golygu ein bod ni'n aros yn yr undeb tollau, gyda mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl. Ac, yn anad dim, mae hi'n iawn—mae Llywodraeth y DU mewn cythrwfl. Dyna pam mae angen Llywodraeth Lafur arnom ni yn Whitehall.
Prif Weinidog, yn anffodus, mae safbwynt y Blaid Lafur yn ddryslyd. Mae'r AS Llafur dros Aberafan yn credu'n gryf y dylai Llafur ymrwymo'n llwyr i fodel Brexit a fyddai'n golygu bod y DU yn parhau i wneud cyfraniadau ariannol i'r UE a derbyn llawer o'i ddeddfau. Mae'n amlwg nad yw arweinydd y Blaid Lafur yn San Steffan yn siŵr beth y mae ef ei eisiau—un diwrnod, mae angen i ni aros yn y farchnad sengl a'r undeb tollau, a'r diwrnod wedyn mae'n rhaid cael perthynas fasnach ddi-dariff gydag Ewrop a datblygu undeb tollau i fynd ochr yn ochr â hynny. Mae Cabinet yr wrthblaid wedi gweld mwy o ymddiswyddiadau na phenodiadau, ac mae Ysgrifennydd Brexit yr wrthblaid yn galw am ail refferendwm Brexit erbyn hyn, wedi ei ddylanwadu yn ôl pob golwg gan aelodau allweddol o undeb Unite. Prif Weinidog, beth yw safbwynt eich plaid chi ar Brexit? Ai'r safbwynt a amlinellwyd gennych chi gydag arweinydd Plaid Cymru? Ai dyna'r safbwynt? Neu, ai safbwynt y Blaid Lafur yw eich safbwynt, os gwelwch yn dda?
Y cyntaf.
Mae'n ddrwg gen i?
Caroline Jones.
Yn ôl eto, aie? Dim ateb. Iawn. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i?
Y cyntaf—yr hyn a gytunwyd gennym gyda Phlaid Cymru.
Fe wnaeth ef ateb, a dweud—
Gyda Phlaid Cymru. Diolch. Mae'n ddrwg gen i, ni wnes i ddim clywed hynna'n iawn. Diolch, Prif Weinidog.
Sylwaf bod eich Llywodraeth wedi amlinellu heddiw cynigion ar gyfer cymorthdaliadau fferm pe byddem ni fyth yn gadael yr UE, a chroesawaf y cynigion, sydd, yn ôl yr RSPB, yn nodi ffordd newydd o weithio. Mae'r polisi amaethyddol cyffredin wedi rhoi cadwraethwyr a ffermwyr benben â'i gilydd yn y frwydr am dir, felly bydd hyn yn rhoi terfyn ar yr agwedd hon. Yn ôl eich Ysgrifennydd Cabinet, mae Brexit yn gyfle unigryw i gyflwyno polisi wedi'i deilwra i Gymru sy'n cyflawni ar gyfer ein heconomi, ein cymdeithas a'r amgylchedd naturiol, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r datganiad hwn.
Felly, Prif Weinidog, mae'n amlwg nad ydym ni'n mynd i allu dylanwadu ar y trafodaethau Brexit gyda Llywodraeth y DU, a fydd yn anwybyddu ein safbwyntiau’n llwyr, ond gallwn geisio manteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan ein hymadawiad â'r UE: felly, polisïau amaethyddiaeth a chadwraeth wedi'u teilwra, polisïau pysgodfeydd wedi'u teilwra a pholisïau masnach wedi'u teilwra. Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ei bod hi'n bryd nawr i ganolbwyntio ar y cyfleoedd sydd o'n blaenau ac yn agored i ni, yn hytrach na phwysleisio'r risgiau? Wedi'r cyfan, roeddem ni i fod mewn dirwasgiad dwfn erbyn hyn. Yn hytrach, mae buddsoddiad mewn busnes yn ffynnu, a ddylai fynd gryn ffordd i roi teimlad cadarnhaol i ddarpar fuddsoddwyr. Felly, sut gwnewch chi annog mewnfuddsoddiad i Gymru, os gwelwch yn dda?
Wel, yn gyntaf oll, mae'n gwbl eglur bod llawer o fusnesau yn pryderu am y posibilrwydd o Brexit caled. Rydym ni wedi clywed Airbus yn ei ddweud, rydym ni wedi clywed JLR yn ei ddweud, ac rydym ni wedi clywed pobl eraill yn ei ddweud. Iddyn nhw, nid yw Brexit caled yn gweithio. Mae'n iawn i ddweud bod gennym ni gyfle i lunio polisi ffermio fel y byddem yn dymuno, yn amodol, wrth gwrs, ar gael fframwaith wedi'i gytuno'n gyffredin—sy'n bwysig—ar draws y DU gyfan. Ac arian. Y gwir amdani yw nad oes gennym ni unrhyw sicrwydd ynghylch yr arian. Mae dau gant a thrigain miliwn o bunnoedd y flwyddyn yn cael ei roi mewn cymorthdaliadau ffermio yng Nghymru. Ni allwn ddod o hyd i'r arian hwnnw. Gallaf ddweud hynny nawr. Mae'n amhosibl. Mae'n rhaid iddo gael ei neilltuo, yn fy marn i, mewn pot ar wahân gan Lywodraeth y DU, a'i ddosbarthu fel a wneir ar hyn o bryd tan fod cytundeb i newid pethau. Mae hynny'n hynod o bwysig. Ond, nid oes dim o hyn yn golygu unrhyw beth heb farchnad.
Y gwir amdani yw bod 90 y cant o'n hallforion bwyd a diod yn mynd i'r farchnad sengl. Daearyddiaeth sy'n dylanwadu ar hynny. Mae llawer o'r hyn yr ydym ni'n ei gynhyrchu—os edrychwn ni ar bysgod, er enghraifft—yn ddarfodus. Yn syml, mae'n haws ei werthu yn y farchnad Ewropeaidd nag y mae hi i'w gludo hanner ffordd ar draws y byd i farchnad arall. Felly, y gwir yw, gallwn, mi allwn ni edrych ar sicrhau bargen well i'n ffermwyr yng Nghymru, cyhyd ag y bydd yr arian ar gael gan San Steffan. Ond, nid yw dim o hyn yn golygu unrhyw beth oni bai ei bod yn gallu gwerthu eu cynnyrch. Oni bai eu bod yn gallu cael pysgod a chynhyrchion darfodus, er enghraifft, ar draws drwy Dover ac i mewn i borthladdoedd Ffrainc cyn gynted â phosibl, allan nhw ddim gwerthu unrhyw beth, a dyna pam mae'n hynod bwysig ein bod ni'n osgoi Brexit caled.
Arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae ar y cofnod eich bod chi wedi dweud bod pawb yn rhedeg o gwmpas yn sgrechian, pan ofynnais i chi yr wythnos diwethaf beth yw eich cynllun ar gyfer Brexit 'dim cytundeb'. Mae San Steffan mewn anhrefn, ac mae gadael yr UE heb gytundeb yn edrych yn fwy tebygol nag erioed erbyn hyn. Felly, a wnewch chi ymrwymo nawr i ddatblygu cynllun 'dim cytundeb' i ddiogelu swyddi a chyflogau Cymru, a chyfleoedd cenedlaethau'r dyfodol?
Rwy'n credu fy mod i newydd ateb y cwestiwn yna. Nid oes unrhyw fesurau lliniaru yn erbyn dim cytundeb. Ni fyddai'n iawn i ddweud hynny. Y gwir amdani yw, os byddwn ni'n cael Brexit 'dim cytundeb', byddwn yn colli swyddi, a byddwn yn colli buddsoddiad. Nid oes unrhyw amheuaeth am hynny, a dyna pam yr wyf i wedi brwydro'n galed yn erbyn Brexit 'dim cytundeb'. Nid yw hynny'n golygu, wrth gwrs, nad ydym ni'n gwneud unrhyw beth o ran paratoi ar gyfer Brexit. Bydd hi wedi fy nghlywed i'n dweud yn gynharach yr hyn yr ydym ni wedi bod yn ei wneud. Rydym ni hefyd wedi sefydlu, wrth gwrs, cronfa bontio'r UE—£50 miliwn sy'n helpu busnesau, gwasanaethau cyhoeddus a sefydliadau eraill i gynllunio ar gyfer a pharatoi ar gyfer effaith Brexit. Felly, oes, mae gennym ni nifer o grwpiau lle'r ydym ni'n siarad â rhanddeiliaid. Mae gennym ni arian ar y bwrdd hefyd. Ond does bosib y gall neb esgus y gellir lliniaru'n llawn yn erbyn Brexit 'dim cytundeb', oherwydd ni ellir gwneud hynny.
Prif Weinidog, rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno bod Llywodraeth San Steffan yn gwneud llanastr go iawn o Brexit, ac mae'r sefyllfa mor wan. Yr wythnos diwethaf, cydsyniodd Plaid Cymru—. Mae'n ddrwg gen i, nid Plaid Cymru wnaeth gydsynio i brif Fil Brexit San Steffan, nage? Ac nid Plaid Cymru wnaeth atal y pleidleisiau a allai fod wedi ein cadw yn y farchnad sengl. Ac nid Plaid Cymru bleidleisiodd i sbarduno erthygl 50 heb gynllun. Prif Weinidog, y Blaid Lafur wnaeth yr holl bethau hynny—dim mewnbwn, a dim golwg ar bapur Brexit San Steffan hyd yn oed. Nawr, ai dyma oedd yr Ysgrifennydd dros gyllid yn ei olygu pan ddywedodd bod y cytundeb hwn gyda'r Ceidwadwyr, a dyfynnaf, yn gam sylweddol tuag at weithio rhynglywodraethol teg, neu, o edrych yn ôl, a oedd eich Llywodraeth chi yn anghywir i roi cydsyniad i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael), a fydd yn helpu i ychwanegu at yr anhrefn yr ydym ni eisoes yn ei weld yn San Steffan?
O ran yr hyn a ddywedodd am y ffaith fod hwn yn gam pwysig at gydweithredu rhynglywodraethol, rwy'n credu bod Nicola Sturgeon, Prif Weinidog yr Alban, wedi dweud yr un peth. Felly, ydy, mae'n gam pwysig, ond yn amlwg mae gan Lywodraethau'r Alban a Chymru wahanol safbwyntiau. Y gwir amdani yw na allaf i fod yn atebol am yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan; Prif Weinidog Cymru wyf i. A bydd hi'n gwybod, gan weithio gyda'i phlaid, ein bod ni wedi datblygu'r hyn yr wyf i'n ei gredu yw'r polisïau a ystyriwyd yn fwyaf trylwyr a synhwyrol o unrhyw fan yn y DU. Rydym ni wedi gweithio trwy bolisïau, wedi gweithio gyda'i phlaid hi, sy'n darparu ar gyfer, ie, darparu canlyniad y refferendwm, ond hefyd Brexit meddal, polisi masnach synhwyrol, perthynas synhwyrol â'r UE, mynediad llawn a dilyffethair at y farchnad sengl—rydym ni wedi rhannu'r holl bethau hyn gyda'n gilydd. Rydym ni'n parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU. Mae'n ymddangos, rydym ni'n gobeithio, eu bod nhw'n gwrando i ryw raddau, o gofio bod y cytundeb Chequers yn mynd ymhellach o lawer tuag at lle'r ydym ni'n credu y dylai'r DU fod na'r hyn a oedd yn wir yn flaenorol.
Sut gallwch chi ddisgwyl i Lywodraeth y DU wrando ar yr hyn yr ydym ni ei eisiau ar y cyd pan na allwch chi hyd yn oed gael eich plaid eich hun i dderbyn y safbwynt hwnnw? Mae eich ASau yn pleidleisio yn erbyn y safbwynt a gytunwyd ar y cyd y mae eich plaid chi a'm plaid innau wedi ei gytuno yn y Cynulliad hwn.
Prif Weinidog, rydym ni'n wynebu ansicrwydd yn y fan yma fel nad ydym ni erioed wedi ei wynebu o'r blaen. Gyda dim ond wythnosau o amser trafod yn weddill, a San Steffan mewn mwy o anhrefn nag erioed, pam ydych chi'n gwrthod derbyn realiti? Mae Brexit 'dim cytundeb' ar fin ein taro, ac nid wyf i'n credu bod eich Llywodraeth yn gwneud hanner digon i amddiffyn y wlad hon. Nawr, fel democrat, rwy'n credu y dylai pobl gael lleisio eu barn ar y cytundeb terfynol, felly, Prif Weinidog, nawr ein bod ni'n gwybod ei fod yn edrych fel naill ai cytundeb gwael neu 'ddim cytundeb', a wnewch chi gefnogi pleidlais i'r bobl nawr, fel y gallwn ni gael cyfle i wrthod y Brexit eithafol yr ydych chi a minnau'n gwybod fydd yn achosi cymaint o niwed i bobl ac i economi'r wlad hon?
Wel, fy marn i erioed fu y dylai unrhyw gytundeb gael ei gadarnhau gan Seneddau—lluosog—y DU. Os na fydd hynny'n digwydd, byddai'n rhaid penderfynu'r mater naill ai drwy etholiad neu, yn wir, o bosibl, drwy refferendwm ar y cytundeb ei hun. Oherwydd, os nad oes unrhyw ffordd arall o'i ddatrys, yna mae gan y bobl a bleidleisiodd yn 2016 berffaith hawl i benderfynu pa fath o gytundeb y maen nhw eisiau ei gymeradwyo o 2018 ymlaen. Mae'n ymddangos yn briodol y dylai hynny ddigwydd. Ond mae'n ymddangos i mi mai'r peth cyntaf i'w wneud yw i Seneddau'r DU archwilio unrhyw gytundeb a phenderfynu ar ba un a ddylid cefnogi'r cytundeb hwnnw ai peidio. Os bydd wedyn, er enghraifft, etholiad cyffredinol os caiff y cytundeb hwnnw ei wrthod, a bod hwnnw'n arwain at ganlyniad amhendant, wel, sut arall y gellir ei ddatrys heblaw drwy refferendwm ar y cytundeb? Rwy'n credu bod hynny'n dod yn anochel ar yr adeg honno.
Ar ran yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gynorthwyo plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu?
Rydym ni wedi gwneud llawer iawn, fel y bydd ef yn gwybod—er enghraifft, y ffaith ein bod ni wedi helpu awdurdodau lleol o ran darparu gwasanaethau ar gyfer gofal plant; y ffaith, er enghraifft, ein bod ni wedi cyfrannu cymaint o arian at wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed, lle mae cymaint o bobl ifanc wedi elwa ar yr £8 miliwn ychwanegol yr ydym ni wedi ei roi i CAMHS; ac, wrth gwrs, mae gennym ni'r comisiynydd plant yno, sy'n gallu ein cynghori ni o ran beth arall y gallai fod angen i ni ei wneud.
Wel, Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o'r adroddiad sy'n peri pryder mawr a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru a ddangosodd, ar sawl cyfrif, bod Llywodraeth Cymru yn methu â darparu'r cymorth sydd ei angen ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu. Roedd yr adroddiad yn dangos bod 83 y cant o rieni a holwyd yn dweud eu bod yn poeni bod eu plant wedi'u hynysu yn gymdeithasol, a tynnodd llawer sylw at bryderon am fwlio. Prif Weinidog, yng ngoleuni'r adroddiad damniol hwn, a allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i fynd i'r afael â'r pryderon a amlygwyd gan y comisiynydd plant a chynorthwyo plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu?
Wel, mae'n hynod bwysig gydag adroddiad fel hwn bod ymateb priodol yn cael ei roi gan Lywodraeth, a bydd yr ymateb hwnnw'n cael ei roi, wrth gwrs, ac ystyriaeth yn cael ei rhoi i'r hyn y mae'r comisiynydd plant wedi ei ddweud mewn gwirionedd.
Prif Weinidog, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymrwymo i gynnal hawliau plant a phobl ifanc ledled Cymru, ond eto rydym ni wedi gweld nifer o adroddiadau diweddar yn y misoedd diwethaf lle mae Llywodraeth Cymru yn siomi plant a phobl ifanc. Wrth gwrs, un ffordd y gallai Llywodraeth Cymru gynorthwyo plant a phobl ifanc yn well a chynnal eu hawliau yw trwy gefnogi fy mil Awtistiaeth arfaethedig, sydd wedi cael cefnogaeth cyrff annibynnol fel y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol a'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn wir ac a gefnogir gan lawer yn y Siambr hon. Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo nawr felly i gefnogi'r Bil awtistiaeth, a fydd yn anfon neges eglur i blant a phobl ifanc ledled Cymru y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i'w cynorthwyo?
Byddwn yn gwneud popeth o fewn ein gallu i gynorthwyo rhieni ac, yn wir, pobl ifanc ag awtistiaeth. Nid yw hynny o reidrwydd yn golygu bod yn rhaid ei wneud trwy gyfrwng Bil. Mae'n hynod bwysig bod adnoddau ar gael ac rydym ni wedi gwneud hynny o ran cymorth. Mae hefyd yn hynod bwysig ein bod ni'n gallu gweithio gyda sefydliadau i ddarparu'r pecyn gorau ar gyfer pobl ifanc ag awtistiaeth. Felly, er fy mod i'n argyhoeddedig y byddai Bil yn llwyddo i'w wneud, mae'n eithriadol o bwysig ein bod ni'n edrych i weld pa adnoddau ychwanegol y gellir eu nodi er mwyn helpu'r bobl hynny sy'n byw gyda'r cyflwr bob dydd.