Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:52 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Ysgrifennydd y Cabinet, efallai eich bod wedi clywed fy nghwestiwn i'r Prif Weinidog ddoe mewn perthynas ag unigolyn oedd yn dod o sir Drefaldwyn sy'n teimlo ei fod wedi'i ddifreinio gan y system etholiadol, fel pleidleisiwr tramor—[Torri ar draws.] Nid wyf yn siŵr pa ffordd y mae'r etholwr penodol yn bwrw ei bleidlais. Nid wyf yn siŵr a ddeallodd y Prif Weinidog fwriad fy nghwestiwn, felly roeddwn eisiau ei godi gyda chi. Yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, mae'r unigolyn dan sylw yn cael pleidleisio yn yr etholiadau cyffredinol ond mae wedi'i wahardd rhag pleidleisio yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru neu mewn etholiadau llywodraeth leol gan y cânt eu hystyried yn etholiadau ail ddosbarth. Y broblem yma yw, os yw rhywun sy'n byw yng Nghymru yn symud dramor, gallant bleidleisio yn etholiadau Cymru. Os yw rhywun sy'n byw yng Nghymru yn symud i gyfeiriad yn Lloegr neu'r Alban, ac yna'n symud dramor, ni allant benderfynu pa genedl i'w gosod ynddi os ydynt yn byw dramor. A oes unrhyw beth y gellir ei wneud i sicrhau y gall gwladolion Cymreig sy'n dymuno gwneud hynny gymryd rhan yn etholiadau Cynulliad Cymru neu mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru?