Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:30 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae'n bwysig ein bod yn gweld cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r sgiliau sydd ganddynt i fod yn feddygon, gan gynnwys y gallu i ddefnyddio'r iaith Gymraeg. Rhan o'r her i ni, ac rwyf wedi gwneud y pwynt hwn droeon yn y gorffennol, yw nad dewisiadau yw anghenion iaith Gymraeg, maent yn anghenion gofal gwirioneddol mewn amryw o'n cymunedau a chydag unigolion a'u teuluoedd. Rhan o'r her i ni oedd sut i gael digon o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal er mwyn gallu cyflawni yn erbyn hynny, a buaswn yn dal i hoffi ein gweld yn gallu gwneud ymdrechion mwy llwyddiannus i ddenu pobl sydd wedi gwneud rhan o'u hyfforddiant gofal iechyd proffesiynol meddygol neu fel arall yn Lloegr yn ôl i Gymru. Mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol inni gael cynnig deniadol iddynt weithio yma yng Nghymru, yn hytrach na dweud yn syml fod ganddynt ymdeimlad o gyfrifoldeb cenedlaethol i ddychwelyd i ddilyn gyrfa o'r newydd.
Ond rwy'n disgwyl y bydd hynny'n real ac yn bosibl yn y rhaglenni astudio sy'n bodoli eisoes. Rydym yn gwneud ymdrechion bwriadol i geisio annog pobl sy'n siarad Cymraeg i ddod i mewn i addysg feddygol fel gyrfa bosibl ar eu cyfer. Siaradais, er enghraifft, ar raglen astudio sydd gennym i geisio cael nifer o rai 16 i 18 oed yng nghymunedau'r Cymoedd a rhannau eraill o Gymru i ddod i ystyried gyrfa mewn meddygaeth. Felly, rydym yn fwriadol yn mynd i geisio gwneud yn siŵr ei bod yn yrfa ddeniadol i wahanol bobl ei dewis, yn ogystal â'r man astudio ei hun, fel—[Anghlywadwy.]—cwrs astudio, a'r cyfrwng iaith ar gyfer ei gyflwyno.
Rwy'n falch o ailddatgan bod y penderfyniad hwn a wneuthum yn ganlyniad i gadw ein gair am y penderfyniad y byddem yn ei ystyried, yr amserlen ar gyfer gwneud y penderfyniad, a'n huchelgais i ehangu cyfleoedd i ymgymryd â mwy o addysg a hyfforddiant meddygol, a'n huchelgais i sicrhau bod pobl yn treulio eu holl gyfnod astudio yng Nghymru hefyd.