Part of the debate – Senedd Cymru am 5:40 pm ar 10 Gorffennaf 2018.
Mae'r rhaglen tai arloesol hefyd yn rhoi cyfle inni weld beth arall y gallwn ni ei wneud gan ddefnyddio pren o Gymru. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae llawer ohonom ni yn y Siambr hon, ac yn sicr ar draws y Llywodraeth, yn frwdfrydig iawn ynghylch ei wneud. Ond rydym ni hefyd yn ymwybodol mai un o'r heriau sydd gennym pan fyddwn ni'n sôn am dai arloesol yw sut y gallwn ni sicrhau bod y diwydiant yn barod i ymateb yn nhermau sgiliau. Unwaith eto, roedd hyn yn rhywbeth a godwyd yn y ddadl heddiw.
Mae yna awydd i sicrhau ein bod yn gweithio ar draws y Llywodraeth, mewn gwirionedd. Felly, soniwyd am dasglu'r Cymoedd, er enghraifft, a gallaf gadarnhau bod tasglu'r Cymoedd yn edrych ar brosiect cyffrous iawn sy'n cynnwys yr hyn a elwir yn siop llain, ac mae Rhondda Cynon Taf yn ei arwain ar y prosiect ar ran y ddinas-ranbarth. Mae hynny'n ymwneud â hunan-adeiladu a chartrefi a adeiladir yn bwrpasol. Bydd yr awdurdod lleol yn darparu'r tir. Mae'n dod gyda'r caniatâd cynllunio eisoes ar waith. Mae'r person sydd â diddordeb mewn hunan-adeiladu neu adeilad pwrpasol yn dewis o lyfr patrwm o gartrefi, felly mae hynny hyd yn oed wedi'i wneud ar eu cyfer, ac yna maen nhw'n bwrw ymlaen ac yn adeiladu'r tŷ neu'n gofyn i'w hadeiladwyr adeiladu i'r safonau hynny. Felly, mae'n gwneud hunan-adeiladu ac adeiladu pwrpasol mor hawdd ag y gallan nhw fod, ac mae'n rhywbeth yr ydym ni'n awyddus i'w archwilio yn y camau cychwynnol yn rhan o dasglu'r Cymoedd, ond rwy'n credu bod potensial enfawr i hynny ledled Cymru hefyd.
Roedd llawer o ddiddordeb yn y ddadl o ran cymorth ar gyfer busnesau bach a chanolig. Gofynnwyd yn arbennig sut y gallwn ni ehangu'r cymorth gan gronfa datblygu eiddo Cymru. Wel, rydym ni eisoes wedi gwneud hynny. Dechreuodd y gronfa honno fel cronfa o £10 miliwn, ond roedd mor boblogaidd ymhlith busnesau bach a chanolig, ein bod ni nawr wedi ychwanegu £30 miliwn arall i'r gronfa honno. Gadewch inni beidio ag anghofio bod y cyllid hwnnw mewn gwirionedd yn cael ei ailgylchu dro ar ôl tro, felly mae llawer o gyfleoedd i fusnesau bach a chanolig i elwa ar hynny, ochr yn ochr â'r gronfa safleoedd segur yr ydym wedi ei chyflwyno i ryddhau rhai o'r safleoedd hynny nad yw, am ba bynnag reswm—gallai fod yn adferiad neu efallai oherwydd llif arian—nad yw busnesau bach a chanolig wedi adeiladu ar y safleoedd hynny hefyd. Felly, mae llawer o waith cyffrous yn digwydd yn y maes penodol hwnnw.
Codwyd mater y polisi rhent yn y ddadl, a dyna un o'r ffrydiau gwaith y mae'r panel wedi'i nodi sy'n bwysig i fwrw ymlaen ag ef. Pan fyddwn ni'n sôn am bolisi rhenti, rwyf bob amser yn ymwybodol bod angen inni fod yn meddwl am fforddiadwyedd i'r tenantiaid, a dyma pam mai hon yw'r flwyddyn olaf bellach o'r cytundeb pum mlynedd a fu gennym â'r landlordiaid cymdeithasol cofrestredig o ran pennu polisi rhent. Felly rydym wedi gofyn i Brifysgol Heriot-Watt i'n cynghori ni ar fodelau posibl ar gyfer bwrw ymlaen â hyn, a gofynnais iddynt ymgymryd â gwaith bwrdd crwn gyda thenantiaid i ddeall fforddiadwyedd o'u safbwynt nhw, i sicrhau bod gennym y cydbwysedd iawn o wneud y peth iawn i denantiaid, ond, yn yr un modd, drwy roi i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig y cyllid sydd ei angen arnyn nhw er mwyn parhau i adeiladu cartrefi, a chartrefi fforddiadwy a chartrefi cymdeithasol yn arbennig, oherwydd bod hyn oll yn rhan o'r darlun ehangach. Mae popeth ym maes tai yn gydgysylltiedig yn y ffordd honno.
Mater y cyfle i awdurdodau lleol adeiladu ar raddfa fawr ac yn gyflym—wel, mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni'n arbennig o awyddus i'w ysgogi o fewn Llywodraeth Cymru, ac un o'r ffyrdd y gallwn ni wneud hynny yw drwy edrych ar derfyn benthyca awdurdodau lleol. Mae gennym £17 miliwn o fewn y terfyn benthyca presennol sydd eto i'w ddyrannu, ac rydym wedi gallu negodi cynnydd o £56 miliwn i'r terfyn benthyca gan y Trysorlys hefyd, felly mae hynny'n golygu bod gennym £73 miliwn i'w ddyrannu ymhlith awdurdodau lleol. Felly, mae rhywfaint o waith terfynol yn mynd rhagddo erbyn hyn gydag awdurdodau lleol i ddrafftio'r gweithdrefnau i alluogi awdurdodau tai lleol i ymgeisio am gapasiti benthyca ychwanegol, ac rydym yn gwneud hynny gan weithio ar y cyd â chynrychiolwyr tai a chyllid awdurdodau tai lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i gytuno ar y dogfennau terfynol yn y fan yno.
Rydym ni wedi sôn yn y ddadl am yr angen am dai, a hwn oedd y cyntaf o'r ffrydiau gwaith a nodwyd gan y panel yn rhai yr oedd angen bwrw ymlaen â nhw. Ceir barn bod angen diweddaru adroddiad Holmans, oherwydd, fel y deallaf i, roedd rhywfaint o'r data a ddefnyddiwyd ynddo yn dyddio'n ôl i sut yr oedd aelwydydd yn ffurfio yn ôl yn y 1990au, felly rwy'n credu ei bod yn gwbl ddilys i geisio diweddaru y gwaith hwnnw o ran hysbysu'r ffordd ymlaen, oherwydd mae'r adolygiad hwn yn sicr yn ymwneud â'r tymor hwy. Nid yw hyn yn ymwneud â chreu atebion cyflym i broblemau tai, mae'n ymwneud â bodloni'r galw tymor hir. [Torri ar draws.] Gwnaf wrth gwrs.