Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:49 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Ie, rwy'n cytuno, ac rwy'n sicr wedi darllen eich dogfen, ac edrychaf ymlaen at weld y ddogfen ar dai yn yr hydref hefyd.
Rhannaf eich cyffro ynglŷn â thoeau gwyrdd ac rydym eisoes wedi gweld enghreifftiau da iawn. Mae'r prosiect Down to Earth yn fy etholaeth, yng Ngŵyr, wedi adeiladu adeiladau gyda thoeau gwyrdd a gwelsant fod hynny'n dda, nid yn unig o ran strwythur yr adeilad, ond yn dda i'r enaid o ran y bobl sy'n gweithio yno. Mae i'w weld yn rhywbeth sy'n creu'r math o amgylchedd sy'n sicr yn cyfrannu at lesiant, ochr yn ochr â'r rôl bwysig y mae'n ei chwarae o ran datgarboneiddio ac ati. Felly, mae digonedd o gyfleoedd yno, ond rwy'n awyddus i archwilio hyn beth bynnag, nid yn unig o fewn y portffolio tai neu o fewn y rhan o fy ngwaith sy'n ymwneud â thai. Roeddwn mewn cyfarfod diweddar o'r hyb sydd wedi dechrau gweithio yn Rhydaman a Cross Hands. Maent yn edrych ar brosiectau adfywio yn ardal sir Gaerfyrddin. Mae toeau gwyrdd yn un o'r pethau y maent yn eu gwneud o ran paratoi'r adeiladau y byddant yn eu cyflwyno, er mwyn cynyddu nifer swyddi ac ati. Felly, credaf y dylid ystyried toeau gwyrdd fel rhan o'n huchelgeisiau adfywio, yn ogystal â sut rydym yn edrych ar adeiladu tai yn benodol.