Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:52 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Wel, nid wyf yn ymwybodol o'r darn o dir y mae'n sôn amdano, ond, yn sicr, ni allaf weld unrhyw ffordd gyfreithiol y gall pobl gael arian wedi ei wasgu oddi wrthynt dim ond am eu bod yn sefyll ar ddarn o dir. Ni allaf weld unrhyw ffordd lle y gellir gorfodi hynny mewn unrhyw ffordd gyfreithlon. Ond, os gwnaiff yr Aelod ysgrifennu ataf gyda rhagor o fanylion, byddaf, wrth gwrs, yn falch o edrych ar hyn yn fanylach.