Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:01 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Diolch yn fawr iawn am yr ateb, Prif Weinidog. Mae'r ddarpariaeth o lefel sylfaenol o ofal asthma, fel y nodir yn y canllawiau clinigol, yn cyfrannu at gadw dioddefwyr allan o'r ysbyty ac, yn y pen draw, at achub bywydau. Yn ôl Asthma UK, Cymru yw'r lle gwaethaf yn y Deyrnas Unedig i fod yn ddioddefwr asthma, gydag ychydig dros chwarter y bobl yn derbyn pob elfen o ofal sylfaenol, o'i gymharu â dros draean yn Lloegr, a bron i hanner yng Ngogledd Iwerddon. Pa gamau wnaiff eich Llywodraeth eu cymryd i wella gwasanaethau i ddioddefwyr asthma fel bod mwy o bobl yng Nghymru yn cael pob elfen o ofal sylfaenol?