Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:06 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Mi fyddwch chi'n ymwybodol mai Gwynedd ydy'r ardal efo'r mwyaf o ail gartrefi ym Mhrydain, tua 5,000 i gyd. O ganlyniad, mae pobl leol yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai, gan achosi argyfwng mewn nifer o gymunedau. Gan fod Llywodraeth Cymru wrthi'n ymgynghori ar ddiwygio is-ddeddfwriaeth cynllunio, sy'n cynnwys y rheolau yn ymwneud â dosbarthiadau defnydd, a'r gofynion ar gyfer newid defnydd, a fyddwch chi'n fodlon edrych ar y mater o ddefnyddio'r drefn gynllunio i geisio rheoli ychydig ar y farchnad tai haf? Wrth lunio'r cynigion drafft, a wnaethoch chi ystyried y posibilrwydd o gyflwyno gofyniad a fyddai'n golygu bod angen caniatâd cynllunio cyn i dai annedd gael eu defnyddio neu eu trosi yn ail gartrefi? A wnewch chi ymrwymo i edrych ar hyn ac i weithredu ar hynny wrth lunio'ch cynigion terfynol, fel ffordd o reoli prisiau'r farchnad dai? Diolch.