Dioddefwyr Asthma

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:02 pm ar 10 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:02, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r grŵp gweithredu anadlol cenedlaethol yn amlwg yn cydnabod arwyddocâd asthma fel salwch. Mae wedi sefydlu ffrwd gwaith cenedlaethol ac wedi penodi clinigydd arweiniol ar gyfer Cymru i gydgysylltu gweithgarwch byrddau iechyd. Mae'n hynod bwysig bod cleifion yn cael adolygiad asthma cynhwysfawr; mae hynny'n flaenoriaeth i ni. Rydym ni hefyd yn bwriadu datblygu canllawiau rhagnodi Cymru gyfan, canllawiau asthma pediatrig a sefydlu grŵp asthma anodd ar gyfer rheoli achosion mwy cymhleth. Ceir pwyslais ehangach hefyd ar yr adolygiad cenedlaethol o farwolaethau oherwydd asthma a mesur safonau drwy'r rhaglen genedlaethol ar gyfer archwilio asthma ac afiechydon ysgyfeiniol rhwystrol cronig .