Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:48 pm ar 10 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 1:48, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Wel, fy marn i erioed fu y dylai unrhyw gytundeb gael ei gadarnhau gan Seneddau—lluosog—y DU. Os na fydd hynny'n digwydd, byddai'n rhaid penderfynu'r mater naill ai drwy etholiad neu, yn wir, o bosibl, drwy refferendwm ar y cytundeb ei hun. Oherwydd, os nad oes unrhyw ffordd arall o'i ddatrys, yna mae gan y bobl a bleidleisiodd yn 2016 berffaith hawl i benderfynu pa fath o gytundeb y maen nhw eisiau ei gymeradwyo o 2018 ymlaen. Mae'n ymddangos yn briodol y dylai hynny ddigwydd. Ond mae'n ymddangos i mi mai'r peth cyntaf i'w wneud yw i Seneddau'r DU archwilio unrhyw gytundeb a phenderfynu ar ba un a ddylid cefnogi'r cytundeb hwnnw ai peidio. Os bydd wedyn, er enghraifft, etholiad cyffredinol os caiff y cytundeb hwnnw ei wrthod, a bod hwnnw'n arwain at ganlyniad amhendant, wel, sut arall y gellir ei ddatrys heblaw drwy refferendwm ar y cytundeb? Rwy'n credu bod hynny'n dod yn anochel ar yr adeg honno.