Part of 1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog – Senedd Cymru am 2:13 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Gwnaf. Mae bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr yn cynnig ystod lawn o wasanaethau mamolaeth i fenywod o'r gogledd o enedigaeth yn y cartref neu yn yr ysbyty, gan gynnwys gofal a arweinir gan fydwreigiaeth ac obstetreg a chyfleusterau arbenigol, a chefnogwyd y gwasanaethau hyn gan fuddsoddiad £18 miliwn Llywodraeth Cymru yn y ganolfan gofal dwys newyddenedigol is-ranbarthol, a ddaeth yn weithredol fis diwethaf.