Diwygio Etholiadol o fewn Llywodraeth Leol

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:51 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Alun Davies Alun Davies Labour 2:51, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod nad oes unrhyw ran o lywodraeth leol wedi awgrymu'r materion hynny i mi, ond mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno â hi. Fel hithau, cytunaf â system y bleidlais sengl drosglwyddadwy, a dyna yw fy hoff system innau hefyd. Rwy'n tybio y bydd y ddau ohonom yn dadlau dros y datganiad hwnnw yn ystod ymgynghoriad Plaid Lafur Cymru dros y misoedd nesaf. Mae gan Lywodraeth Cymru bolisi clir ar y mater hwn. Mae gennym gytundeb i gyflwyno newid opsiynol i system y bleidlais sengl drosglwyddadwy, y gall llywodraeth leol ei dewis os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Yn bersonol, buaswn yn annog pob awdurdod lleol i wneud hynny. Credaf fod y bleidlais sengl drosglwyddadwy yn system decach. Mae'n sicrhau mwy o amrywiaeth a mwy o atebolrwydd democrataidd. Felly, fel yr Aelod dros Ogledd Caerdydd, rwy'n gobeithio y bydd llywodraeth leol yn croesawu newid i system gyfrannol dros y blynyddoedd nesaf.