Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:55 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Rwy'n credu bod hynny'n anodd iawn. Mae dwy ffordd y gallwch chi ddarganfod hawl rhywun i bleidleisio. Preswyliad yw un, wrth gwrs; a dinasyddiaeth yw'r llall. Nid oes gennym ni ddinasyddiaeth Gymreig. Mae rhai yn y Siambr, mi wn, a fyddai'n ceisio hyrwyddo hynny, ond, yn absenoldeb dinasyddiaeth Gymreig, preswyliad yw'r unig ffordd o'i wneud. Y cwestiwn wedyn yw: pa mor bell yn ôl ydych chi'n mynd? Beth os bydd rhywun yn byw yng Nghymru am wythnos neu ddwy? A yw hynny'n golygu ei fod yn gymwys? Rwy'n credu bod llawer o anawsterau yn y fan yna y byddai angen eu datrys er mwyn i newid i'r gyfraith fod yn ymarferol.