Cefnogi Ffermwyr

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:10 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Mr Simon Thomas Mr Simon Thomas Plaid Cymru 2:10, 11 Gorffennaf 2018

Mae'n amlwg o fynd o gwmpas cefn gwlad Cymru ar hyn o bryd pa mor sych yw'r ddaear; mae pethau'n hesb iawn. Rydych chi wedi cyhoeddi eich bod chi'n barod i ryddhau rhai o ymrwymiadau Glastir er mwyn cynorthwyo ffermwyr i ddelio gyda'r tywydd yma. Pe bai'r tywydd yn parhau—a dyma'r cyfle olaf, wrth gwrs, i chi gerbron y Cynulliad cyn toriad yr haf—pe bai'r tywydd yn parhau a bod diffyg dŵr a diffyg glaw, a oes yna gamau pellach y medrwch chi eu cymryd i wneud yn siŵr nad yw unrhyw reolau biwrocrataidd yn rhwystro ffermwyr rhag gwneud y peth iawn ar gyfer y ddaear, ac ar gyfer unrhyw anifeiliaid yn ogystal? A wnewch chi fod mor hyblyg ag sy'n bosibl, yn wyneb y ffaith ein bod ni o bosibl yn mynd i gael haf arbennig o sych?