6. Dadl: Cyllideb Atodol Gyntaf 2018-19

Part of the debate – Senedd Cymru am 4:24 pm ar 10 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 4:24, 10 Gorffennaf 2018

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am y cyfle i gyfrannu yn y ddadl fer yma. Fel mae’r Ysgrifennydd Cabinet newydd amlinellu, nid yw’r gyllideb atodol hon yn un sylweddol. Ond wedi dweud hynny, rydym fel pwyllgor yn gwerthfawrogi’r cyfle bob tro i ystyried unrhyw newidiadau yn y gyllideb ac yn gwneud hynny’n ffurfiol drwy drefn y gyllideb atodol.

Rydym, felly, wedi defnyddio’r gyllideb atodol hon fel cyfle i nodi lle’r hoffem weld mwy o fanylion wrth symud ymlaen—ac rydym yn edrych ymlaen at y gyllideb yn yr hydref, wrth gwrs—felly, meysydd megis y cyfalaf trafodiadau ariannol mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi sôn amdano, cyllid iechyd, y cytundeb masnachfraint rheilffordd, datgarboneiddio ac effaith deddfwriaeth cenedlaethau’r dyfodol ar y gyllideb. Ac, wrth gwrs, rydym yn edrych ymlaen at y gyllideb garbon gyntaf hefyd—a pholisïau benthyciadau myfyrwyr. Dyma’r meysydd y byddwn ni yn craffu ymhellach arnynt a byddaf yn cyfeirio jest yn fyr iawn at dri o’r materion hyn yn awr.

Mae cyfalaf trafodiadau ariannol yn faes y bu'r pwyllgor yn ei ystyried wrth graffu ar y gyllideb yn ystod yr hydref diwethaf, pan roeddem ni’n pryderu efallai na allai'r Llywodraeth ddefnyddio'r ffrwd ariannu hon yn llawn. Rydym yn falch o nodi bod y rhan fwyaf o'r cyfalaf trafodiadau ariannol wedi cael ei ddefnyddio, ac er gwaethaf cyfyngiadau'r Trysorlys, mae tystiolaeth o beth defnydd arloesol o'r cyllid. Byddem yn awyddus i weld rhagor o fanylion ynghylch sut y dyrennir yr arian hwn, a dylid cynnwys hyn yn y darlun cyffredinol o ddyled Llywodraeth Cymru yn y gyllideb maes o law.

Mae'r pwyllgor yn bryderus o weld nad yw rhai byrddau iechyd yn dal heb fodloni eu gofynion o dan Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014, er ei fod yn galonogol nodi y bydd y portffolio iechyd ar hyn o bryd yn ymdopi o fewn yr arian sydd wedi'i ddyrannu iddo. Ond, mae'n dal i fod yn gynnar yn y flwyddyn ariannol, felly byddwn yn parhau i ddangos diddordeb yng nghyllid y byrddau iechyd. Rydym wedi nodi'r gwaith y mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn ei wneud mewn perthynas â chyfrifon y bwrdd iechyd yn ogystal, ac yn edrych ymlaen at eu hadroddiad hwythau.

Fel pwyllgor, mae gennym hefyd ddiddordeb yng nghytundeb cyllidol y masnachfraint rheilffordd. Rydym yn awyddus i ddeall sut mae'r holl drefniadau ariannol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yn rhyngweithio, a hoffem weld manylion ychwanegol yn yr hydref ar sut mae'r cytundeb rheilffyrdd yn dylanwadu ar y gyllideb yn fwy eang. Diolch am y cyfle i gyfrannu at y ddadl yma, ac rydw i’n edrych ymlaen at glywed sylwadau Aelodau eraill yn ogystal.