Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:56 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Byddwn. Mae'n rhaid imi ddweud, rydym ni wedi gweld un digwyddiad etholiadol yn y DU, sef refferendwm yr Alban, pryd y caniatawyd i bobl 16 a 17 mlwydd oed bleidleisio. Ar ôl sefydlu'r cynsail hwnnw, ni welaf pam na all hynny weithredu yn y dyfodol ar gyfer pob un ohonyn nhw—ar gyfer etholiadau a refferenda. Ymddengys iddo weithio'n dda iawn yn yr Alban; roedd y nifer a bleidleisiodd yn ymddangos yn uchel iawn ymhlith y rhai a oedd yn 16 a 17 mlwydd oed, sy'n dangos eu bod yn cymryd rhan, ar y naill ochr neu'r llall, yn y materion yn 2014. Dyna pam yr wyf i'n cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16.