Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:11 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Rydych yn llygad eich lle; rydym wedi llacio'r rheoliadau. Roeddwn yn meddwl ei bod yn bwysig iawn gwneud hynny. Yr wythnos hon, rwyf hefyd wedi gofyn i swyddogion edrych ar ba brotocol sydd gennym ar waith mewn perthynas â dŵr. Yn sicr, byddaf mor hyblyg ag y gallaf fod, gan na wyddom am faint yn rhagor—er ei bod yn edrych yn dywyll iawn yn gynharach, a gwn fod llawer o bobl yn gweddïo am law—ond yn sicr, fy mwriad yw bod mor hyblyg ag y gallaf fod.