Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:35 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Bethan Sayed Bethan Sayed Plaid Cymru 2:35, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Ie, wel, iawn, fe gawn weld a oes yna waith trawslywodraethol yn digwydd felly. [Chwerthin.]

Mae fy nghwestiwn cyntaf yn ymwneud â defnyddio cyffuriau, a chamddefnyddio cyffuriau mewn rhai mannau, sydd wedi cyrraedd lefelau dychrynllyd o uchel, ac fe ddangosodd adroddiad yn gynharach eleni fod nifer y marwolaethau o ganlyniad i ddefnyddio heroin wedi cynyddu'n sylweddol ers 1993. Yn ogystal â hyn, mae cynnydd sy'n peri pryder wedi bod mewn troseddau llinellau cyffuriau, gyda gwerthwyr cyffuriau a gangiau yn gynyddol yn targedu cymunedau llai ac yn symud o ddinasoedd mawr yn Lloegr i ddod yma. Gwn ein bod wedi clywed straeon yn Abertawe ac yng Nghastell-nedd yng Ngorllewin De Cymru. Mae'n un o'r 10 lle yng Nghymru a Lloegr lle mae nifer y marwolaethau wedi codi fwyaf, ac mae defnydd o gyffuriau eraill, fel spice, hefyd ar gynnydd. Deallaf eich bod yn gweithio gyda'r heddlu mewn perthynas â hyn, ond roeddwn eisiau deall sut rydych yn gweithio gyda hwy fel y gallwn fynd i'r afael â'r mater hwn yn uniongyrchol.

O, chi ydyw. Iawn.