Llygredd Aer ym Mhort Talbot

Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:17 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Hannah Blythyn Hannah Blythyn Labour 2:17, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn a'i ymrwymiad cyson i'r mater hwn ar ran ei etholaeth. Fe sonioch chi ynglŷn â sut y cafwyd achosion yn ddiweddar, gyda'r tywydd cynnes a sych, o lawer iawn o lwch yn effeithio ar drigolion lleol. Rwy'n deall y pryder a'r rhwystredigaeth y byddai hynny'n ei achosi i drigolion lleol yn llwyr. Rwy'n deall bod—. Rydych yn llygad eich lle mai Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n parhau i fod yn gyfrifol am reoleiddio hyn. Deallaf eu bod yn cyfarfod â Tata heddiw i drafod y problemau diweddar, ac rwyf wedi gofyn i fy swyddogion gysylltu â hwy i sicrhau bod canlyniad y trafodaethau hyn yn fy nghyrraedd yn syth.

Rwy'n mynd i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a'r holl randdeiliaid eraill i adolygu gweithgarwch cyfredol, llwch—[Anghlywadwy.]—a'r effaith ar y gymuned leol. Rwy'n rhannu pryderon yr Aelod, ac rwyf wedi dweud yn glir mai fy nod yw gostwng lefelau llygredd aer, ond fel rydych chi ac eraill yn cydnabod, mae'n sefyllfa gymhleth ac unigryw iawn, sydd yn peri llawer o heriau, ond nid yw hynny'n golygu na allwn fynd i'r afael â'r heriau hynny. Mae'n bwysig sicrhau'r cydbwysedd hwnnw rhwng cydnabod rôl y gwaith dur o ran bod yn angor economaidd o fewn y gymuned leol a sicrhau ein bod yn cael y canlyniadau iawn ar gyfer iechyd a lles trigolion lleol hefyd.