Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 1:59 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda'r naill na'r llall o'r sectorau hynny, ond credaf eich bod yn codi pwynt pwysig. Pan soniwch am anifeiliaid hŷn, yn amlwg, os yw rhywun yn mynd i ofal preswyl, mae'n debygol eu bod wedi bod yn berchen ar eu hanifail anwes ers blynyddoedd lawer. Felly, gall beri gofid mawr i'r ddwy ochr. Felly, credaf fod hyn yn rhywbeth y mae angen inni ei ystyried. Byddaf yn sicrhau fy mod yn dechrau cael y sgyrsiau hynny a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod maes o law.