Part of the debate – Senedd Cymru am 4:26 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon hefyd, ac roeddwn yn falch o gymryd rhan yng ngwaith y Pwyllgor Cyllid o graffu ar y gyllideb atodol. Rwy'n cytuno â'r sylwadau a wnaed gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid.
Diolch am gyfeirio at waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Mae'r gwaith ar y byrddau iechyd lleol a'u hariannu yn dal ar y gweill, felly wnaf i ddim dweud gormod ar hyn o bryd, ac eithrio dweud, yn amlwg, bod pryderon parhaus unwaith eto eleni am ddiffygion cyllidebol y byrddau iechyd. Nid yw hyn yn broblem newydd; mae'n broblem sydd wedi bodoli mewn un ffordd neu'r llall yn y rhan fwyaf o'r byrddau ers peth amser. Mae'n rhywbeth y mae angen i Lywodraeth Cymru, dros amser, fynd i'r afael ag ef, yn enwedig yng ngoleuni'r ffaith, y bydd Mike Hedges yn siŵr o'i grybwyll cyn bo hir, bod gwariant ar iechyd yn cynyddu a'i fod ar hyn o bryd yn cyfrif am hanner—efallai ychydig yn fwy yn awr—cyllideb Llywodraeth Cymru. Felly, mae diffygion cyllidebol y byrddau iechyd hynny yn dod yn broblem gynyddol bob blwyddyn ac yn faich cynyddol ar gyllideb Llywodraeth Cymru.
Fel y dywed adroddiad y Pwyllgor Cyllid, bu newidiadau sylweddol mewn adnoddau a chyfalaf dyraniadau yn y gyllideb atodol hon, gyda chynnydd o £15 miliwn a £134 miliwn ers cyllideb 2018-19. Ond, wedi dweud hynny, mae'n wir dweud, er eu bod yn sylweddol, nad ydynt yn faterion sydd o bwys aruthrol i ni boeni'n ormodol yn eu cylch yn ystod yr amser hwn o bennu'r gyllideb. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu'r ffaith bod symiau canlyniadol pellach gan Lywodraeth y DU o oddeutu £2,761,000 wedi dod i'n rhan o gyllideb 2016 y DU mewn perthynas â gwaith ymchwil a datblygu. Yna ceir y newidiadau yng nghyllideb 2017 y Deyrnas Unedig ac, fel y gwyddom ni, bydd Cymru yn elwa ar £1.2 biliwn o gyllid ychwanegol dros y pedair blynedd nesaf, ynghyd â £160 miliwn ychwanegol ar gyfer GIG Cymru ac awdurdodau lleol dros y ddwy flynedd nesaf oherwydd symiau canlyniadol yn deillio o fformiwla Barnett. Nid ydym ni eto wedi cael ymrwymiad, neu yn wir, awgrym, gan Lywodraeth Cymru pa un a ydyn nhw'n bwriadu i'r arian hwnnw fynd i'r gwasanaeth iechyd. Byddai hynny i'w groesawu rywbryd, Ysgrifennydd y Cabinet.
Er bod angen inni wneud arbedion effeithlonrwydd yn y gwasanaeth iechyd a cheisio gwyrdroi diffyg cyllidebol y byrddau iechyd lleol, mae'n dal yn bwysig hefyd i gydnabod bod arian ychwanegol o ryw gyfran, o leiaf, wedi dod gan Lywodraeth y DU i Lywodraeth Cymru i'w wario yn y maes hwnnw. Nid wyf yn credu i Ysgrifennydd y Cabinet sôn am y fframwaith cyllidol yn ystod y gyllideb atodol hon. Rydym ni'n aml yn sôn amdano yn y Siambr hon. Mae wedi'i groesawu gan bob plaid, ac mae'n dda gwybod y bydd Cymru yn derbyn arian o 120 y cant o'i gymharu â'r gwariant fesul pen o'r boblogaeth yn Lloegr o ganlyniad i'r fframwaith cyllidol hwnnw y brwydrwyd mor galed i'w sicrhau, ac mae hynny'n gyflawniad y dylid ei gydnabod.
Os caf i droi at rai o'r manylion—ychydig o fanylion y gyllideb—mae Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid wedi sôn am lawer o hyn. Fe wnaethoch chi sôn am addysg a chrybwyll arian i ddisodli'r grant gwisg ysgol, a hefyd newidiadau yn y gyfran o'r grant gwella addysg fydd yn mynd tuag at Sipsiwn a Theithwyr, Roma a lleiafrifoedd ethnig. Roedd hynny'n destun peth trafod. Rwy'n gwybod bod y Pwyllgor Addysg, Plant a Phobl ifanc wedi bod yn pryderu am doriadau, yn sicr yn achos y gyfran o'r grant gwella addysg a fydd yn mynd tuag at Sipsiwn a Theithwyr, Roma a lleiafrifoedd ethnig. Sut caiff hynny ei gydnabod yn y gyllideb hon? A yw'r camgymeriadau a wnaethpwyd yn y gorffennol o ran diddymu arian heb gyflwyno unrhyw arian newydd yn cael eu hunioni? A gywirwyd hynny yn y gyllideb hon, ac a yw hynny wedi'i ddatrys erbyn hyn?
O ran yr economi a thrafnidiaeth, mae'r dyraniad o £10 miliwn o gronfeydd cyfalaf ar gyfer llwybrau teithio llesol i'w groesawu. Ond mae yn amlygu sut yr ydym ni'n dal i aros, mae'n bum mlynedd rwy'n credu ers cyflwyno Deddf Teithio Llesol (Cymru) 2013. Rwy'n cofio gweithio arno yn y Cynulliad diwethaf ar y Pwyllgor Menter a Busnes, fel yr oedd bryd hynny. Deddfwriaeth dda iawn mewn egwyddor, ond dyma ni yn dal i aros am y canlyniadau ers peth amser bellach. Felly, a allwn ni fod yn hyderus gyda'r gwariant cyfalaf ychwanegol hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, y byddwn ni o'r diwedd yn gweld golau ar ddiwedd y twnnel o ran gwireddu rhai o'r amcanion hyn o'r Ddeddf Teithio Llesol?
Fel y dywedodd Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, rydym ni'n cadw golwg fanwl ar y newidiadau a wnaed, gan ddefnyddio hwn, i raddau helaeth iawn mae'n debyg, yn astudiaeth achos ar gyfer craffu ar y gyllideb yn y dyfodol. Mae newidiadau i'r gwaith craffu hwnnw ar y gweill, y mae angen inni edrych arnyn nhw wrth ddatganoli pwerau treth y flwyddyn nesaf. Bydd y Ceidwadwyr Cymreig, ni fyddwch yn synnu i wybod, yn ymatal ar y gyllideb atodol hon, gan nad oeddem ni'n cefnogi'r gyllideb wreiddiol, a gwelliannau i honno yw hyn. Ond ar y cyfan, rwy'n falch o fod wedi gweithio gyda'r Pwyllgor Cyllid i wneud gwaith craffu ychwanegol ar gyfer y gyllideb hon.