Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:19 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, diolch am eich ateb cryno iawn. Bydd cynigion Llywodraeth Cymru i gyfuno nifer o ffrydiau a ariennir gan grantiau i greu un grant—y grant ymyrraeth gynnar, atal a chefnogi—yn diddymu'r diogelwch a glustnodir ar gyfer nifer o ffrydiau fel Cefnogi Pobl, grant refeniw Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Nawr, yn fy rhanbarth i, gallai hyn gael effaith andwyol ar fenter o'r enw partneriaeth Teulu, sy'n hynod o boblogaidd, ac sydd wedi darparu cymorth hanfodol i blant ar adegau anodd iawn. Mae rhai o fy etholwyr wedi dweud wrthyf na fyddent wedi gallu ymdopi â phrofiadau anodd iawn oni bai am y cymorth a gawsant gan bartneriaeth Teulu. Nawr, rwy'n deall bod swyddogion Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymholiadau ynglŷn â dyfodol y grant hwn, a bod cyngor Caerdydd wedi cadarnhau y bydd unrhyw drefniadau newydd yn sicrhau bod y gwasanaethau a ddarperir gan bartneriaeth Teulu yn parhau.
A ydych yn credu ei bod yn wirioneddol bwysig fod cynlluniau llwyddiannus yn cael eu parhau mewn unrhyw drefniant cyllid newydd, a'n bod yn cynnal arferion gorau? Nid oes angen inni ailddyfeisio'r olwyn drwy'r amser, ac yn sicr, pan fydd ein hetholwyr yn dweud wrthych fod rhywbeth yn gweithio, dylid ei gynnal.