Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:03 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Mae Caroline Jones a Mike Hedges wedi gwneud pwyntiau dilys a phwysig iawn mewn perthynas â morlyn llanw Abertawe, ac mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi datgan yn glir ein bod yn gobeithio y gellir dod o hyd i ffordd ymlaen ar gyfer y prosiect hwnnw. Rwy'n derbyn bod hyn yn siom, ond yn sicr, rydym yn cefnogi Llywodraeth Cymru i ddod o hyd i ffyrdd amgen yn y dyfodol o fwrw ymlaen â'r prosiect.
Wrth gwrs, mae cynlluniau llai yn mynd rhagddynt ledled Cymru hefyd. Efallai eich bod yn ymwybodol o'r Prosiect Gwyrdd yn fy etholaeth—gobeithio fy mod yn ei ynganu'n iawn—sef cydweithrediad rhwng y pum cyngor yn ne-ddwyrain Cymru, gan gynnwys sir Fynwy, sy'n ceisio dod o hyd i'r ffordd fwyaf costeffeithiol ac ecogyfeillgar o ymdrin â gwastraff gweddilliol na ellir ei ailgylchu neu ei gompostio, ond y gellir ei losgi i gynhyrchu ager a darparu ynni. A fyddech yn cytuno â mi fod hon yn enghraifft wych o gydweithredu rhwng awdurdodau lleol, Ysgrifennydd y Cabinet, a hefyd yn ffordd wych o ymdrin â gwastraff na ellir ei drin mewn ffordd ecogyfeillgar? Beth rydych yn ei wneud i ymestyn y mathau hyn o brosiectau, a'u rhoi ar waith ledled gweddill Cymru?