Part of 1. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig – Senedd Cymru am 2:04 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Ydw, rwy'n cytuno â chi. Mae'n dda gweld cydweithredu ar y raddfa honno rhwng y pum awdurdod lleol. Mae'n bwysig iawn fod gennym gymysgedd o ynni, ac yn sicr, prosiectau ynni cymunedol. Rwyf wedi gweld rhai aruthrol ledled Cymru. Fe fyddwch yn gwybod hefyd—credaf ei bod yn eich etholaeth chi; mae'n sicr o dan gyngor sir Fynwy—am y fferm solar fawr sydd ganddynt yno. Cawsom fenthyg oddeutu £4 miliwn, rwy'n credu, gan Lywodraeth Cymru. Felly, credaf ei bod yn wych gweld awdurdodau lleol yn cydweithredu, gan ddatblygu technolegau arloesol i'n cynorthwyo, unwaith eto, i sicrhau ein bod yn cyflawni ein targedau carbon.