Gweithgareddau Hamdden Awyr Agored

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:51 pm ar 10 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Neil Hamilton Mr Neil Hamilton UKIP 1:51, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ymateb yna. Mae etholwr sy'n feiciwr oddi ar y ffordd brwd wedi ysgrifennu ataf i o Gydweli i gwyno bod darn mawr o dir ger Merthyr Tudful sy'n eiddo i Cyfoeth Naturiol Cymru wedi ei brydlesu i gwmni preifat ac yn masnachu o dan yr enw BikePark Wales, ac o ganlyniad i hynny bu cyfyngiad ar fynediad cyhoeddus i'r tir hwnnw. Ac edrychais ar wefan BikePark Wales y bore yma, sy'n dweud:

Bydd unrhyw dresmasiad ar y llwybrau heb drwydded ddilys yn destun dirwy yn y fan a'r lle, a bydd hyn yn cael ei orfodi gan ein swyddogion.

Agwedd braidd yn unbenaethol i'w mabwysiadu o dan yr amgylchiadau hyn. A all y Prif Weinidog ddweud wrthyf beth yw'r polisi ar fynediad cyhoeddus i dir sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru at ddibenion cerdded a beicio, a sut y gallai'r polisi newydd hwn o breifateiddio effeithio ar fenter Cymru egnïol trwy wahardd pobl leol rhag cael mynediad rhydd ac anghyfyngedig?