3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru ar 11 Gorffennaf 2018.
1. A wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet ddatganiad am ehangu addysg a hyfforddiant meddygol yng ngogledd Cymru, yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed yn gynharach yr wythnos hon? 203
Diolch i chi am y cwestiwn. Yn gynharach yr wythnos hon, roeddwn yn falch o gyhoeddi cynnydd yn nifer y lleoedd mewn ysgolion meddygol yng Nghymru ar unwaith. Bydd y 40 o leoedd ychwanegol yn dod â manteision i Gymru gyfan, gan gynnwys gorllewin a gogledd Cymru, gydag 20 lle yn ysgol feddygol Abertawe ac 20 yn ysgol feddygol Caerdydd, i'w darparu mewn cydweithrediad â Phrifysgol Bangor yng ngogledd Cymru. Mae prifysgolion Caerdydd a Bangor yn cydweithio ar gynlluniau a fydd yn galluogi myfyrwyr i ymgymryd â'u holl addysg feddygol yng ngogledd Cymru yn y dyfodol agos.
Credaf fod hwn yn gyhoeddiad defnyddiol iawn, oherwydd rydym ni yng Nghymru yn wynebu'r un heriau â gweddill y DU o ran hyfforddi a recriwtio ymarferwyr meddygol, ac rwy'n falch y bydd y cynllun hwn yn helpu i ddarparu a hyrwyddo hynny. Deallaf fod lawer o waith a manylion i ddilyn, ac edrychaf ymlaen at glywed rhagor. Rwy'n cefnogi dull pragmataidd o ddarparu'r budd mwyaf posibl o gyllideb gyfyngedig, a'r ffaith na fydd yr holl arian yn cael ei wario ar fuddsoddiad cyfalaf.
Bydd cynyddu'r niferoedd yn Abertawe, a hefyd ym Mhrifysgol Aberystwyth, rwy'n credu ac rwy'n gobeithio, yn rhoi cyfleoedd ehangach a mwy amrywiol i'r bobl sy'n byw yn yr ardaloedd hynny. Mae pawb ohonom yn gwybod, ac mae wedi'i gofnodi'n helaeth, fod y gorllewin yn arbennig yn wynebu heriau recriwtio mawr, ac edrychaf ymlaen at y cynnydd hwn, neu unrhyw gynnydd arall o ran hynny, sy'n darparu ar gyfer pobl gorllewin Cymru, sydd angen elwa, wrth gwrs, ar wasanaeth ymarferwyr meddygol mewn amgylchedd sy'n newid o hyd.
Diolch. Mae'n bwysig nodi bod y penderfyniad hwn yn cadw'r addewid a wnaethom i ddychwelyd â phenderfyniad, a'r awgrym a roddais ein bod yn credu y gallem wneud rhywbeth i'w hymestyn—ymestyn cyfleoedd mewn gwahanol rannau o Gymru—mewn cwestiynau blaenorol. Rwyf bob amser wedi bod yn awyddus i siarad am y ffaith bod hwn yn newydd da i ogledd Cymru ond hefyd i orllewin Cymru, oherwydd, fel rydych yn nodi, mae yna heriau recriwtio yng ngorllewin Cymru yn ogystal â'r gogledd. Mae yna swm bach o gyfalaf y byddwn angen ei ddefnyddio i wneud i hyn ddigwydd, ond bydd ei wneud yn y ffordd hon, ar y cyd rhwng pedair prifysgol, yn golygu y gallwn wneud cynnydd cyflymach o ran cynyddu niferoedd a chynyddu cyfleoedd mewn gwahanol rannau o Gymru, oherwydd ceir llawer o dystiolaeth ein bod yn fwy tebygol o weld pobl yn aros yng ngorllewin Cymru a gogledd Cymru os byddant yn cael cyfran fawr o'u hyfforddiant yno.
Mae hyn yn dilyn cytundeb a wnaethom gyda Phlaid Cymru ar sut rydym yn defnyddio rhywfaint o arian yn y gyllideb, ond ni fydd y swm dwy flynedd hwnnw'n ddigon i hyfforddi rhywun drwy gydol eu gradd feddygol. Felly, rydym wedi gwneud y dewis yn y Llywodraeth i gefnogi'r rhaglen astudio hon yn ei chyfanrwydd a sicrhau cynnydd parhaol yn y niferoedd ychwanegol o leoedd hyfforddi meddygol. Felly, mae'n mynd y tu hwnt i'r cytundeb a wnaethom i ymchwilio i'r mater gyda Phlaid Cymru. Mae'n ychwanegiad parhaol, ac edrychaf ymlaen at ddeall mwy, nid yn unig o ran pryd y bydd pobl yn gallu cwblhau eu hastudiaethau i gyd yng ngogledd a gorllewin Cymru, ond hefyd o ran ein gallu i weld beth arall y gallwn ei wneud i gael y math cywir o weithwyr proffesiynol meddygol a chydweithwyr proffesiynol gofal ac iechyd yma yn y gwasanaeth yng Nghymru.
Rwy'n croesawu'r penderfyniad i ehangu lleoedd ysgol feddygol, er rwy'n gresynu na wnaethoch ddewis cyhoeddi'r ehangu hwn yma o ystyried bod hwn yn bwnc sydd wedi'i drafod gan gymaint ohonom ar gynifer o achlysuron. Mae gennym brinder meddygon, fel rydych yn gwybod, mewn rhai disgyblaethau megis ymarfer cyffredinol, pediatreg a rhewmatoleg. A ydych, drwy'r lleoedd hyn, yn gallu datblygu cynlluniau'r gweithlu yn y dyfodol a sicrhau bod gennym bobl a fyddai'n gallu dilyn y mathau hynny o arbenigeddau wedyn? Ac o ystyried y prinder meddygon, hoffwn wybod sut y gwnaethoch werthuso mai 40 o leoedd ychwanegol rydym eu hangen. A ydym angen mwy? Ai dyna'r cyfan o arian a oedd ar gael, neu a ydych yn credu mai 40 rydym eu hangen, ac y bydd hynny'n ddigon yn y dyfodol?
Yn y datganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd gennych yn gynharach yr wythnos hon, sylwais ar y bwriad i alluogi hyfforddeion i ymgymryd â'u hyfforddiant meddygol i gyd yng ngogledd Cymru, a'u hyfforddiant ôl-raddedig. Er bod cydweithio pellach rhwng Caerdydd a Bangor yn gwbl allweddol i sicrhau bod hynny'n digwydd, pa drafodaethau, os o gwbl, sydd wedi bod â darparwyr yng ngogledd-orllewin Lloegr, yn enwedig yr ysbytai a allai gynhyrchu neu ganiatáu gwaith ar batrwm cylch fel rhan o'r hyfforddiant ôl-raddedig? Hoffwn wybod a ydych yn credu y gallwn wneud ein hyfforddiant ôl-raddedig i gyd yng ngogledd Cymru ei hun ai peidio, oherwydd clywsom yn ein hymchwiliad blaenorol i'r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol ynglŷn â rhai o'r anawsterau o ran cynhyrchu neu allu gwneud rhywfaint o'r hyfforddiant hwnnw, oherwydd nad oes gennym yr arbenigeddau hynny i gyd o fewn ein strwythur cyfredol yng ngogledd Cymru. Diolch.
Diolch i chi am y cwestiynau. Rwy'n credu ei fod yn bwynt defnyddiol ynglŷn â gwahaniaethu rhwng y radd feddygol a hyfforddiant arbenigol y radd feddygol ôl-raddedig wedyn. Wrth gwrs, mae yna sgyrsiau parhaus ar y gweill gyda chydweithwyr yn neoniaeth y gogledd-orllewin yn Lloegr ynglŷn â sut y gellid trefnu cyrsiau astudio gwahanol, yn ogystal â'r hyn y gallwn ei wneud yng Nghymru. Rwyf am gael sgwrs ymarferol ynglŷn â gwneud gwahaniaeth i ansawdd yr hyfforddiant a chwmpas yr hyfforddiant y gellir ei ddarparu mewn gwirionedd, yn hytrach na sgwrs Cymru yn erbyn Lloegr. Wrth gwrs, bydd yna adegau pan fydd gwleidyddion yn anghytuno, ond mae hyn, mewn gwirionedd, yn ymwneud â hyfforddi meddygon i roi gyrfa iddynt o fewn ein gwasanaeth iechyd gwladol, yn gwasanaethu ein cymunedau.
O ran y pwynt am y radd feddygol a'r dewis ymarferol ynghylch lleoedd ac arian, maent yn ddewisiadau ymarferol ynglŷn â'n gallu i ehangu, os ydym eisiau ariannu'r ehangu hwnnw, oherwydd fel y dywedaf, ni allwch wneud hynny ar gytundeb cyfyngedig dros ddwy neu dair blynedd, oherwydd mae'r radd yn cymryd mwy o amser a byddai'n beth eithaf anarferol pe baem yn penderfynu ehangu cwrs gradd ar gyfer un cohort ac yna'n tynnu'r cyllid yn ôl ar y diwedd. Ni fyddai unrhyw ffordd o gynllunio a chynyddu'n briodol y niferoedd y byddem eisiau eu gweld o fewn ein gweithlu meddygol. Ni fydd yn cael gwared ar ein hangen i barhau i recriwtio o blith gwledydd y DU yn ogystal ag o'r tu allan i'r DU, o Ewrop a thu hwnt, ond mae hon yn enghraifft ohonom ni yn gwneud penderfyniad ymarferol gyda'r adnoddau sydd gennym i wneud y gwahaniaeth yn yr ardal y gallwn ei wneud gyda'r ddwy ysgol feddygol sydd gennym ar hyn o bryd, er mwyn cyflawni yn erbyn rhai o'r heriau mewn gwahanol rannau o'r wlad.
Bydd hynny hefyd yn wir mewn perthynas â hyfforddiant arbenigol yn ogystal, oherwydd, bob blwyddyn, rydym yn edrych ar y niferoedd sy'n cael hyfforddiant arbenigol ac mae angen i ni ddeall sut a ble rydym yn llenwi'r lleoedd hynny. Felly, mewn gwirionedd, mae hynny hyd yn oed yn bwysicach o ran y cysylltiadau â gweddill Cymru ac yn wir, y ddeoniaeth ar draws ein ffin lle mae gwahanol leoedd hyfforddi ar gael ar gyfer y lleoedd hyfforddi arbenigol hynny. Felly, mae gennym rywfaint o'r un heriau â gweddill y Deyrnas Unedig a rhai sy'n fwy unigryw. Mae hyn yn rhan o'r ateb, yn hytrach nag ateb hollgynhwysol i'r heriau y byddwch chi a minnau yn parhau i'w trafod yn awr ac yn y dyfodol.
Ym mis Mai y llynedd, fe gyhoeddwyd yr adroddiad yma gan Aelod Seneddol Arfon, Hywel Williams, a minnau, yn gosod allan yr achos dros ysgol feddygol i'r gogledd. Mae eich cyhoeddiad chi am ehangu addysg feddygol yn y gogledd yn gam arwyddocaol a phwysig i'r cyfeiriad cywir, ac yn ffrwyth ymgyrch leol gref yn Arfon.
Yn eich datganiad, mi rydych chi'n dweud hyn:
'bydd y trefniadau newydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i siaradwyr Cymraeg astudio drwy gyfrwng y Gymraeg.'
A fedrwch chi ymhelaethu ar hynny, ac ar sut yn union fydd hynny yn digwydd?
Diolch i chi am y cwestiwn. Mae'n bwysig ein bod yn gweld cyfleoedd i bobl ddefnyddio'r sgiliau sydd ganddynt i fod yn feddygon, gan gynnwys y gallu i ddefnyddio'r iaith Gymraeg. Rhan o'r her i ni, ac rwyf wedi gwneud y pwynt hwn droeon yn y gorffennol, yw nad dewisiadau yw anghenion iaith Gymraeg, maent yn anghenion gofal gwirioneddol mewn amryw o'n cymunedau a chydag unigolion a'u teuluoedd. Rhan o'r her i ni oedd sut i gael digon o weithwyr proffesiynol iechyd a gofal er mwyn gallu cyflawni yn erbyn hynny, a buaswn yn dal i hoffi ein gweld yn gallu gwneud ymdrechion mwy llwyddiannus i ddenu pobl sydd wedi gwneud rhan o'u hyfforddiant gofal iechyd proffesiynol meddygol neu fel arall yn Lloegr yn ôl i Gymru. Mae hynny'n ei gwneud yn ofynnol inni gael cynnig deniadol iddynt weithio yma yng Nghymru, yn hytrach na dweud yn syml fod ganddynt ymdeimlad o gyfrifoldeb cenedlaethol i ddychwelyd i ddilyn gyrfa o'r newydd.
Ond rwy'n disgwyl y bydd hynny'n real ac yn bosibl yn y rhaglenni astudio sy'n bodoli eisoes. Rydym yn gwneud ymdrechion bwriadol i geisio annog pobl sy'n siarad Cymraeg i ddod i mewn i addysg feddygol fel gyrfa bosibl ar eu cyfer. Siaradais, er enghraifft, ar raglen astudio sydd gennym i geisio cael nifer o rai 16 i 18 oed yng nghymunedau'r Cymoedd a rhannau eraill o Gymru i ddod i ystyried gyrfa mewn meddygaeth. Felly, rydym yn fwriadol yn mynd i geisio gwneud yn siŵr ei bod yn yrfa ddeniadol i wahanol bobl ei dewis, yn ogystal â'r man astudio ei hun, fel—[Anghlywadwy.]—cwrs astudio, a'r cyfrwng iaith ar gyfer ei gyflwyno.
Rwy'n falch o ailddatgan bod y penderfyniad hwn a wneuthum yn ganlyniad i gadw ein gair am y penderfyniad y byddem yn ei ystyried, yr amserlen ar gyfer gwneud y penderfyniad, a'n huchelgais i ehangu cyfleoedd i ymgymryd â mwy o addysg a hyfforddiant meddygol, a'n huchelgais i sicrhau bod pobl yn treulio eu holl gyfnod astudio yng Nghymru hefyd.
Rwyf wedi cefnogi'r cysyniad o ysgol feddygol ym Mangor ers i'r is-ganghellor blaenorol, Merfyn Jones, ei ddwyn i fy sylw yn gyntaf ddegawd neu fwy yn ôl, ac mae hyn wrth gwrs, wedi cael ei godi mewn Cynulliadau blaenorol hefyd. Ond o ystyried bod pwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru—y bu llawer ohonynt eu hunain yn astudio yn ysgol feddygol Lerpwl, neu ysgol feddygol Manceinion, a rhai ohonynt yn dod o ogledd Cymru, a rhai wedi dewis adeiladu eu bywydau a'u gyrfaoedd yng ngogledd Cymru—wedi galw am i'r model hwn ymgorffori ac adfer cysylltiadau uniongyrchol â Lerpwl, ac ysgol feddygol Manceinion o bosibl, nid yn unig dros y ffin, ond yn benodol yno, o ystyried y cysylltiadau hanesyddol, sut rydych yn ymateb i'r alwad gan bwyllgor meddygol lleol gogledd Cymru, a luniwyd o ymarferwyr cyffredinol lleol, a pha drafodaethau a gawsoch gyda hwy ynglŷn â hynny?
Rwyf wedi gwneud cyhoeddiad sy'n adeiladu ar ein dwy ysgol feddygol a'r ddarpariaeth a'r bartneriaeth â phrifysgolion mewn rhannau gwahanol o Gymru. Ni chredaf y byddai o gymorth o gwbl i mi i geisio amharu ar hynny, a minnau newydd ei gyhoeddi ers wythnos, a dweud wedyn fy mod yn disgwyl iddynt ailffurfio gwahanol gysylltiadau ag ysgolion meddygol gwahanol. Wrth gwrs, rydym am gyfleoedd i bobl astudio meddygaeth a gallu caffael sgiliau i ddarparu'r rhaglen astudio lawn i ddod yn feddygon a'u cadw yma yng Nghymru mewn gwirionedd. Byddaf bob amser yn edrych am gyfleoedd i'n system iechyd a gofal yma yng Nghymru ddenu pobl i ddod yma, ac i gadw pobl yma, ac i weithio gyda phartneriaid eraill ar draws ein ffin i wneud hynny hefyd. Dyna fydd y ffocws. Bydd yn ymwneud â gwneud y partneriaethau rydym wedi'u cytuno, gwneud iddynt weithio, a'r bartneriaeth a'r cydweithredu sydd â buddsoddiad ac amser go iawn i bobl yn ysgolion meddygol Abertawe a Chaerdydd, ac rwy'n falch iawn o ddweud, ym mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor hefyd.
Ac yn olaf, Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ac a gaf groesawu'r datganiad yma heddiw, sydd wedi cymryd llawer rhy hir i ddod, wrth gwrs? Rydw i'n meddwl yn ôl am fy nghyfarfod cynnar i, ar ôl i mi gael fy ethol, efo'r Athro Dean Williams o Brifysgol Bangor ac Ysbyty Gwynedd, yn plannu'r syniad yma, a'r sylweddoliad buan iawn ei bod hi'n hollol amlwg bod rhaid inni fwrw ymlaen â chyflwyno addysg feddygol ym Mangor, fel yr oedd pobl fel Dr Dai Lloyd yn sylweddoli bod angen cyflwyno addysg feddygol yn Abertawe flynyddoedd yn ôl, ac, wrth gwrs, mae hi'n ysgol feddygol lawn yn Abertawe erbyn hyn. Rydw i'n meddwl am yr holl feddygon hynny, y rhai sydd eisiau bod yn feddygon, yn bobl ifanc, yn rhieni, yn gyn-feddygon, yn nyrsys, sy'n gweld y budd o ddatblygu addysg feddygol ym Mangor, ac rydw i'n diolch iddyn nhw heddiw am fod yn gefn i ni sydd wedi ymgyrchu mor galed dros hyn, er mwyn troi hyn yn realiti.
Gadewch inni gofio pam fod hyn yn digwydd. Mae hyn yn gorfod digwydd oherwydd prinder meddygon mewn ardaloedd o'r gorllewin a'r gogledd. Mi fydd hyn yn help, rydw i'n hyderus, i recriwtio ac i lenwi'r tyllau. Mae o'n digwydd oherwydd bod rhy ychydig o feddygon yn cael eu hyfforddi yng Nghymru, a rhy ychydig o'r rheini yn dod o Gymru. Felly, mae hyn yn agor y drws, gobeithio, i fwy o'n pobl ifanc ni allu dilyn gyrfa mewn meddygaeth.
I'r Ceidwadwyr, os caf i ddweud: ar ddiwrnod lle rydym ni'n dathlu cael coleg meddygol, i bob pwrpas, yng Nghymru, rydych chi'n penderfynu canolbwyntio ar, 'Ond beth am y cysylltiadau efo gogledd-orllewin Lloegr?' Gwrandewch: wrth gwrs bod y cysylltiadau hynny yn bwysig, ond gadewch inni heddiw ganolbwyntio ar yr hyn rydym ni'n gallu ei wneud yma yng Nghymru, er mwyn cynyddu capasiti addysg feddygol ein hunain.
I chi, Ysgrifennydd y Cabinet, cwestiynau syml: a allwch chi gadarnhau mai dim ond dechrau ydy hyn ar dwf mewn addysg feddygol yng Nghymru, ac a allwch chi gadarnhau hefyd y byddwch chi'n rhannu fy nymuniad i o weld y coleg meddygol newydd ym Mangor yn datblygu i fod yn ganolfan o ragoriaeth, nid yn unig mewn dysgu meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mewn darpariaeth o ofal iechyd gwledig hefyd? Mae heddiw'n gam pwysig ymlaen.
Wrth wneud y cyhoeddiad hwn, rydym wedi bod yn glir gyda'n partneriaid prifysgol a'r ddwy ysgol feddygol ein bod am barhau i weld mwy o bobl o Gymru yn cael cyfleoedd i hyfforddi i ddod yn feddygon fel rhan o hyn. Rydym am weld rhagoriaeth, wrth gwrs, ond nid wyf yn meddwl bod angen ichi ostwng safonau, a bod yn onest, i roi cyfleoedd i fwy o bobl o Gymru i—
Pwy sy'n sôn am ostwng safonau?
Dyna'n union yw fy mhwynt. Nid oes angen ichi ostwng safonau i roi mwy o gyfleoedd i bobl yng Nghymru.
Ni awgrymwyd hynny. Pam rydych chi'n dweud hynny? Mae hynny'n ofnadwy.
Y rheswm rwy'n dweud hynny yw ei fod yn rhywbeth a grybwyllir y tu allan i'r lle hwn o bryd i'w gilydd ynglŷn â dweud, 'Mewn gwirionedd mae angen i chi newid safonau.' [Torri ar draws.] Credaf eich bod yn camddeall—[Torri ar draws.] Gyda phob parch, rwy'n meddwl eich bod yn camddeall y pwynt rwy'n ei wneud. Y pwynt rwy'n ei wneud yw bod digon o bobl ifanc o Gymru â gallu i ddod yn feddygon. Mae a wnelo hyn â sicrhau nad yw ein prifysgolion yn gweithredu system o ddeall pwy fydd wedyn yn cael cynnig y lleoedd sy'n gwahardd pobl ifanc rhag y lleoedd hynny. Rwyf am weld mwy o bobl o Gymru yn cael cyfleoedd i astudio meddygaeth yng Nghymru, ac mae'n rhaid ehangu'r cyfleoedd i bobl o Gymru fanteisio ar y lleoedd hynny i gyd-fynd â'r cynnydd yn y niferoedd. Oherwydd credaf fod digon o dalent ar gael yng Nghymru a fydd yn dymuno gwneud hynny. A dyna pam, i ateb cwestiynau cynharach, y ceir ymdrechion i wneud yn siŵr fod mwy o bobl yn cael eu hannog i ystyried gyrfa mewn meddygaeth mewn gwirionedd. Felly, bydd yn rhaid i'r gwaith hwnnw barhau, yn hytrach na dweud yn unig, 'Cynyddwch y nifer o leoedd a bydd y bobl yn dod.' Mae angen i'r bobl ddod o'r tu mewn i Gymru yn ogystal.
Rwy'n fwy na pharod i nodi fy mod am gael trafodaeth barhaus ynglŷn â nifer y bobl sydd gennym o fewn y proffesiwn meddygol, ynglŷn â sut a ble y cânt eu hyfforddi. Bydd bob amser angen i ni gael sgwrs ymarferol ynglŷn â hynny, i ddeall yr adnoddau sydd ar gael gennym, a gallu ein hysgolion meddygol, mewn partneriaeth â'u prifysgolion i wneud hynny. Ond ar hyn o bryd, credaf fod y cydweithredu a ddigwyddodd ar hyn, a'r gwaith sydd wedi'i wneud ar hyn gan bedair prifysgol, yn rhoi rheswm da i ni gredu y gallent hyfforddi mwy o bobl. Yr her yw ein gallu i ariannu'r hyfforddiant hwnnw, ac i wneud yn siŵr y bydd yr ehangu presennol a gyhoeddais eisoes yn llwyddiant.
Ac wrth gwrs rwyf am weld partneriaethau newydd a gyhoeddwyd gennym yn sicrhau rhagoriaeth go iawn mewn iechyd a gofal, gan gynnwys gofal iechyd gwledig. Ceir cyfle gwirioneddol inni sicrhau rhagoriaeth go iawn mewn gofal iechyd, oherwydd mae nifer o feddygon eisiau gweithio mewn cyd-destun dinesig, mae nifer o feddygon eisiau gweithio yng nghyd-destun y Cymoedd, ac mae llawer o bobl am fod yn feddygon mewn meddygaeth wledig yn ogystal, ac mae hwn yn gyfle gwirioneddol i roi mwy o gyfleoedd i'r bobl hyn wneud hynny.
Diolch i'r Ysgrifennydd Cabinet.