Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 2:48 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of David Melding David Melding Conservative 2:48, 11 Gorffennaf 2018

(Cyfieithwyd)

Rwyf wedi gosod prawf, peidiwch â phoeni.

Mae hyn yn cynnwys rhai elfennau o'r polisi tai a byddwn yn cynhyrchu dogfen arall yn benodol ar dai yn yr hydref. Ond un maes rydym wedi edrych arno yn y strategaeth yw toeon gwyrdd. Mae yna ddatblygiadau tai bellach ledled Lloegr—ac mae un enghraifft yn Barking yn Llundain—lle mae datblygwyr yn ymchwilio i'r defnydd o doeau gwyrdd ar dai oherwydd yr effaith gadarnhaol y maent yn ei chael ar inswleiddio thermol, gwanhau llif dŵr storm, gwella ansawdd aer, gwella ansawdd dŵr, creu cynefinoedd ar gyfer pryfed peillio a gwella'r ymdeimlad o lesiant a nifer y mannau gwyrdd o'n cwmpas. Credaf y gallai rhaglen tai arloesol Llywodraeth Cymru fod yn ffordd amlwg o edrych ar y math hwn o arloesedd yng Nghymru, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gweld cynlluniau peilot yn cael eu cyflwyno yn awr mewn perthynas â thoeau gwyrdd, oherwydd mae rhai dinasoedd yn y DU yn amlwg bellach yn gweld hon fel ffordd dda iawn o ddatblygu tai effeithiol yn yr unfed ganrif ar hugain.