Gwarchod Anifeiliaid Anwes

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:58 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Suzy Davies Suzy Davies Conservative 1:58, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Yn y datganiad hwnnw, dywedasoch y dylai pobl feddwl yn ofalus iawn am y cyfrifoldebau y maent yn eu hysgwyddo pan fyddant yn ystyried cael anifail anwes. Ond rwy'n falch o'ch clywed yn dweud hefyd eich bod yn cydnabod y gall amgylchiadau pobl newid ar fyr rybudd a heb fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain. Mae Cats Protection yn nodi cynnydd yn nifer y cathod y maent yn eu derbyn am fod landlordiaid, rai ohonynt, yn gyndyn o ganiatáu cathod, a chartrefi preswyl hefyd yn yr un modd, ac yn y ddau achos, yn aml iawn, cathod hŷn sydd naill ai'n cael eu gadael neu'n cael eu rhoi mewn lloches, yn anffodus, ac wrth gwrs, mae'n anos ailgartrefu cathod hŷn. Gwyddom fod anifeiliaid anwes yn cyfrannu at les corfforol a meddyliol, felly pa fath o sgyrsiau rydych yn eu cael gyda landlordiaid a'r sector cartrefi gofal i weld a ellir cadw pobl a'u hanifeiliaid anwes gyda'i gilydd? Diolch.