Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:36 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:36, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Nid ydych wedi clywed yr ateb eto. [Chwerthin.]

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y cwestiwn. Rydym yn gweithio'n agos gyda'r pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru ar y mater hwn. Rwyf wedi cyfarfod â swyddogion sy'n ymdrin â throseddau difrifol a chyfundrefnol yng Nghymru i drafod y materion a nododd. Maent yn faterion difrifol iawn, wrth gwrs, sy'n effeithio ar bob un o'n lluoedd ar draws y wlad. Felly, rydym yn gweithio gyda hwy. Dros yr haf, rwy'n gobeithio sefydlu strwythurau lle y gallwn ffurfioli'r gwaith a wnawn gyda'r heddluoedd ar hyn o bryd. Mae'r Aelodau'n ymwybodol, wrth gwrs, nad yw'r rhain yn faterion datganoledig—nid yw polisi cyffuriau na phlismona wedi'u datganoli. Felly, rydym yn gweithio mewn meysydd lle nad oes gennym reolaeth dros yr agenda polisi, ond yn amlwg mae gennym ddylanwad mawr, gobeithio, yn y ffordd y gellir cyflawni'r gwaith o blismona. Felly, rydym yn ymwybodol o'r broblem. Rwy'n ymwybodol iawn o'r problemau rydych yn eu disgrifio yng Nghastell-nedd, a gobeithiaf y byddwn yn gallu gweithio gyda heddluoedd i gyflawni'r math o ymateb rydych wedi'i ddisgrifio.