Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 1:49 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Wel, Prif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o'r adroddiad sy'n peri pryder mawr a gyhoeddwyd gan Gomisiynydd Plant Cymru a ddangosodd, ar sawl cyfrif, bod Llywodraeth Cymru yn methu â darparu'r cymorth sydd ei angen ar gyfer plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu. Roedd yr adroddiad yn dangos bod 83 y cant o rieni a holwyd yn dweud eu bod yn poeni bod eu plant wedi'u hynysu yn gymdeithasol, a tynnodd llawer sylw at bryderon am fwlio. Prif Weinidog, yng ngoleuni'r adroddiad damniol hwn, a allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i fynd i'r afael â'r pryderon a amlygwyd gan y comisiynydd plant a chynorthwyo plant a phobl ifanc sydd ag anableddau dysgu?