Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:00 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Diolch am yr ateb. Wrth gwrs, nid yw e wedi’i ddatganoli, ond mae Llywodraeth Cymru, yn y gorffennol, wedi cynnal amryw o systemau cynnal a grantiau ar gyfer swyddfeydd post. Mae newid diweddar yn y ffordd y mae’r Swyddfa Bost yn talu’r canghennau o’r taliad sylfaenol, beth maen nhw’n ei alw’n core tier payment, i daliadau fesul transaction yn cael effaith ar rai swyddfeydd post, yn enwedig mewn ardaloedd cefn gwlad. Oes, mae yna bosibiliad newydd, o bryd i’w gilydd, ar gyfer bancio, ond, yn fras iawn, dyma’r taliadau hollol sylfaenol ar gyfer cwsmeriaid, er enghraifft, i roi arian am drydan a nwy, pethau syml fel yna. Mae yna dâl bach am ganiatáu hynny, ond nid yw hyd yn oed yn ddigon i gyfro’r costau cynnal staff, cynnal y ddesg ac ati.
Mi fyddaf i’n ymweld, o fewn yr wythnos nesaf, â’r Ffôr, ger Pwllheli, lle mae yna swyddfa bost sy’n wynebu’r broblem, yr anhawster, yma. A ydych chi’n cael trafodaethau â busnes y Swyddfa Bost ynglŷn â’r newid i daliadau yma? Ac a ydych chi mewn sefyllfa i edrych ar beth ymhellach a allai gael ei wneud i wneud yn siŵr nad ydym yn colli’r adnodd pwysig yma? Fel rŷch chi’n ei ddweud, rydym ni eisoes yn colli’r banciau. Mae hwn yn rhywbeth sydd eisiau ei gadw, yn enwedig yn ein pentrefi a’n trefi bach ni.