Plant ag Epilepsi

Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 10 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Carwyn Jones Carwyn Jones Labour 2:04, 10 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'r Aelod yn gwbl gywir i ddweud, ar hyn o bryd, bod gwasanaethau ar gyfer cleifion yn ne Cymru sydd angen mynediad at gymorth ar gyfer deiet ketogenic yn cael eu darparu ym Mryste. Mae hynny'n wir. Gellir cael mynediad at y gwasanaeth trwy gais am gyllid ar gyfer cleifion unigol. Gallaf ddweud wrth yr Aelod bod swyddogion yn gwybod am drafodaethau rhwng bwrdd iechyd prifysgol Caerdydd a'r Fro a Phwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru am y posibilrwydd o ddarparu'r gwasanaethau hynny yn fwy lleol bellach. Felly, mae'r materion hynny yn parhau cyn belled ag y mae de Cymru yn y cwestiwn, ac edrychaf ymlaen at ganlyniad cadarnhaol o'r trafodaethau hynny i weld pa un a allwn ni ddarparu'r gwasanaeth yn nes at dde Cymru ar yr adeg hon na'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd.