Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:14 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Rwy'n ddiolchgar iawn am y ffaith bod y gwasanaeth hwnnw ar gael i bobl yn fy etholaeth i fy hun. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol, fodd bynnag, bod rhai pobl o'r gogledd yn manteisio ar wasanaethau mamolaeth yng Nghaer yn Ysbyty Iarlles Caer. Bu sgandal diweddar yno gyda nyrs sydd wedi ei harestio ar amheuaeth o ladd wyth o fabanod. Mae rhai rhieni yn y gogledd sydd wedi colli plant yn amlwg yn bryderus iawn am y newyddion hynny ac eisiau gweld ymchwiliadau i farwolaethau eu plant. Pa gymorth mae Llywodraeth Cymru yn ei roi ar waith ar gyfer rhieni o'r gogledd sydd wedi colli plant ac sy'n bryderus iawn ynghylch y ffordd y'u collwyd a pha un a oes goblygiadau iddyn nhw o ganlyniad i'r ymchwiliad parhaus hwn?