– Senedd Cymru ar 10 Gorffennaf 2018.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Paul Davies, gwelliannau 2 a 5 yn enw Caroline Jones a gwelliannau 3 a 4 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannnau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 4, caiff gwelliant 5 ei ddad-ddethol.
Yr eitem nesaf ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar yr adolygiad o'r cyflenwad tai fforddiadwy, a galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i gynnig y cynnig. Rebecca Evans.
Cynnig NDM6764 Julie James
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy yng Nghymru; ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud hyn drwy ei tharged uchelgeisiol o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon—mae cynnydd da yn cael ei wneud i gyrraedd y targed hwnnw.
2. Yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru yn gosod sylfaen ar gyfer adeiladu mwy o dai fforddiadwy yn y dyfodol, mewn ymateb i ystod o ofynion o ran tai.
3. Yn nodi bod Llywodraeth Cymru yn gweithio i greu amodau sy’n ysgogi arloesedd a gwelliannau o ran dyluniad, ansawdd ac effeithlonrwydd ynni’r tai a ddarperir.
4. Yn nodi cwmpas yr adolygiad tai fforddiadwy a’r ffrydiau gwaith y cytunwyd arnynt.
Diolch. Rydym ni i gyd yn Llywodraeth Cymru yn gwybod pa mor bwysig yw tai. Oherwydd eu heffaith ar fywydau pobl, rydym ni wedi gwneud tai yn un o'n pum maes blaenoriaeth yn 'Ffyniant i Bawb'. Ein huchelgais yw i bawb fyw mewn cartref o ansawdd da sy'n diwallu eu hanghenion ac yn cefnogi bywyd iach.
Yn ystod tymor diwethaf y Llywodraeth, fe wnaethom ni gyrraedd ein targed i adeiladu 10,000 o gartrefi fforddiadwy. Rydym ni wedi ymrwymo i darged uchelgeisiol o gyflenwi 20,000 o gartrefi fforddiadwy eraill yn ystod y tymor Llywodraeth hwn. Er mai megis dechrau yr ydym ni, ac na allwn ni fforddio bod yn hunanfodlon, rwy’n hyderus y gallwn ni gyflawni hyn drwy barhau i gydweithio'n agos gyda'r partneriaid sy'n ymwneud â darparu tai.
Rydym ni'n gwneud y buddsoddiad mwyaf erioed, sef £1.7 biliwn, mewn tai yn y tymor Cynulliad hwn tuag at wella cartrefi sy'n bodoli eisoes a datblygu cartrefi newydd. Y llynedd yn unig, fe wnaethom ni fuddsoddi £124 miliwn yn ein rhaglen grantiau tai cymdeithasol, a chyfalaf cyfwerth â £55 miliwn yn ein grant cyllid tai. Hefyd, rydym ni wedi diogelu tai cymdeithasol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol ac ar gyfer y bobl sydd eu hangen fwyaf, gan ddiddymu'r hawl i brynu a'r hawl i gaffael.
Rydym ni hefyd yn cydnabod pwysigrwydd ymdrin ag amrywiaeth o wahanol anghenion tai. Rydym ni’n gwybod mai yr hyn sydd ar rai pobl ei eisiau yw cymorth i brynu eu cartref eu hunain. Mae Llywodraeth Cymru bellach yn cefnogi amrywiaeth o gynhyrchion sy'n anelu at helpu pobl i ddod yn berchnogion tai: cynnig a gafodd ei ehangu ddiwedd mis Chwefror pan lansiais i’r cynlluniau Rhentu i Brynu—Cymru a Rhanberchenogaeth—Cymru. Mae Cymorth i Brynu—Cymru wedi bod yn llwyddiant mawr. Erbyn diwedd mis Mawrth 2018, roedd y cynllun wedi cefnogi adeiladu a gwerthu bron i 6,900 o gartrefi, a bydd yn gwneud cyfraniad sylweddol at gyrraedd ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy.
Rydym ni'n cydnabod bod angen inni barhau i fuddsoddi mewn tai, gan fod hyn yn creu manteision amlwg i’r economi ac yn cefnogi'r diwydiant adeiladu a'r gadwyn gyflenwi gysylltiedig. Rwy’n gweithio gydag awdurdodau tai lleol i'w helpu i ddechrau adeiladu niferoedd mawr o dai cyngor yn gyflym am y tro cyntaf ers degawdau. Hoffwn i awdurdodau lleol fod yn fwy uchelgeisiol yn y maes hwn. Mae ganddyn nhw ran hanfodol i’w chwarae o ran canfod yr angen am dai ychwanegol, ond maen nhw hefyd mewn sefyllfa dda i ganfod dulliau creadigol o ymateb i'r angen hwn a chryfhau ein cymunedau.
Un o'r heriau allweddol sy'n ein hwynebu fel cenedl yw lleihau carbon ym mhob sector, ac nid yw tai’n ddim gwahanol. Os ydym ni eisiau cyflawni ein cyfrifoldebau o ran newid hinsawdd, mae angen inni weithredu ar fyrder i weld sut y gallwn ni gyflwyno cartrefi carbon isel a di-garbon i’r cyflenwad prif ffrwd cyn gynted â phosibl. Mae ein rhaglen dai arloesol wedi dechrau’n dda gan edrych ar atebion posibl i rai o'r heriau hyn. Mae rhai o'r prosiectau rydym ni eisoes wedi eu hariannu yn gyffrous iawn. Mae'r gwaith hwn wedi cynnwys datblygu gwell dealltwriaeth o'r materion ymarferol sy'n gysylltiedig â gweithgynhyrchu ac adeiladu oddi ar y safle, ac rwy’n edrych ymlaen at weld dyluniadau arloesol a syniadau arloesol hyd yn oed mwy beiddgar yn cael eu cyflwyno yn y flwyddyn i ddod, a bydd gen i fwy i'w ddweud wrth yr Aelodau yn ddiweddarach eleni cyn gynted â bod gwaith craffu wedi’i wneud ar y cynigion hyn.
Ers dod i'r swydd, rwyf wedi cael y cyfle i wrando ar lawer o safbwyntiau am y cyfleoedd sydd gennym ni i gydweithio â phartneriaid i wella darpariaeth yn y sector tai. Mae hyn wedi bod yn hynod ddiddorol ac wedi peri imi feddwl, ac mae wedi rhoi golwg go iawn imi ar rai o'r heriau allweddol sy'n ein hwynebu. Rydym ni eisoes wedi cyflawni llawer, ac mae gennym dargedau uchelgeisiol ar gyfer y tymor Llywodraeth hwn, ond wrth inni edrych at y dyfodol rwy’n glir bod angen gwneud mwy i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai o bob math.
Rydym ni'n wynebu heriau penodol wrth geisio ymateb i'r angen cynyddol o ran darparu tai fforddiadwy. Felly, mae'n bwysig ein bod ni weithiau’n camu’n ôl i ystyried a ydym ni’n mynd ati yn y ffordd orau bosibl, ac a ydym ni’n defnyddio ein hadnoddau yn y modd mwyaf effeithiol, yn enwedig o ystyried effaith barhaus cynni. Dyma pam, ym mis Ebrill, y cyhoeddais adolygiad o'r trefniadau presennol yn y sector tai fforddiadwy.
Rwyf wedi sefydlu panel annibynnol sylweddol i oruchwylio'r gwaith hwn. Bydd hyn yn sicrhau bod yr adolygiad yn dryloyw ac yn gadarn, a bydd y panel yn argymell newidiadau, fel y gwelant orau, ac rwy’n disgwyl i'r panel lunio adroddiad erbyn diwedd Ebrill 2019. Fy mwriad yw y dylai’r adolygiad ddiogelu ein polisïau cyflenwi tai ar gyfer y dyfodol a sicrhau ein bod ni’n buddsoddi yn y rhaglenni cywir yn fwy hirdymor, gan ddefnyddio ein hadnoddau yn y ffordd orau. Tasg y panel adolygu yw datblygu barn annibynnol, ond rwyf wedi pwysleisio bod angen i’w canfyddiadau fod yn seiliedig yn llwyr ar ymgysylltiad eang â’r sefydliadau tai ac â phawb sy'n poeni am dai yng Nghymru, ac sy’n gwerthfawrogi ein hamgylchiadau unigryw.
Mae arbenigedd a brwdfrydedd enfawr, yn ogystal â llawer o egni a syniadau, yn y sector tai ac ymhlith tenantiaid, ac mae'n bwysig ein bod yn manteisio ar hynny er mwyn dod o hyd i’r ffordd orau ymlaen. Rwy’n falch ein bod wedi gallu ffurfio panel sy'n cynnig croestoriad mor gryf o sgiliau ac arbenigedd sy'n rhychwantu ehangder y meysydd y bydd yr adolygiad yn eu hystyried. Fel rwyf fi wedi ei ddweud o'r blaen wrth y Siambr, cadeirydd y panel fydd Lynn Pamment, uwch bartner yn swyddfa Caerdydd PricewaterhouseCoopers. Mae gan yr aelodau wir ddirnadaeth o ran y problemau cyflenwi tai yng Nghymru ac ymhellach i ffwrdd, ac atebion i'r problemau hynny.
Mae’r panel yn y broses o sefydlu cyfres o feysydd ffrwd gwaith. Bydd y ffrydiau gwaith hyn yn cynnwys aelodau o bob rhan o’r sector tai er mwyn cyfrannu at waith yr adolygiad. Bydd meysydd i’w hymchwilio’n fanwl yn cynnwys yr angen am dai, dulliau adeiladu modern, cyfraddau ymyrraeth grantiau, polisïau rhent, a defnyddio tir y sector cyhoeddus. Anfonwyd y rhestr lawn o’r holl ffrydiau gwaith a nodwyd gan y panel at holl Aelodau'r Cynulliad yr wythnos diwethaf.
Yn ogystal â’r grwpiau gwaith, bydd y panel adolygu’n ymgysylltu'n helaeth â sefydliadau tai sy'n ymwneud â darparu tai fforddiadwy, yn ogystal â grwpiau tenantiaid. Mae aelodau'r panel yn awyddus i gyfrannu at ddigwyddiadau a chynadleddau lle bo hynny'n bosibl. Hoffen nhw hefyd fanteisio ar yr wybodaeth helaeth yr ydym ni’n gwybod sy'n bodoli mewn sefydliadau tai, ac ymhlith y bobl y maen nhw'n eu cynrychioli.
Felly, byddwn yn annog yr Aelodau hefyd i fod yn rhan o'r adolygiad ac i gynnig eu barn. Rwy’n gwybod bod pob plaid yn y Siambr hon yn poeni am ddiwallu anghenion tai. Rydym ni i gyd yn gwerthfawrogi’r her o wneud y gorau â’n hadnoddau cyfyngedig, ac rwy’n gobeithio y bydd pawb yn achub ar y cyfle i roi eu barn a darparu tystiolaeth i’r panel ei hystyried.
Mae’r panel adolygu yn y broses o alw am dystiolaeth. Caiff yr hysbysiad hwn ei anfon at restr eang o randdeiliaid y penderfynwyd arni ac at bobl y credir y bydd yr adolygiad o fudd iddyn nhw. Rwy’n gwybod bod y Cadeirydd yn awyddus i’r adolygiad fod yn fodd i bawb a hoffai gyfrannu at y drafodaeth ar y pwnc hollbwysig hwn gael y cyfle i wneud hynny.
I gloi, Llywydd, hoffwn ychwanegu y bydd y panel yn sicr yn edrych yn agos iawn ar y cyfraniadau yn y ddadl heddiw wrth gamu i'r dyfodol. Diolch.
Rwyf wedi dethol y pum gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Ac os derbynnir gwelliant 4, caiff gwelliant 5 ei ddad-ddethol. Galwaf ar David Melding i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
Gwelliant 1—Paul Davies
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd cynyddu'r cyflenwad o gartrefi fforddiadwy yng Nghymru.
2. Yn nodi cwmpas a ffrydiau gwaith cytunedig yr adolygiad o dai fforddiadwy.
3. Yn cydnabod cadernid amcanestyniad amgen y diweddar Athro Holmans, 'Future Need and Demand for Housing in Wales', fel sail ar gyfer rhagweld yr angen am dai.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i efelychu uchelgais cymdeithasau tai Cymru sy'n anelu at ddyblu'r gyfradd bresennol o dai newydd a gaiff eu hadeiladu er mwyn cyflawni 75,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yng Nghymru erbyn 2036.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n cynnig y gwelliant yn enw Paul Davies. 15,841; 20,158; 17,236. Nid rhifau haniaethol yw’r rhain. Gadewch imi egluro. Yn 1954, nifer y tai a gwblhawyd, neu’r anheddau a gwblhawyd, gan yr holl asiantaethau oedd 15,841: roedd 13,197 o'r rheini yn y sector cyhoeddus, y nifer mwyaf o dai a adeiladwyd erioed gan y sector cyhoeddus. 1954 oedd hynny. Yn 1967—ac rwy’n mynd i orffen y darn hwn—cwblhawyd 20,158 o anheddau, a 10,936 ohonyn nhw yn y sector cyhoeddus. Yn 1975, cwblhawyd 17,236 o anheddau, ac 8,336 ohonyn nhw yn y sector cyhoeddus, er bod y sector preifat wedi adeiladu ychydig bach mwy na’r sector cyhoeddus y flwyddyn honno. Fe wnaf i ildio os oes gennych chi sylw.
Dim ond i egluro: ffigurau ar gyfer Cymru yw’r rhain.
Ie, ffigurau ar gyfer Cymru ydyn nhw, oherwydd Cynulliad Cymru ydym ni, diolch ichi. Mae’r cwestiwn, am wn i, oherwydd y raddfa y mae'r rhain yn ei dangos, yn un da i’w ofyn, oherwydd y niferoedd yr ydym ni wedi bod yn sôn amdanynt yn rheolaidd yn y blynyddoedd diwethaf—dan Lywodraethau Llafur a Cheidwadol, mae’n rhaid cydnabod. Ond mae'n dangos yn union faint mae angen inni gynyddu ein huchelgais.
Tai, tai fforddiadwy, uchelgais ar gyfer darparu tai: mae'r rhain i gyd yn feysydd polisi lle'r ydym ni, yn syml, yn methu yng Nghymru ar hyn o bryd ac yng ngweddill y DU. Rwy’n credu y byddai'n farc du cywilyddus yn erbyn pob un ohonom ni pe baem ni’n caniatáu i hyn barhau.
Felly, rwyf yn croesawu sefydlu’r adolygiad tai fforddiadwy i ryw raddau. Gallai wneud gwaith defnyddiol a’n galluogi ni i symud ymlaen a meithrin yr uchelgais sydd ei hangen arnom ni. Nid wyf i eisiau rhygnu ymlaen yn ormodol ynglŷn â hyn, ond mae’r targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy newydd mewn rhaglen bum mlynedd yn un eithaf bychan. Gallai fod yn gam cyntaf rhesymol, ond mae angen llawer mwy o uchelgais arnom ni yn ystod y 2020au—adeg y gallwn ni nawr baratoi ar ei chyfer yn rhesymol—nag a oedd gennym ni yn yr 20 mlynedd diwethaf neu fwy. Felly, rwyf yn credu bod yn rhaid inni edrych ar hyn mewn ffordd radical a dwys iawn.
Y lle gorau i ddechrau yw adroddiad y diweddar Athro Holmans—a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd yn 2015—ac nad yw Llywodraeth Cymru, hyd y gwn i, erioed wedi ymateb iddo. Felly, rwy’n credu mai un peth da i’r adolygiad ddechrau ag ef fyddai eich ymateb i adroddiad Holmans, ac rwy’n gobeithio y gallwn ni wneud hynny. Y prif reswm yr wyf yn dweud hynny yw, yn y rhestr o ffrydiau gwaith a chwmpas yr adolygiad, teitl y ffrwd waith gyntaf yw, 'Deall yr Angen am Dai.' Mae'r ffrwd waith hon yn nodi y bydd yr adolygiad yn ystyried sut y gallwn wella ein dealltwriaeth o faint yn union o gartrefi y mae eu hangen ledled Cymru, ym mha ardaloedd, a pha ddeiliadaethau sy’n briodol.
Tybed pam nad ydych chi wedi edrych ar adroddiad Holmans? Allaf i ddim deall pam yr ydym ni'n rhygnu ymlaen ar yr un hen dant eto fyth. Eisoes mae gennym ni ddarn rhagorol o waith gan brif arbenigwr y byd ar y pryd yn yr angen am dai, a dyna lle y dylem ni ddechrau.
Roedd yr adroddiad hwnnw, gadewch imi eich atgoffa, yn dadlau’n glir ac yn uniongyrchol, er mwyn diwallu’r angen a'r galw yn y dyfodol am dai yng Nghymru, bod angen dychwelyd at gyfraddau adeiladu tai nas gwelwyd ers bron 20 mlynedd, a chynyddu cyfradd twf tai fforddiadwy. Mae’r prif amcangyfrif yn awgrymu bod angen inni ddychwelyd at y math o gyfraddau adeiladu a oedd gennym ni ddiwethaf yn y 1990au cynnar. Mae hynny i gyrraedd targedau presennol Llywodraeth Cymru. Nid yw hynny i gyrraedd y rhai newydd, o ran angen. Dydym ni ddim yn adeiladu 7,000. Rydym ni’n fyr iawn o'r 7,000 ar hyn o bryd, a’r targed gwirioneddol yw 8,700. Mae’r amcangyfrif amgen, yng ngwaith yr Athro Holmans, yn awgrymu bod angen 12,000 o unedau ychwanegol y flwyddyn. Dydym ni ddim wedi gweld dim byd ar y raddfa honno ers y 1970au. Unwaith eto, mae hynny'n cynnwys cyfnodau o Lywodraeth Geidwadol yn ogystal â Llafur.
Wrth gwrs, gallai’r adolygiad o’r cyflenwad tai fforddiadwy roi ysgogiad i wella polisi cyhoeddus, efallai drwy edrych yn realistig ar ffrydiau ariannu, a'r angen i adeiladu efallai o fewn y sector cyngor eto, ac ehangu yng ngweddill y sector cymdeithasol, yn ogystal ag ysgogi adeiladu tai preifat. Rwy’n gweld bod fy amser i ar ben yn barod, ac mae hwn yn bwnc sydd wir yn fy nghynhyrfu i, oherwydd—. Gadewch imi orffen ar hyn—ni allaf orffen fy araith; mae yna gymaint mwy o ddata. Ond dylem ni gofio, yn y 1950au, roedden nhw'n ystyried tai a'r hawl i dai da yn hawl sylfaenol i bawb. Roedd yn gydradd â’r hawl i ofal iechyd gweddus. Mae angen hynny unwaith eto. Fel y mae Cartrefi Cymunedol Cymru wedi dweud,
‘mae tai da yn hawl sylfaenol i bawb’, ac rwy’n eu canmol nhw am godi eu huchelgais. Rwy’n gobeithio y gallwn ni fynd hyd yn oed ymhellach na’r 75,000 o dai fforddiadwy maen nhw eisiau eu gweld yn cael eu hadeiladu erbyn 2036 yn y sector.
Yn syml, ein huchelgais—a dylai hyn ein huno ni i gyd; does dim angen pleidgarwch yma—yr uchelgais sydd ei angen arnom ni yw cartrefi i bawb. Diolch, Llywydd.
Galwaf ar Gareth Bennett i gynnig gwelliannau 2 a 5, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Gareth Bennett.
Gwelliant 2—Caroline Jones
Ym mhwynt 1, dileu 'ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i wneud hyn drwy ei tharged uchelgeisiol o adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Llywodraeth hon—mae cynnydd da yn cael ei wneud i gyrraedd y targed hwnnw' a rhoi 'ac yn gresynu bod llai na 3,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol wedi'u darparu ym mhob un o'r chwe blynedd ddiwethaf y mae ystadegau ar gael ar eu cyfer' yn ei le.
Gwelliant 5—Caroline Jones
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo yn unol â hynny:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflymu'r gwaith o adeiladu tai modiwlar er mwyn darparu unedau tai fforddiadwy ychwanegol yn gyflym.
Diolch, Llywydd, ac rwy'n cynnig ein gwelliannau. Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw.
Rwy’n siŵr ein bod ni i gyd yn cytuno bod tai fforddiadwy yn bwnc pwysig, ac rydym ni eisiau gwneud yr hyn a allwn ni yn y Cynulliad i sicrhau bod tai fforddiadwy ar gael i fwy o bobl yng Nghymru. Wrth edrych ar y cynnig heddiw, rydym ni’n gwrthwynebu cynnig y Llywodraeth, oherwydd mae'n hunanglodforus braidd, ac rydyn ni’n nodi bod llawer o’r bobl sy'n rhan o’r diwydiant tai o’r farn bod angen gwneud mwy. Allwn ni ddim, felly, cytuno â phwynt 1 o'u heiddio, sy'n dweud bod 'cynnydd da yn cael ei wneud' tuag at y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy, oherwydd ceir cytundeb cyffredin yn y sector bod angen i’r targed fod yn llawer mwy uchelgeisiol. Mae gwelliant 2 o'n heiddo yn adlewyrchu hynny. Mae gwelliant 5 o'n heiddio yn cynnig defnyddio mwy o dai modiwlaidd. Byddai hynny'n un ffordd bosibl o adeiladu a darparu unedau tai fforddiadwy newydd yn gyflym.
Mae’r gwrthbleidiau eraill wedi crybwyll rhai pwyntiau dilys gyda’u gwelliannau, ond, yn anffodus, er mwyn i'n gwelliannau ni lwyddo, rydym ni’n ymatal ar y rheini, oherwydd, os bydd y gwelliannau eraill yn llwyddo, bydd ein gwelliannau ni’n cael eu diddymu. Dyna sut mae pethau heddiw. Er gwaethaf hynny, rwy’n credu y gall y gwrthbleidiau i gyd ddweud bod unfrydedd ynglŷn â'r syniad bod angen i Lywodraeth Cymru wneud llawer mwy yn y maes hwn.
Ynglŷn â beth ddylai’r targed fod, mae gennym y mater dyrys hwn o darged Holmans, y mae David Melding wedi sôn amdano unwaith eto heddiw. Rydym ni’n tueddu i gytuno ar yr ochr hon, gyda thwf poblogaeth wedi ei ragamcanu ar gyfer y DU gyfan, a fydd yn effeithio arnon ni yng Nghymru yn ein trefi mawr a'n dinasoedd, fel Casnewydd, Caerdydd, Abertawe a Wrecsam, bod angen targed uwch. Felly, nid ydym ni'n credu bod amcan Llywodraeth Cymru yn ddigon uchelgeisiol i ddechrau. Rydym ni’n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer cynlluniau rhanberchnogaeth, a all weithio hyd at bwynt. Fel y dywedais y tro diwethaf inni drafod hyn—ac roedd y Gweinidog yn cytuno â mi ar y pwynt hwn—dydy hyd yn oed cynlluniau cymorth morgais fel Cymorth i Brynu ddim bob amser yn fforddiadwy i lawer o bobl yng Nghymru, hyd yn oed i bobl sy'n gweithio mewn swyddi llawn-amser. Mae hyn oherwydd bod Cymru yn economi â chyflogau eithaf isel, ac fel rydym ni’n gwybod, mae’r cynydd mewn prisiau tai yn fwy na chodiadau cyflog. Felly, yn y pen draw, mae gennym ni broblem sylfaenol â galw a chyflenwad, sy'n arwain at gynnydd cyflymach a chyflymach ym mhrisiau tai. Mae hyn yn golygu na fydd cynlluniau cymorth morgais yn llawer o gymorth i gyflawni amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer tai fforddiadwy.
I ryw raddau, rwy'n credu bod yn rhaid inni gadw at y syniad mai lle rydych chi'n byw yw tŷ. Does dim rhaid iddo fod yn rhywbeth rydych chi’n berchen arno. Mae'n rhaid inni wynebu’r realiti bod mwy o bobl yng Nghymru heddiw’n symud i'r sector rhentu preifat, ac y bydd llawer o bobl yn byw yn y sector tai cymdeithasol. Felly, mae angen inni gadw llygad ar renti hefyd. Un mater sydd wedi codi yw'r mater bod rhenti yn y sector tai cymdeithasol weithiau’n gallu cynyddu mwy nag y maent yn y sector rhentu preifat. Rwy’n gwybod bod y Gweinidog wedi esbonio yn ddiweddar bod grŵp o arbenigwyr yn cynghori ar fformiwla newydd ar gyfer pennu codiadau rhent mewn tai cymdeithasol, ac rwy’n credu bod hynny'n beth da, ond mae angen inni gadw llygad ar y mater hwnnw o renti cynyddol yn y sector tai cymdeithasol.
Nawr, ceir cyfleoedd ym maes tai ac ym maes adeiladu tai. Rydym ni’n gwybod mai un o'r problemau sy'n wynebu'r sector adeiladu tai yw diffyg sgiliau. Mae llawer o’r bobl sy’n gweithio yn y sector adeiladu’n mynd yn hŷn. Rwy’n credu bod ffigurau'n dangos bod oedran cyfartalog y bobl a gyflogir yn y diwydiant adeiladu tua 53, ac mae angen inni sicrhau bod digon o bobl iau yn cael eu hannog i ymuno â'r diwydiant hwn. Mae'n rhaid inni nawr roi sylw i'r broblem o hyfforddi ein pobl ein hunain i gymryd rhan yn y sector hwn. Rwy’n credu y gallai Llywodraeth Cymru gysylltu elfennau amrywiol â’i gilydd, pe bai’r Gweinidog tai yn gweithio ar y cyd â’r Gweinidog sgiliau a hefyd y Gweinidog sy'n gyfrifol am fenter y Cymoedd, yr oeddwn i’n siarad amdani’n gynharach heddiw. Rwy’n credu bod llawer o'r pethau hyn yn gydgysylltiedig. Rwy’n gwybod bod y Gweinidog tai wedi bod yn gweithio gyda Ffederasiwn y Meistr Adeiladwyr a chyrff eraill ar y mater hwn. Mae hi hefyd wedi canmol enghraifft Cartrefi Melin yng Nghasnewydd, gyda'u cynlluniau prentisiaeth. Ac rwy’n credu bod angen inni annog mwy o gwmnïau i fanteisio ar yr arfer da hwn. Mae’r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi gwneud gwaith ymchwil yn ddiweddar i ddangos bod cyflogau yn y diwydiant adeiladu, yng nghyd-destun Cymru, yn gymharol dda iawn.
Fe allwn ni hefyd annog mwy o fenywod i fynd i’r diwydiant adeiladu yn ogystal oherwydd, gyda thai modiwlar, does dim angen rhyw lawer o gryfder neu elfen gorfforol ar gyfer y swyddi i gyd—mater y soniodd Jenny Rathbone amdano y tro diwethaf. Rwy’n gwybod bod y Gweinidog wedi sôn heddiw am weithgynhyrchu oddi ar y safle ac rwy’n credu bod angen inni annog mwy o dai modiwlar, gan fod hyn yn ffordd gyflym i annog mwy o dai fforddiadwy i Gymru. Wrth gwrs, mae'n rhaid inni sicrhau ein bod ni’n cynnal safonau ansawdd uchel ar yr un pryd.
Dylem ni hefyd annog mwy o fusnesau bach a chanolig i allu symud ymlaen â'u cynlluniau tai, yn enwedig safleoedd mewnlenwi, fel y mae Mike Hedges wedi ei argymell yn y gorffennol. Mae'n debyg y bydd yn gwneud hynny eto heddiw. Ac rwy’n gwybod bod y Gweinidog wedi sôn am gronfa datblygu eiddo Cymru yn benodol ar gyfer busnesau bach a chanolig i gael gafael ar gyllid, ac rwy’n credu bod angen datblygu’r syniad hwnnw. Diolch.
Galwaf ar Bethan Sayed i gynnig gwelliannau 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Dileu 'uchelgeisiol' o bwynt 1.
Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi bod cyngor a dadansoddiad annibynnol wedi dangos na fydd 20,000 o gartrefi fforddiadwy dros dymor y Cynulliad hwn yn bodloni'r anghenion presennol na'r anghenion yn y dyfodol.
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gael cynllun tymor hir ar gyfer cynyddu nifer y tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion cymunedau lleol ledled Cymru, gan gydnabod y gellir cyflawni hyn mewn ffyrdd gwahanol.
Yn galw ar yr holl dai cymdeithasol a chyngor newydd, lle bo'n bosibl, i gael paneli solar wedi'u gosod i sicrhau bod tenantiaid yn gallu elwa ar filiau ynni is.
Yn gresynu bod nifer y cartrefi gwag yng Nghymru wedi cynyddu dros y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf cynllun Troi Tai'n Gartrefi Llywodraeth Cymru.
Yn nodi cwmpas a ffrydiau gwaith cytunedig yr adolygiad o dai fforddiadwy.
Yn galw ar yr adolygiad o dai fforddiadwy i ystyried y cyd-destun ehangach o ran mynediad i wasanaethau cyhoeddus mewn ystadau newydd, gan nodi y gall mynediad gwael i wasanaethau cyhoeddus arwain at gynnydd sylweddol yn y costau y mae pobl ar incwm isel sy'n byw mewn ystadau o'r fath yn eu hwynebu.
Yn galw ar yr adolygiad i gynnwys grwpiau tenantiaid a'r rhai sydd yn y sector rhentu preifat, fel y gallant lywio'r dirwedd tai cymdeithasol a thai rhent yn y dyfodol yng Nghymru.
Diolch. Hoffwn ddiolch i Lywodraeth Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw, oherwydd mae hi yn bwysig ein bod ni yn dadansoddi sut y mae'r adolygiad hwn yn mynd i ddatblygu ac archwilio rhai o'r materion presennol o ran tai fforddiadwy. Rwyf wedi bod yn awyddus i gydweithredu ar yr agenda tai ehangach gan fy mod yn teimlo bod y Gweinidog tai yn rhannu llawer o'n pryderon ac rwy’n ddiolchgar ei bod wedi gwneud ymdrech i’n cynnwys ni wrth feddwl am y materion hyn. Fodd bynnag, mae’n anochel y byddwn yn anghytuno mewn rhai meysydd ac mae arnaf ofn bod defnyddio'r term 'uchelgeisiol' yng nghyd-destun strategaethau tai fforddiadwy Llywodraeth Cymru yn un o'r meysydd hynny.
Yn gyntaf, mae dealltwriaeth eang nad yw 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor hwn yn ddigon; nododd Cartrefi Cymunedol Cymru y llynedd fod angen dros 4,000 o unedau tai cymdeithasol bob blwyddyn yn unig er mwyn ymdopi â’r cynnydd sylfaenol yn y boblogaeth. Wrth gwrs, nid yw hyn yn cynnwys y farchnad tai preifat, sydd wedi bod o dan bwysau cynyddol, yn enwedig ynglŷn â materion fforddiadwyedd.
Rwyf hefyd yn pryderu bod anawsterau â diffiniad Llywodraeth Cymru o beth yw fforddiadwy. Un o'r problemau mwyaf â’r diffiniad o 'fforddiadwy' ac, felly, beth mae’r Llywodraeth hon yn ei ystyried yn llwyddiant wrth adeiladu’r cartrefi hyn, yw cartrefi a brynwyd o dan gynlluniau fel Cymorth i Brynu. Dim ond 75 y cant o dai a brynwyd drwy'r cynllun Cymorth i Brynu a aeth i brynwyr tro cyntaf. Aeth chwarter i bobl a oedd yn prynu cartref gwahanol neu well, sy’n golygu, i dros chwarter y bobl a brynodd o dan y cynllun, nad oedd ganddynt broblemau â fforddiadwyedd o reidrwydd. Un broblem ddifrifol a nodwyd yw bod 2,277 o’r cartrefi a gafodd eu prynu o dan y cynllun—traean o'r rhai a brynwyd—yn werth dros £200,000. Ac rydym ni’n gwybod bod hwnnw'n swm eithaf swmpus. Felly, pam mae’r cartrefi hyn wedi’u cynnwys mewn ystadegau tai fforddiadwy? Sut yn y byd y gallwn ni ddweud bod y swm hwnnw’n fforddiadwy? Dim ond 701 o gartrefi a gafodd eu prynu am lai na £125,000—ffigur sy'n dal i fod y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl.
O ran y sector rhentu, mae tai rhent canolradd yn dal i fod y tu hwnt i gyrraedd llawer o bobl, yn enwedig pobl sy’n teimlo effeithiau newidiadau lles a thoriadau yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Felly, rwy’n credu bod angen rhoi sylw yn yr adolygiad hwn i’r manylyn hwn o beth yw fforddiadwyedd a sefydlu diffiniad manylach, cliriach o’r hyn a olygir wrth fforddiadwy. Heb ddiffiniadau clir, allwn ni ddim dechrau gallu asesu’n realistig beth mae gwir angen inni ymdrin ag ef yn rhan o'r argyfwng hwn.
Rydym ni yn nodi bod nifer yr unedau tai cymdeithasol newydd y flwyddyn yn cynyddu ond, pan ystyriwch y duedd gyffredinol dros y 40 mlynedd diwethaf, mae'r niferoedd sy’n cael eu cwblhau’n dal i fod yn isel. Rydym ni ar yr un lefel ar hyn o bryd â diwedd yr 1990au o ran niferoedd cwblhau blynyddol. Rydym ni hefyd wedi gweld cynnydd yn nifer y cartrefi gwag, er gwaethaf cynllun Troi Tai'n Gartrefi y Llywodraeth. Yn wir, bu cynnydd o tua 5,000 yn nifer y tai—roeddwn i’n mynd i ddweud noeth—y tai gwag yng Nghymru ers 2012-13. Byddai hynny'n ddiddorol, oni fyddai? [Torri ar draws.] Mae hynny wedi deffro pawb, onid yw? Mae'n amlwg i ni a dylai fod yn amlwg i bawb yn y Senedd hon, er gwaethaf sylwadau bachog a bwriadau da Llywodraeth Cymru, nad ydym ni’n agos at osod agenda ddigon eofn yn y maes hwn o ran y tai sydd ar gael yn y sector rhentu cymdeithasol, ac nad oes gennym ni’r diffiniadau cywir ar waith o ran hyd yn oed beth yw fforddiadwyedd.
Hoffwn droi yn fyr at rai agweddau eraill ar fforddiadwyedd, y mae’r Gweinidog wedi sôn amdanynt. Mae effeithlonrwydd ynni'n elfen allweddol i'r hyn sy'n fforddiadwy. Mae'n bwysig oherwydd gall cartref sy’n aneffeithlon o ran ynni ei wneud yn gartref anfforddiadwy hefyd. Caiff hyn ei gydnabod yn y ffaith bod gan Lywodraeth Cymru gynllun Arbed, a bod gan lywodraethau eraill ledled y DU eu cynlluniau eu hunain, ond dydyn nhw heb ddyrannu’r adnoddau sydd eu hangen i uwchraddio tai cymdeithasol yn llawn, ac ni chaiff y targedau ar gyfer dileu tlodi tanwydd eu bodloni. Mae eu hymdrechion wedi bod yn llawer llai uchelgeisiol nag yn yr Alban, ac felly mae'n debygol nad yw rhywfaint o'r stoc tai fforddiadwy presennol yn fforddiadwy.
Mae landlordiaid cymdeithasol wedi bod yn addasu mewn gwahanol ffyrdd i'r broblem hon. Cawsom ddadl yn ddiweddar lle gwnaethom ni sôn am beth sy'n digwydd yn Wrecsam o ran gosod paneli solar, ond dim ond un enghraifft yw hyn. Mae angen llawer mwy. Ceir problem ledled y DU wrth adeiladu datblygiadau newydd hefyd, sef nad ydym ni’n cynnwys hygyrchedd gwasanaethau canolfannau cyflogaeth yn rhan o'n hystyriaethau, a dyna pam rwy'n credu bod gwrthwynebiad i lawer o'r datblygiadau tai hyn, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig.
Mae effeithiau llymder wedi golygu llai o safleoedd cynaliadwy, llai o ddewisiadau trafnidiaeth gyhoeddus a llai o wasanaethau wedi'u cynnwys yn rhan o ddatblygiadau newydd. Mae hyn nid yn unig yn ei gwneud hi’n anodd i bobl sydd ar incwm isel i adeiladu bywyd cynaliadwy a fforddiadwy mewn cartref newydd, ond hefyd yn ei wneud yn llai derbyniol i eraill mewn ardal leol lle mae datblygiad newydd yn seiliedig.
Yn yr amser sydd gen i ar ôl—. Rwy'n credu bod angen inni wella’r hyn yr ydym ni'n ei wneud ynglŷn â hawliau tenantiaid, a hoffwn i weld Bil i'r perwyl hwnnw yn cael ei gyflwyno'n llwyddiannus yn y Cynulliad hwn. Rwy’n credu ein bod ni’n pasio sawl darn o ddeddfwriaeth ynglŷn â thai ond dydw i ddim yn gweld digon ar hawliau tenantiaid, ac yn amlwg mae gan hynny lawer i'w wneud ag ailddosbarthu, ond rwy’n credu bod angen ymgysylltu llawer mwy â nhw. Rwyf wedi bod yn ymweld â llawer o gymdeithasau tai lleol ac mae pobl yn teimlo nad ydyn nhw’n cael eu cynnwys gymaint ag y byddent yn ei hoffi mewn ffioedd rheoli a sut maen nhw'n cael eu pennu, yn y codiadau rhent y mae landlordiaid cymdeithasol wedi’u rhoi iddyn nhw. Felly, rwy'n annog y Gweinidog yn hyn i gyd i ystyried bod hawliau tenantiaid wrth wraidd unrhyw benderfyniadau a wneir yn rhan o'r adolygiad parhaus hwn.
Mae tai yn angen sylfaenol ac yn hawl sylfaenol. Rwyf wir yn credu bod hynny’n rhywbeth y mae angen inni ei gadw yn flaenllaw yn ein meddyliau bob tro y byddwn ni’n trafod tai. Does dim wythnos yn mynd heibio heb i fy etholwyr ei gwneud hi’n glir imi fod angen mwy o dai fforddiadwy—yn y saith diwrnod diwethaf, teulu o bedwar, gan gynnwys plentyn anabl, yn byw mewn fflat un ystafell wely; rhywun sydd i bob pwrpas yn ddigartref, yn mynd o soffa i soffa, gan ddefnyddio soffas yn nhai ffrindiau, gan nad oes ganddo gartref sefydlog ar hyn o bryd, a gallai’r man nesaf fod ar y stryd; menyw newydd ysgaru sy'n ei chael hi'n fwyfwy anodd talu’r rhent a godir gan landlord preifat. Dyma realiti byw yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain. Mae pob un yn drasiedi bersonol. Y peth trist yw, pe bawn i’n gwneud yr araith hon yr wythnos nesaf, byddwn i’n sôn am dri neu bedwar achos gwahanol o bobl â’r un angen am dŷ yn union. Sut rydym ni wedi cyrraedd y fath sefyllfa?
Ddeng mlynedd ar hugain yn ôl, doedd dod o hyd i dŷ fforddiadwy ddim yn broblem. Efallai na fyddech chi wedi cael tŷ cyngor neu dŷ cymdeithas dai yn ardal eich dewis cyntaf, ond roedd llety ar gael. Mae nifer o bethau wedi digwydd, rhai ohonynt o dan ein rheolaeth ni, a rhai heb fod. Mae maint aelwydydd wedi lleihau. Mae’r boblogaeth wedi cynyddu. Mae’r ddau ffactor hyn wedi rhoi pwysau ar fod angen mwy o dai.
Cawsom ymchwydd yn y 2000au cynnar, lle'r oedd pobl yn cael morgeisi 110 y cant, lle'r oedd gennym ni dwf economaidd cyson. Roedd pobl yn credu bod popeth yn mynd i fod yn iawn am byth, nes inni gyrraedd problem y cwymp bancio. Ym Mhrydain, roedd pris cyfartalog tŷ yn £100,000 yn y flwyddyn 2000 ac yn £225,000 yn 2007, cyn i’r chwalfa ariannol ddod â’r ffyniant i ben. Roedd hyn yn anghynaliadwy.
A wnewch chi ildio?
Wrth gwrs.
A ydych chi’n gresynu bod Llywodraeth Cymru ar y pryd wedi anwybyddu’r rhybuddion gan ymgyrch ar y cyd gan y sector tai drwy gydol y 2000au cynnar y byddai argyfwng o ran cyflenwad tai pe na bai Llywodraeth Cymru yn gwrthdroi eu toriadau o 70 y cant mewn tai fforddiadwy? Roedd hynny’n bell cyn y wasgfa gredyd ac fe wnaethon nhw ei anwybyddu—dyna pam rydym ni yn y sefyllfa hon heddiw.
Roedd hefyd cyn i mi fod yma. Yr hyn y gwnaf fi ei ddweud yw bod cynghorau bryd hynny’n dal i werthu tai cyngor o dan y cynllun hawl i brynu—ac rwy’n siŵr bod Mark Isherwood yn gresynu at werthu tai cyngor. Tan yn ddiweddar, doedd cynghorau ddim yn adeiladu. Mae eiddo perchen-feddiannydd rhad wedi troi’n eiddo prynu i rentu. Mae hynny’n rhywbeth gwirioneddol sydd wedi effeithio ar lawer o'm hetholwyr—mae llawer iawn o bobl sydd ar enillion canolrifol, sy'n gweithio, nawr yn methu fforddio prynu tŷ, pan fyddai hynny wedi bod yn hawdd iddyn nhw 25 neu 30 mlynedd yn ôl, oherwydd bod pobl sy’n prynu i rentu wedi eu prynu nhw i gyd.
Mae er budd i adeiladwyr tai mawr adeiladu llai na'r galw, oherwydd mae’r gwrthwyneb yn golygu y bydd ganddyn nhw eiddo heb eu gwerthu. Mae Cymorth i Brynu yn cynyddu’r galw, ond nid yw’n gwneud dim byd i’r cyflenwad. Nid yw'r prinder tai ar yr un raddfa ag yn y cyfnod yn syth ar ôl y rhyfel. Yn 1945, roeddem ni wedi colli tai i'r bomio, a chafodd slymiau eu clirio ar raddfa fawr yn y 1940au a'r 1950au. Dydw i ddim yn mynd i ailadrodd yr hyn a ddywedodd David Melding, ond rwy’n credu ei fod yn gwneud pwynt hynod bwysig nad yw adeiladu llawer o dai ac adeiladu llawer o dai sector cyhoeddus yn beth unigryw ac nad yw'n anodd. Mae wedi digwydd yn y gorffennol. Mae Llywodraethau Llafur a Cheidwadol wedi gwneud hynny, ac ym Mhrydain ar y cyfan roedd tai cyngor ar eu lefel uchaf o dan Lywodraeth Geidwadol y 1950au. Roedd maniffesto Ceidwadol 1959 yn sôn am faint o dai cyngor yr oedd y Llywodraeth Geidwadol yn mynd i’w hadeiladu.
Roedd llawer o ehangu. Cefais i fy magu mewn tŷ cyngor ar gyrion Abertawe. Cafodd llawer o dai cyngor eu hadeiladu ar gyrion llawer o drefi a dinasoedd ar y pryd, er bod cyrion y trefi a’r dinasoedd yn ôl pob tebyg wedi cynyddu'n llawer pellach erbyn hyn. Rydym ni wedi cael cyfnodau o ffyniant prisiau tai a chyfnodau o fethiant, ond roedd y rhain ar ôl y 1960au. Yn y 1960au, adeiladwyd 400,000 eiddo ym Mhrydain. Byddai’r ffigur cyfatebol yng Nghymru wedi bod tuag 19,000 neu 20,000. O ran ansawdd, y safon y sonnir amdani fel arfer yw safon Parker Morris, a oedd yn pennu maint priodol y tai. Roedd y safon yn dweud ei bod yn well adeiladu fflatiau a thai sy’n rhy fawr, yn hytrach nag yn rhy fach. Dychmygwch adeiladwr yn dweud hynny heddiw.
I adeiladu tai fforddiadwy i ddiwallu anghenion pobl Cymru, mae angen rhyddhau mwy o dir i adeiladwyr bach mewn lleiniau sy’n llai na throthwy’r cynllun datblygu lleol, gan gynnwys safleoedd mewnlenwi, ac mae angen ariannu a grymuso cynghorau i adeiladu tai cyngor unwaith eto. Os na ddechreuwn ni adeiladu tai cyngor, allaf i ddim gweld unrhyw ffordd y gallwn ni gyrraedd nifer y tai yn y sector fforddiadwy sydd eu hangen arnom ni yng Nghymru. Mae angen gwneud mwy i ailddechrau defnyddio eiddo gwag. Os nad yw dyblu'r dreth gyngor yn gweithio, beth am ei gwneud bedair gwaith yn fwy? Mae'n rhaid bod rhyw bwynt ar swm y dreth gyngor maen nhw’n ei thalu lle bydd pobl yn fodlon ailddechrau defnyddio’r tai hynny. Yn olaf, rwy’n credu mai’r peth allweddol yw gwneud yn siŵr bod ein polisïau wedi'u hanelu at y cyflenwi, nid at y galw. Yr oll y bydd cyflwyno arian ar ochr y galw’n ei wneud yw cynyddu prisiau.
Fe hoffwn i ganolbwyntio yn fy nghyfraniad ar y gwahanol ffrydiau gwaith sydd yn y ddogfen adolygu’r cyflenwad tai fforddiadwy yr ydym ni wedi ei chael, ac rwy’n mynd i fyfyrio ar rai pethau a ddywedodd Mike Hedges, rhai pethau a ddywedodd Bethan Sayed a rhai pethau a ddywedodd David Melding.
Yn gyntaf oll, rydym ni wedi sôn am yr angen am dai, ac mae’r angen, fel y dywedodd Mike Hedges, sy’n bodoli o dan y gromlin galw yn golygu nad ydym ni, drwy fecanwaith y farchnad, yn darparu’r tai hynny. Felly, mae'n eithaf braf ailddechrau o ble y gorffennodd Mike Hedges. Mae angen inni adeiladu’r tai cywir yn y lleoedd cywir. Os gadawn ni hyn i fecanwaith y farchnad, dydw i ddim yn meddwl y gwnaiff hynny ddigwydd. Fe rof i enghraifft ichi. Mae datblygiad tai yn fy etholaeth yn Hendredenny wedi cael ei gymeradwyo gan y Llywodraeth i adeiladu 260 o gartrefi. O hynny, yn y cais cychwynnol, mae 60 ohonyn nhw’n fforddiadwy, a dydw i ddim yn meddwl y bydd y safon fforddiadwyedd honno’n cyfateb i unrhyw beth y byddai neb yng ngogledd fy etholaeth yn ei ystyried yn fforddiadwy. O’r 60 hynny, mae’r nifer yn debygol o ostwng pan gaiff y tai eu hadeiladu mewn gwirionedd. Felly, os ydych chi’n mynd i ateb y galw am dai a’r angen am dai drwy’r adeiladwyr tai mawr, dydy hynny ddim yn mynd i ddigwydd; mae angen i bethau gwahanol ddigwydd. Felly, mae adeiladu yn y de a'r gogledd yn ddau fater gwahanol iawn.
Rydw i wedi dadlau ers tro nad yw cynlluniau datblygu lleol yn diwallu’r angen am dai o gwbl beth bynnag. Rwy’n credu eu bod nhw’n fethiant, ac rwy’n credu bod y ffaith bod y Llywodraeth wedi cyflwyno’r adolygiad hwn yn dangos eu bod nhw’n derbyn y ffaith honno, a hefyd y ffaith ein bod ni nawr yn sôn, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn gynharach, am gynlluniau datblygu strategol yn hytrach na chynlluniau datblygu lleol. Rwy’n credu bod hynny’n dangos ein bod ni’n teimlo nad yw mecanwaith y farchnad yn cyflawni’r hyn sydd ei angen arnom ni. Hefyd, mae'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar ddatgymhwyso paragraff 6.2 TAN 1 yn dangos y ffaith nad ydym ni’n cyflawni tai drwy gyfrwng y model presennol.
Os caf i edrych ar ffrwd gwaith 6 yn y papur adolygu, sy'n sôn am gadwyn gyflenwi adeiladu sy'n cynnwys dulliau adeiladu modern. Yn rhy aml, fel rwy'n dweud dro ar ôl tro, mae’r pedwar datblygwr tai mawr yng Nghymru yn tra-arglwyddiaethu ar y farchnad dai, ac yna dydym ni ddim yn adeiladu yn ôl yr angen. Rwyf wedi sôn am yr enghraifft yn ystâd Cwm Calon yn fy etholaeth i ble mae ansawdd adeiladu ac ansawdd y gwaith cynnal a chadw, ansawdd y gwaith gofal, yn wael iawn, iawn. Ac yna rwy’n troi at ffynhonnell annhebygol i ategu fy marn am y cartél hwn, yr oligopoli hwn sy'n bodoli: yr 'Independent Review of Build Out Rates’ gan Oliver Letwin AS. Nawr, dyw ef ddim yn gefnogwr i fecanwaith y farchnad—ac rwy’n gallu gweld Nick Ramsay yn nodio: 'ie, am ffynhonnell dda.' Wel, dewch imi ddarllen ichi yr hyn mae’n ei ddweud ar dudalen 26 ei adroddiad. Mae hyn ym Mehefin 2018:
Fel yr wyf wedi’i ddadlau, mae’r adeiladwyr tai mawr yn sicr yn "bancio tir": maen nhw’n bwrw ymlaen ar safle mawr...ar gyfradd a luniwyd i ddiogelu eu helw drwy adeiladu a gwerthu cartrefi ar gyflymder sy'n cyfateb i allu’r farchnad i amsugno'r cartrefi hynny ar y prisiau a bennir drwy gyfeirio at y farchnad ... leol.
Felly, dydyn nhw ddim yn rhuthro i adeiladu.
Yr esboniad i’r ffaith bod adeiladwyr tai mawr yn cadw llawer o dir yw’r ffaith bod angen i’r adeiladwyr tai mawr gynnal busnes cynaliadwy…sicrhau mai ganddyn nhw, yn hytrach na’u cystadleuwyr, mae cymaint o dir â phosibl, a fydd yn lleihau mynediad i’r farchnad.
Beth maen nhw’n ei wneud yw dal tir i gynnal prisiau ac atal cwmnïau bach rhag cael mynediad i’r farchnad. Ymddygiad oligopoli cwmni mawr clasurol yw hynny, ac fel sosialydd mae'n troi arnaf.
Wel, mae'n troi arnaf fi a minnau'n gyfalafwr.
Ac mae'n troi ar David Melding, ac yntau'n gyfalafwr. [Chwerthin.] Felly, rwy’n credu bod hynny’n dangos, hyd yn oed os ydych chi wedi eich rhannu ar delerau ideolegol, ei bod hi'n dal yn bosib dod o hyd i rai elfennau cyffredin o arfer—rhai elfennau cyffredin o arfer.
Mae angen i’r model traddodiadol o adeiladu tai newid. Fe wnes gyfarfod yn fy nghymhorthfa, fore Sadwrn, â Cerianne Thorneycroft. Cafodd hi ei geni yng Nghaerdydd, mae hi'n bensaer siartredig ac yn amgylcheddwr, ond mae hi bellach yn byw yn swydd Gaerloyw. Mae hi’n ceisio hyrwyddo'r cyniad o hunan-adeiladu, a hithau wedyn yn gweithredu yn rheolwr prosiect. Dywedodd hi nad oes angen, yn ei model hi, cynnwys unrhyw ddatblygwr tai. Does dim costau i’w harbed, dim cyfleoedd i’w colli yn seiliedig ar elw’r nod terfynol. Mewn e-bost imi, meddai hi, 'Wrth hunan-adeiladu, rwy’n golygu bod perchnogion y cartrefi yn y dyfodol yn cymryd rhan o'r dechrau, cyn y ceir safle hyd yn oed.' Felly, mae’r bobl hynny’n cael eu cynnwys ac mae hi’n hwyluso hynny. Mae'n fodel arloesol. Rwy’n credu y dylai Llywodraeth Cymru siarad â Cerianne Thorneycroft a thrafod gyda hi y busnes hwn o'r enw Green Roots E-cohaus. Rwy’n credu ei bod hi’n werth gwrando arni.
Ac yn olaf, o ran ffrwd gwaith 9, pwerau presennol sydd gan Lywodraeth Cymru, rwy’n credu bod problemau, fel y dywedodd Bethan Sayed, â thaliadau rheoli ystadau, ac rydym ni wedi trafod y rheini. Rwy’n credu bod angen ombwdsmon eiddo annibynnol yng Nghymru a bod angen addasu a chryfhau Rhentu Doeth Cymru fel corff achredu a rheoleiddio hyd braich i’r cwmnïau rheoli ystadau hynny, oherwydd yr hyn y mae’r cwmnïau rheoli ystadau’n ei wneud yw ychwanegu costau ar ben eich morgais, ar ben eich treth gyngor, sy'n gwneud tai’n llai fforddiadwy. Does neb yn eu rheoleiddio nhw. Dewch imi ddweud wrthych: pe baen ni i gyd am ddod at ei gilydd a sefydlu cwmni rheoli ystadau yfory, fe allem ni, ac fe allem ni flingo pobl, ond wrth gwrs fyddem ni ddim yn gwneud hynny. Ond mae yna bobl allan yna a fyddai, ac rwy’n credu bod angen corff rheoleiddio. Rwy’n credu, yn unol â ffrwd gwaith 9—rwy’n credu bod gan Lywodraeth Cymru adnodd, sef Rhentu Doeth Cymru, a allai weithredu fel corff hyd braich, ac mae Cymdeithas yr Asiantau Rheoli Preswyl yn credu bod hynny'n gwbl bosibl.
Felly, mae hwn yn gam mawr i Lywodraeth Cymru, ond rwy’n credu bod angen gwneud mwy yn unol â byrdwn y ddadl hon.
Mae Llafur yn siomi Cymru yn llwyr o ran tai. Mae'r cynnig hwn yn honni bod Llafur yn gosod y sylfeini ar gyfer mwy o dai fforddiadwy, ond does ond rhaid ichi edrych ar yr hyn sy'n digwydd yng Nghaerdydd i weld pa mor hurt yw hyn. Yn syml, mae Llafur yn gwerthu ein dinas. Mae bron bob darn o dir glas yng ngorllewin y ddinas a llawer yn y dwyrain yn cael eu hadeiladu arnynt ar hyn o bryd, ac nid tai fforddiadwy yn cael eu hadeiladu gan gwmnïau lleol yw’r rhain; ond tai drud iawn yn cael eu hadeiladu gan ddatblygwyr tai enfawr, corfforaethol. Dydyn nhw ddim yn poeni am ein diwylliant, ein hiaith na'n ffordd ni o fyw. Mae cefn gwlad hardd o amgylch Danescourt ar fin cael ei golli. Fydd rhedwyr â phobl sy'n mynd â'u cŵn am dro ddim yn gallu mynd yno mwyach os na allwn ni atal yr adeiladu. Mae Regency Park yn cael ei adeiladu; mae adeilad y Ledger yn mynd i fyny yn y datblygiad Cei Canolog newydd. Nawr, gallai’r rhain fod yn unrhyw le, a dydyn nhw ddim yn swnio'n Gymreig o gwbl. A allwn ni o leiaf gael rhyw gydnabyddiaeth o’r ffaith bod y Cymry wedi byw yma ers miloedd o flynyddoedd?
Dydy’r tai ddim wir yn fforddiadwy ychwaith. Fyddai gan y rhan fwyaf o brynwyr tro cyntaf ddim cyfle o ddod o hyd i £283,000 i brynu tŷ tair ystafell wely ym Mhentre-baen. All fy etholwyr i ddim fforddio hynny, a bydd yn rhaid iddyn nhw eistedd yn ôl a gwylio wrth i bobl gyfoethocach symud i mewn a byw yn y mannau lle’r oedd eu plant nhw’n arfer chwarae yn y caeau. A fyddwch chi ddim yn gallu cael apwyntiad meddyg ychwaith—dim mwy o leoedd mewn meddygfeydd hyd nes bod 3,000 o dai wedi’u hadeiladu. Pymtheg mil o geir ychwanegol ar y ffordd—peidiwch â siarad â mi am lygredd aer os gwelwch yn dda. Dim gobaith o unrhyw ddewis amgen teilwng o ran trafnidiaeth gyhoeddus.
Nawr, mae'r awgrym a’r emosiwn bod Llywodraeth Cymru rywsut yn gyrru effeithlonrwydd tai yn hurt hefyd, oherwydd rydym ni i gyd yn cofio Llafur yn troi eu cefnau’n llwyr ar dargedau effeithlonrwydd ar gyfer tai newydd, ac eto rydych chi wedi gadael i’r datblygwyr mawr, corfforaethol wneud yn union fel y mynnant. Felly, dyma rai awgrymiadau: gwnewch fwy am yr eiddo gwag hirdymor sy'n difetha ein cymunedau. Mae rhai wedi bod yn wag ers degawdau—degawdau—rhowch nhw’n ôl ar y farchnad. Cyflogwch bobl leol i’w hadnewyddu nhw. Mae pawb yn ennill. Dydw i wir ddim yn deall pam nad yw cynghorau’n gwneud peth mor syml pan mae mor amlwg ac mor fuddiol i'r economi leol. Pam nad ydym ni’n datblygu safleoedd tir llwyd? Mae cymaint o ormodedd tir cyflogaeth yn y de, ac eto mae'r safleoedd hyn yn dal yno ac rydym ni’n gweld y mannau gwyrdd mawr yn cael eu datblygu.
Dylai datblygiadau newydd hefyd adlewyrchu Cymru—enwau Cymraeg i’r datblygiadau newydd, ac fe ddylen nhw fod yn gwbl ddwyieithog. Dylai’r tai fod yno i bobl leol ac nid i apelio at ryw farchnadoedd eiddo rhyngwladol. Mae Llafur wedi gwneud cymaint o lanast o dai. Mae angen tai lleol i ddiwallu’r angen lleol fel y gall pobl leol fforddio byw yn eu cymunedau. Mae angen polisi tai arnom ni sy'n lleol yn ei hanfod ac sy’n adlewyrchu hanes balch ein gwlad hefyd. Diolch yn fawr.
Mae'n anodd iawn anghytuno â David Melding. Mae tai da yn hawl i bawb, a dyna oedd barn Aneurin Bevan. Ef oedd yn gyfrifol am y tai cymdeithasol o safon uchel iawn y cawsom ni ein bendithio â nhw ar ddiwedd y 1940au a dechrau'r 1950au. Yn amlwg, byddai’n beth da inni allu cyrraedd y safonau uwch hynny unwaith eto, oherwydd mae’r tai hynny wedi goroesi treigl amser ac maen nhw’n gynaliadwy.
Er y byddwn i’n cytuno bod gan Lywodraeth Cymru raglen uchelgeisiol ar dai, nid yw'n ddigon i ddiwallu’r anghenion, oherwydd i’r rhan fwyaf o bobl dydy tai preifat ddim yn fforddiadwy a does dim digon o dai cymdeithasol i ateb y galw. Rwy'n cytuno â Hefin David na allwn ni ddibynnu ar y chwe adeiladwr tai mawr i ddiwallu ein hanghenion. Yn syml, dydyn nhw ddim yn mynd i adeiladu ar gyfer y bobl sydd fwyaf angen eu cartrefu.
Roeddwn i eisiau edrych ar y rhaglen tai arloesol a gymeradwywyd gan Carl Sargeant ym mis Hydref y llynedd. Cafodd 30 o wahanol brosiectau eu dyfarnu, rhai ohonyn nhw yng Nghaerdydd, ac rwy’n credu bod y math hwn o brosiect (a) yn dweud wrthym ni bod llawer o bobl eisiau adeiladu tai arloesol a (b) y gall hyn fod yn ffordd o ddarparu tai sy'n hyblyg i fodloni anghenion pobl ac sydd hefyd yn effeithlon o ran ynni. Er enghraifft, mae cyngor Caerdydd yn adeiladu wyth cartref teuluol sy’n effeithlon o ran ynni ar dir Hostel Greenfarm yn Nhrelái, sydd ar hyn o bryd yn mynd i gael ei ddefnyddio fel llety dros dro tra bod teuluoedd yn aros am ateb mwy parhaol o ran tai. Ond bydd y rhain yn symudol fel bod modd eu symud nhw i safle arall os nad oes eu hangen mwyach ar gyfer y diben y maen nhw'n mynd i gael eu hadeiladu ar ei gyfer ar hyn o bryd.
Mae'n arwydd o ba mor hir mae'n ei gymryd i roi prosiectau ar waith, oherwydd mae cyngor Caerdydd yn gwbl gefnogol i’r cynllun hwn o'u heiddio. Mae nawr wedi cael caniatâd cynllunio, ond does ganddyn nhw ddim pobl sy'n gallu byw yn y prosiectau hyn o hyd. Serch hynny, mae defnyddio’r cynwysyddion llongau y mae hyn yn seiliedig arno yn ffordd o ddarparu tai yn gyflym er mwyn ateb yr angen dybryd sydd gennyn ni. Mae Cymdeithas Tai Cadwyn yn datblygu prosiect tebyg gan ddefnyddio cynwysyddion môr yn gartrefi un a dwy ystafell wely gyda systemau solar ffotofoltäig—12 cartref yma yng Nghaerdydd yn Stryd Bute, ar ddarn gwag o dir. Mae'r rhain yn gyfraniadau ardderchog at yr angen dirfawr, ond yn amlwg yn annigonol i ateb y galw aruthrol.
Fe allwch chi weld bod llawer o brosiectau eraill o mewn gwahanol rannau o Gymru: Pentre Solar, sydd eisoes wedi adeiladu tai rhagorol mewn rhannau o sir Ddinbych, ac sydd nawr yn adeiladu cartrefi gan ddefnyddio coed lleol yn sir Gaerfyrddin a sir Benfro. Mae sefydliadau eraill yn adeiladu i safonau'r hyn a adwaenir wrth yr enw tŷ goddefol, a dyma’r mathau o bethau sydd eu hangen, ond rwy’n credu bod angen inni wneud llawer iawn mwy ohonynt.
O ran y ffordd y mae’r adeiladwyr tai mawr yn bancio tir, rwy’n gobeithio y bydd y dreth ar dir gwag y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei chyflwyno yn y sesiwn nesaf yn helpu i ymdrin â hynny. Ond yn y cyfamser rwy’n credu bod yna bethau eraill y gallem ni eu croesawu yn ogystal. Mae elusen yng Nghasnewydd o'r enw Amazing Grace Spaces sy’n creu cartrefi o gynwysyddion, ac yn ddiweddar maen nhw wedi cyflenwi dau gynhwysydd wedi’u cyfarparu’n llawn i Gartrefi Cymoedd Merthyr i deuluoedd fyw ynddyn nhw, ac maen nhw wrthi'n trosi pedwar cynhwysydd ar gyfer Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Felly, rwy’n gobeithio y gellir croesawu’r math hwnnw o beth.
Sefydliad arall sydd wedi gwneud argraff fawr arnaf i yw Down to Earth, sydd wedi’i leoli yn Abertawe, ac felly gobeithio bod y Gweinidog yn gwybod amdano. Maen nhw'n gwneud tai hollol syfrdanol—wel, nid tai, ond datblygiadau adeiladu, gan weithio gyda phobl sy'n agored i niwed o ryw fath neu'i gilydd—rhai ohonyn nhw yn geiswyr lloches, rhai ohonyn nhw yn bobl â phroblemau iechyd meddwl—ac mae'r cynllun helpu i drawsnewid bywydau’r bobl hynny. Maen nhw’n caffael y sgiliau i godi'r adeiladau sy’n mynd i wella eu lles, ac mae Down to Earth bellach ar restr gaffael gymeradwy Llywodraeth Cymru, felly rwy’n gobeithio y bydd cyrff iechyd yn croesawu prosiectau fel Down to Earth.
Rwy'n annog y Gweinidog i ystyried addasu’r rheoliadau adeiladu i adfer y safonau di-garbon a gyflwynwyd gan Gordon Brown pan roedd yntau'n Brif Weinidog ac yna a ddiddymwyd gan George Osborne, oherwydd allwn ni ddim adeiladu mwy o gartrefi y bydd angen inni wedyn ôl-osod cyfarpar ynddyn nhw. Ond rwy’n edrych ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog.
Roeddwn i'n mynd i ganolbwyntio fy sylwadau ar ansawdd ac effeithlonrwydd ynni. Yn gynharach eleni, es i i ymweld â Chanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC Prifysgol Abertawe, lle y gwelais ystafell ddosbarth effeithlon o ran ynni gyntaf y DU, sy'n dangos sut y gellir dylunio adeiladau i fod yn gynhyrchwyr ynni neu'n orsafoedd pŵer yn y cartref. Mae gan yr ystafell ddosbarth do solar integredig a storfa fatri, ac mae'r waliau sy'n wynebu'r de yn casglu ynni solar. Dim ond ers chwe mis y mae hi wedi bod yno, ond yn ystod y cyfnod hwnnw mae hi wedi cynhyrchu mwy o ynni nag y mae hi wedi ei ddefnyddio. Yn y Cynulliad blaenorol, roeddwn i'n falch o ymweld, gydag Aelodau eraill yn y fan yma, â Thŷ SOLCER ar Stormy Down, y cyntaf o'i fath yng Nghymru, rwy'n credu, a gostiodd £125,000 i'w adeiladu. Gwnaeth hwnnw argraff fawr arnaf i a gwnaethpwyd argraff hyd yn oed fwy arnaf i ar ôl ymweld â SPECIFIC yn Abertawe ychydig o wythnosau yn ôl.
Rwy'n credu bod llawer o'r dulliau newydd, arloesol hyn o adeiladu yn digwydd, a cheir pocedi o ddylunio da iawn. Fe wnaeth Jenny Rathbone sôn am rai ohonynt yn ei chyfraniad hi ac mae hi wedi sôn am yr hyn y mae Cyngor Caerdydd yn ei wneud. Pan oeddwn i ym Mhrifysgol Abertawe, roedden nhw'n dweud wrthyf i fod y cysyniad hwn o fod yn bwerdy yn cael ei ddylunio i mewn i ddatblygiad newydd yng Nghastell-nedd gan gymdeithas dai—Pobl, rwy'n credu. Mae'r datblygiad hwn yn cynnwys toeon solar, rhannu storfa fatri, y potensial i drydanu cerbydau trydan—oherwydd, yn amlwg, wrth fynd i'r afael â'r broblem carbon, mae'n rhaid i ni wneud mwy am geir trydan—gwresogi dŵr gan gasglwr gwres solar ar waliau sy'n wynebu'r de, a gwres gwastraff yn cael ei ddal a'i ailgylchu yn yr adeilad, a bydd yr holl dechnolegau cyfunol hyn hefyd yn helpu i gadw biliau yn isel, gan fod y mathau hyn o adeiladau fel gorsafoedd pŵer yn gallu gostwng biliau tanwydd aelwydydd cymaint â £600 y flwyddyn a lleihau'r defnydd o ynni cymaint â 60 y cant.
Felly, beth allwn ni ei wneud yng Nghymru i sicrhau ein bod yn adeiladu'r mathau hyn o dechnolegau arloesol mewn cartrefi newydd ac, yn benodol, mewn cartrefi fforddiadwy? Nawr, ychydig o wythnosau yn ôl, fe wnes i gwrdd ag un o'r adeiladwyr tai preifat mawr sy'n adeiladu 2,200 o gartrefi yn fy etholaeth i, a bydd 30 y cant ohonyn nhw'n gartrefi fforddiadwy, a chawsom drafodaeth dda ynglŷn â'r manteision cymunedol a fydd yn dod i'r ardal yn sgil hynny—wyddoch chi, llwybrau beicio, a thocynnau bws i bobl, a'r mathau hynny o bethau—ond dydyn nhw ddim yn cyflwyno dim o'r dechnoleg cynhyrchu ynni yma, ac maen nhw'n adeiladu, wyddoch chi, 2,200 o gartrefi, ac mae'n rhan o ddatblygiad mwy o lawer, gan fod y boblogaeth yng Nghaerdydd yn tyfu ac mae gennym ni 8,000 o bobl ar y rhestr dai, felly mae angen y cartrefi newydd hyn arnom ni. Ond mae'n torri fy nghalon i braidd i weld y datblygiad tai eang hwn, lle y dylem ni fod â'r dechnoleg newydd hon wedi'i chynnwys ym mhob un. Meddyliwch cymaint o wahaniaeth y byddai hynny'n ei wneud i'r bobl sy'n mynd i fyw yno—fel yr wyf yn ei ddweud, mae 30 y cant ohonyn nhw wedi'u cynllunio i fod yn dai fforddiadwy—meddyliwch sut y byddai'n helpu pobl â'u biliau a sut y byddai'n arbed arian yn y dyfodol—wyddoch chi, i genedlaethau'r dyfodol. Byddai'n cyd-fynd â'n holl bolisïau, ond mae'r holl dai hyn yn mynd i gael eu hadeiladu yng Nghaerdydd nawr, a byddwn i'n tybio bod hyn yn digwydd â'r holl ddatblygwyr tai mawr, nad oes dim o'r dechnoleg newydd hon yn cael ei chynnwys ynddynt.
Felly, roeddwn i eisiau gofyn i'r Gweinidog, mewn gwirionedd, beth y gallem ni ei wneud am hyn. Beth y gallwn ni ei wneud i ddwyn perswâd ar adeiladwyr tai preifat? Yr adeiladwyr tai preifat mawr. Beth y gallwn ni ei wneud i'w darbwyllo i feddwl am y dyfodol? A byddwn i'n ategu'r hyn a ddywedodd Jenny Rathbone am y rheoliadau adeiladu. Yn amlwg, gallwn ni ddylanwadu arnyn nhw drwy newid y rheoliadau adeiladu yn ôl i'r hyn a gafodd ei ddiddymu. Felly, tybed a allai'r Gweinidog ddweud wrthym ni a oes unrhyw gynlluniau i edrych ar y rheoliadau adeiladu a'r hyn y gallwn ni ei wneud i geisio adeiladu ar gyfer y dyfodol.
Galwaf ar y Gweinidog Tai ac Adfywio i ymateb i'r ddadl—Rebecca Evans.
Diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr hyn sydd wedi bod, yn fy marn i, yn ddadl ddefnyddiol iawn a fydd yn sicr yn llywio'r panel i'r cyfeiriad iawn o ran deall y pryderon a geir yma yn y Siambr hon. Rwy'n mynd i geisio ymateb i gynifer o'r pwyntiau ag y gallaf, ac fe wnaf i ddechrau â materion sy'n ymwneud â dulliau modiwlar a chyfoes o adeiladu, oherwydd codwyd hynny gan y rhan fwyaf o'r Aelodau a siaradodd yn y ddadl. Wrth gwrs, mae ein rhaglen tai arloesol eisoes wedi cefnogi 21 o wahanol brosiectau ledled Cymru sydd yn sicr yn ysbryd y math o brosiect y mae Julie Morgan newydd ei ddisgrifio. Yn wir, mae ein prosiect yng Nghastell-nedd yn un o'n prosiectau rhaglen tai arloesol a gymeradwywyd o dan gyllideb y llynedd.
Mae'r ffenestr ar gyfer ceisiadau i'r cylch ariannu presennol yn dod i ben yr wythnos hon. Felly, rydym yn gobeithio y bydd llawer mwy o syniadau arloesol yn cael eu cyflwyno. Felly, syniadau newydd, ond hefyd syniadau sy'n datblygu'r rhaglenni yr ydym eisoes wedi eu gweld yn gweithio dros y flwyddyn ddiwethaf. Felly, mae llawer mwy o gyfle i wella'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yn y fan yno.
Mewn gwirionedd, mae angen inni gyrraedd pwynt lle y gallwn ni gyflwyno'r arloesedd hwn ar raddfa fawr, a phan fo'n ymarferol yn fasnachol i sicrhau ei fod mewn mwy o dai ar y fath o raddfa a ddisgrifiwyd gan Julie. Mae rhan o hynny yn cynnwys edrych ar reoliadau adeiladu, a fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths sy'n gyfrifol am hynny. Ond gallaf gadarnhau y bydd Rhan L o'r rheoliadau adeiladu yn cael ei hadolygu, a bydd hynny'n cychwyn yn ddiweddarach eleni. Roedd yn llwyddiannus o'r blaen o ran sicrhau gostyngiad o 8 y cant ac 20 y cant mewn allyriadau carbon o'i chymharu â safonau 2010 ar gyfer tai newydd ac adeiladau annomestig, yn y drefn honno. Felly, rwy'n credu mai nawr yw'r amser inni ystyried sut y gallwn ni fod yn fwy uchelgeisiol yn y dyfodol.
Mae'r rhaglen tai arloesol hefyd yn rhoi cyfle inni weld beth arall y gallwn ni ei wneud gan ddefnyddio pren o Gymru. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae llawer ohonom ni yn y Siambr hon, ac yn sicr ar draws y Llywodraeth, yn frwdfrydig iawn ynghylch ei wneud. Ond rydym ni hefyd yn ymwybodol mai un o'r heriau sydd gennym pan fyddwn ni'n sôn am dai arloesol yw sut y gallwn ni sicrhau bod y diwydiant yn barod i ymateb yn nhermau sgiliau. Unwaith eto, roedd hyn yn rhywbeth a godwyd yn y ddadl heddiw.
Mae yna awydd i sicrhau ein bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth, mewn gwirionedd. Felly, soniwyd am dasglu'r Cymoedd, er enghraifft, a gallaf gadarnhau bod tasglu'r Cymoedd yn edrych ar brosiect cyffrous iawn sy'n cynnwys yr hyn a elwir yn siop llain, ac mae Rhondda Cynon Taf yn ei arwain ar y prosiect ar ran y ddinas-ranbarth. Mae hynny'n ymwneud â hunan-adeiladu a chartrefi a adeiladir yn bwrpasol. Bydd yr awdurdod lleol yn darparu'r tir. Mae'n dod gyda'r caniatâd cynllunio eisoes ar waith. Mae'r person sydd â diddordeb mewn hunan-adeiladu neu adeilad pwrpasol yn dewis o lyfr patrwm o gartrefi, felly mae hynny hyd yn oed wedi'i wneud ar eu cyfer, ac yna maen nhw'n bwrw ymlaen ac yn adeiladu'r tŷ neu'n gofyn i'w hadeiladwyr adeiladu i'r safonau hynny. Felly, mae'n gwneud hunan-adeiladu ac adeiladu pwrpasol mor hawdd ag y gallan nhw fod, ac mae'n rhywbeth yr ydym ni'n awyddus i'w archwilio yn y camau cychwynnol yn rhan o dasglu'r Cymoedd, ond rwy'n credu bod potensial enfawr i hynny ledled Cymru hefyd.
Roedd llawer o ddiddordeb yn y ddadl o ran cymorth ar gyfer busnesau bach a chanolig. Gofynnwyd yn arbennig sut y gallwn ni ehangu'r cymorth gan gronfa datblygu eiddo Cymru. Wel, rydym ni eisoes wedi gwneud hynny. Dechreuodd y gronfa honno fel cronfa o £10 miliwn, ond roedd mor boblogaidd ymhlith busnesau bach a chanolig, ein bod ni nawr wedi ychwanegu £30 miliwn arall i'r gronfa honno. Gadewch inni beidio ag anghofio bod y cyllid hwnnw mewn gwirionedd yn cael ei ailgylchu dro ar ôl tro, felly mae llawer o gyfleoedd i fusnesau bach a chanolig i elwa ar hynny, ochr yn ochr â'r gronfa safleoedd segur yr ydym wedi ei chyflwyno i ryddhau rhai o'r safleoedd hynny nad yw, am ba bynnag reswm—gallai fod yn adferiad neu efallai oherwydd llif arian—nad yw busnesau bach a chanolig wedi adeiladu ar y safleoedd hynny hefyd. Felly, mae llawer o waith cyffrous yn digwydd yn y maes penodol hwnnw.
Codwyd mater y polisi rhent yn y ddadl, a dyna un o'r ffrydiau gwaith y mae'r panel wedi'i nodi sy'n bwysig i fwrw ymlaen ag ef. Pan fyddwn ni'n sôn am bolisi rhenti, rwyf bob amser yn ymwybodol bod angen inni fod yn meddwl am fforddiadwyedd i'r tenantiaid, a dyma pam mai hon yw'r flwyddyn olaf bellach o'r cytundeb pum mlynedd a fu gennym â'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o ran pennu polisi rhent. Felly rydym wedi gofyn i Brifysgol Heriot-Watt i'n cynghori ni ar fodelau posibl ar gyfer bwrw ymlaen â hyn, a gofynnais iddynt ymgymryd â gwaith bwrdd crwn gyda thenantiaid i ddeall fforddiadwyedd o'u safbwynt nhw, i sicrhau bod gennym y cydbwysedd iawn o wneud y peth iawn i denantiaid, ond, yn yr un modd, drwy roi i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig y cyllid sydd ei angen arnyn nhw er mwyn parhau i adeiladu cartrefi, a chartrefi fforddiadwy a chartrefi cymdeithasol yn arbennig, oherwydd bod hyn oll yn rhan o'r darlun ehangach. Mae popeth ym maes tai yn gydgysylltiedig yn y ffordd honno.
Mater y cyfle i awdurdodau lleol adeiladu ar raddfa fawr ac yn gyflym—wel, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni'n arbennig o awyddus i'w ysgogi o fewn Llywodraeth Cymru, ac un o'r ffyrdd y gallwn ni wneud hynny yw drwy edrych ar derfyn benthyca awdurdodau lleol. Mae gennym £17 miliwn o fewn y terfyn benthyca presennol sydd eto i'w ddyrannu, ac rydym wedi gallu negodi cynnydd o £56 miliwn i'r terfyn benthyca gan y Trysorlys hefyd, felly mae hynny'n golygu bod gennym £73 miliwn i'w ddyrannu ymhlith awdurdodau lleol. Felly, mae rhywfaint o waith terfynol yn mynd rhagddo erbyn hyn gydag awdurdodau lleol i ddrafftio'r gweithdrefnau i alluogi awdurdodau tai lleol i ymgeisio am gapasiti benthyca ychwanegol, ac rydym yn gwneud hynny gan weithio ar y cyd â chynrychiolwyr tai a chyllid awdurdodau tai lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gytuno ar y dogfennau terfynol yn y fan yno.
Rydym ni wedi sôn yn y ddadl am yr angen am dai, a hwn oedd y cyntaf o'r ffrydiau gwaith a nodwyd gan y panel yn rhai yr oedd angen bwrw ymlaen â nhw. Ceir barn bod angen diweddaru adroddiad Holmans, oherwydd, fel y deallaf i, roedd rhywfaint o'r data a ddefnyddiwyd ynddo yn dyddio'n ôl i sut yr oedd aelwydydd yn ffurfio yn ôl yn y 1990au, felly rwy'n credu ei bod yn gwbl ddilys i geisio diweddaru y gwaith hwnnw o ran hysbysu'r ffordd ymlaen, oherwydd mae'r adolygiad hwn yn sicr yn ymwneud â'r tymor hwy. Nid yw hyn yn ymwneud â chreu atebion cyflym i broblemau tai, mae'n ymwneud â bodloni'r galw tymor hir. [Torri ar draws.] Gwnaf wrth gwrs.
Os gallan nhw adeiladu ar y model Holmans a'i wneud yn gyfredol, mae hynny'n iawn, ond fe'i cyhoeddwyd dair blynedd yn unig yn ôl. Rwy'n credu y gallwn ni orliwio pa mor gyfredol yr ydyw, yn eich barn chi.
Fel rwy'n dweud, mae rhywfaint o'r data ynddo yn mynd yn ôl i'r 1990au. Rwy'n credu, beth bynnag y bydd ein data ni yn ei ddweud, beth bynnag y mae data Holmans yn ei ddweud, rwy'n credu y gallwn ni i gyd gytuno bod angen inni fod yn adeiladu mwy o gartrefi a'n bod ni eisiau adeiladu mwy o gartrefi. Felly, yn sicr mae gennym ni hynny yn gyffredin.
Fe wnaf i orffen ar y mater o dai fel hawl ddynol. Mae hyn yn rhywbeth y soniodd amryw Aelodau amdano hefyd yn y ddadl heddiw. Er na all Llywodraeth Cymru ddeddfu i wneud tai yn hawl ddynol, fe allwn ni, serch hynny, yn sicr ei gydnabod a gweithredu o fewn yr ysbryd hwnnw. Rydym yn gwneud hynny mewn un ffordd, er enghraifft, yn ein hegwyddorion tai yn gyntaf. Egwyddor gyntaf yr egwyddorion tai yn gyntaf hynny yw bod tai yn hawl ddynol, ac mae hynny yn sicr yn nodi'r ysbryd yr ydym yn gweithredu ynddo yn ein huchelgeisiau tai ar gyfer Cymru.
Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2, 3, 4 a 5 eu dad-ddethol. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio, sy'n dod â ni i'r cyfnod pleidleisio.