Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:33 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Weinidog, rwyf wedi derbyn sylwadau gan etholwyr sy'n pryderu ynglŷn â gormod o dorri lleiniau ymylon ffyrdd, yn enwedig ar ffordd yr A40 rhwng Abergwaun a Hwlffordd, gan ddinistrio fflora lleol, ac mae hyn yn arwain at effeithiau canlyniadol ar fywyd gwyllt lleol. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn cyflwyno menter coridor gwyrdd newydd ar gyfer lleiniau ymylon ffyrdd. Ond a allwch ddweud wrthym pa gamau penodol y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i warchod y lleiniau a sicrhau bod y gwaith o'u cynnal a'u cadw yn addas ac yn gwarchod y bywyd gwyllt lleol?