Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:37 pm ar 11 Gorffennaf 2018.
Y rheswm rwy'n dweud hynny yw ei fod yn rhywbeth a grybwyllir y tu allan i'r lle hwn o bryd i'w gilydd ynglŷn â dweud, 'Mewn gwirionedd mae angen i chi newid safonau.' [Torri ar draws.] Credaf eich bod yn camddeall—[Torri ar draws.] Gyda phob parch, rwy'n meddwl eich bod yn camddeall y pwynt rwy'n ei wneud. Y pwynt rwy'n ei wneud yw bod digon o bobl ifanc o Gymru â gallu i ddod yn feddygon. Mae a wnelo hyn â sicrhau nad yw ein prifysgolion yn gweithredu system o ddeall pwy fydd wedyn yn cael cynnig y lleoedd sy'n gwahardd pobl ifanc rhag y lleoedd hynny. Rwyf am weld mwy o bobl o Gymru yn cael cyfleoedd i astudio meddygaeth yng Nghymru, ac mae'n rhaid ehangu'r cyfleoedd i bobl o Gymru fanteisio ar y lleoedd hynny i gyd-fynd â'r cynnydd yn y niferoedd. Oherwydd credaf fod digon o dalent ar gael yng Nghymru a fydd yn dymuno gwneud hynny. A dyna pam, i ateb cwestiynau cynharach, y ceir ymdrechion i wneud yn siŵr fod mwy o bobl yn cael eu hannog i ystyried gyrfa mewn meddygaeth mewn gwirionedd. Felly, bydd yn rhaid i'r gwaith hwnnw barhau, yn hytrach na dweud yn unig, 'Cynyddwch y nifer o leoedd a bydd y bobl yn dod.' Mae angen i'r bobl ddod o'r tu mewn i Gymru yn ogystal.
Rwy'n fwy na pharod i nodi fy mod am gael trafodaeth barhaus ynglŷn â nifer y bobl sydd gennym o fewn y proffesiwn meddygol, ynglŷn â sut a ble y cânt eu hyfforddi. Bydd bob amser angen i ni gael sgwrs ymarferol ynglŷn â hynny, i ddeall yr adnoddau sydd ar gael gennym, a gallu ein hysgolion meddygol, mewn partneriaeth â'u prifysgolion i wneud hynny. Ond ar hyn o bryd, credaf fod y cydweithredu a ddigwyddodd ar hyn, a'r gwaith sydd wedi'i wneud ar hyn gan bedair prifysgol, yn rhoi rheswm da i ni gredu y gallent hyfforddi mwy o bobl. Yr her yw ein gallu i ariannu'r hyfforddiant hwnnw, ac i wneud yn siŵr y bydd yr ehangu presennol a gyhoeddais eisoes yn llwyddiant.
Ac wrth gwrs rwyf am weld partneriaethau newydd a gyhoeddwyd gennym yn sicrhau rhagoriaeth go iawn mewn iechyd a gofal, gan gynnwys gofal iechyd gwledig. Ceir cyfle gwirioneddol inni sicrhau rhagoriaeth go iawn mewn gofal iechyd, oherwydd mae nifer o feddygon eisiau gweithio mewn cyd-destun dinesig, mae nifer o feddygon eisiau gweithio yng nghyd-destun y Cymoedd, ac mae llawer o bobl am fod yn feddygon mewn meddygaeth wledig yn ogystal, ac mae hwn yn gyfle gwirioneddol i roi mwy o gyfleoedd i'r bobl hyn wneud hynny.