Llygredd Aer ym Mhort Talbot

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:16 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Rees David Rees Labour 2:16, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch am eich ateb, Weinidog, ac nid wyf am siarad am yr estyniad 50 mya, sy'n achosi anhrefn, ond rwyf am siarad am Tata Steel a'r materion sy'n ymwneud â hynny. Mae pob un ohonom yn deall bod diwydiant trwm yn arwain at ryw fath o lygredd, ond mae llawer iawn o etholwyr wedi mynegi pryderon aruthrol ynglŷn â'r lefelau llwch rydym wedi'u cael ym Mhort Talbot dros y misoedd diwethaf. Rwy'n sylweddoli bod y tywydd cynnes yn ffactor sydd wedi cyfrannu, rydym yn deall hynny, ond mae hyn wedi mynd y tu hwnt i hynny, cyn i hynny ddigwydd. A beth y mae'n ei wneud? Oherwydd mae gan Cyfoeth Naturiol Cymru gyfrifoldeb am fonitro a gweithredu i sicrhau bod ansawdd yr aer a ddaw o'r gwaith yn gwella. A allwch roi sicrwydd i mi eu bod yn gwneud y gwaith hwnnw gan fod trigolion yn mynd allan, nid bob dydd, ond bob awr yn y bôn i lanhau eu byrddau a'u ceir a siliau ffenestri oherwydd y llwch o'r gwaith?