Part of the debate – Senedd Cymru am 4:47 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Diolch. Rydym ni i gyd yn Llywodraeth Cymru yn gwybod pa mor bwysig yw tai. Oherwydd eu heffaith ar fywydau pobl, rydym ni wedi gwneud tai yn un o'n pum maes blaenoriaeth yn 'Ffyniant i Bawb'. Ein huchelgais yw i bawb fyw mewn cartref o ansawdd da sy'n diwallu eu hanghenion ac yn cefnogi bywyd iach.