Rheoli Perthi yn yr Haf

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:31 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 1:31, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

A gaf fi ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn? Rydych yn codi pwynt pwysig iawn o ran gwerth perthi'n darparu ffynonellau bwyd a chynefinoedd hanfodol i adar ac anifeiliaid, ac i wella a diogelu bioamrywiaeth. O dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, roedd dyletswydd gyhoeddus ar bob awdurdod cyhoeddus i sicrhau a chynnal bioamrywiaeth, a thrwy hynny gynyddu gwydnwch ecosystemau, sydd hefyd yn darparu diogelwch ychwanegol ar gyfer perthi a'r fioamrywiaeth gysylltiedig, gan gynnwys pryfed peillio. Fy mwriad yw cyfarfod ag awdurdodau lleol i drafod sut y maent yn rhoi'r ddyletswydd bioamrywiaeth yn Neddf yr amgylchedd ar waith, a phwysleisio y gall hynny ffurfio rhan o werth perthi fel rhan o hynny. Cyfeiriasoch at Ddeddf Bywyd Gwyllt a Chefn Gwlad 1981. Mae'n gweithredu fel mecanwaith statudol i atal aflonyddu ar adar sy'n nythu, o fis Mawrth i fis Hydref, drwy dorri perthi. Er nad yw torri perthi yn ystod y cyfnodau hyn yn anghyfreithlon, mae'n rhaid i bawb sy'n berchen ar berthi sicrhau nad oes adar yn nythu yn y perthi cyn gwneud hynny.