Part of 2. Cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus – Senedd Cymru am 3:02 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Rydw i’n ymwybodol bod yr Aelod wedi ysgrifennu ataf i ar y mater yma ac rydw i wedi ymateb ar hynny. Mae’n bosibl, wrth gwrs, i swyddfeydd post elwa o business rate relief ac rydw i’n gobeithio y bydd swyddfeydd post yn ceisio am hynny ac yn sicrhau eu bod nhw’n cael hynny. Ar ben hynny, mae £1.3 miliwn wedi cael ei roi i awdurdodau lleol ar gyfer eu defnydd nhw os ydyn nhw’n gweld bod yna adnodd, yn y ffordd y mae e’n ei ddisgrifio, mewn perygl o gael ei golli. Maen nhw’n gallu cynnig tipyn bach o gymorth ychwanegol ar hynny. Ond rydw i’n ymwybodol bod yr Aelod yn codi materion mewnol y tu mewn i system y Swyddfa Bost a phetai e’n fodlon cyfarfod â fi, rydw i’n hapus iawn i drafod hynny gyda’r Swyddfa Bost yn ganolog.