Addysg a Hyfforddiant Meddygol yng Ngogledd Cymru

Part of 3. Cwestiynau Amserol – Senedd Cymru am 3:34 pm ar 11 Gorffennaf 2018.

Danfonwch hysbysiad imi am ddadleuon fel hyn

Photo of Rhun ap Iorwerth Rhun ap Iorwerth Plaid Cymru 3:34, 11 Gorffennaf 2018

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Ac a gaf groesawu'r datganiad yma heddiw, sydd wedi cymryd llawer rhy hir i ddod, wrth gwrs? Rydw i'n meddwl yn ôl am fy nghyfarfod cynnar i, ar ôl i mi gael fy ethol, efo'r Athro Dean Williams o Brifysgol Bangor ac Ysbyty Gwynedd, yn plannu'r syniad yma, a'r sylweddoliad buan iawn ei bod hi'n hollol amlwg bod rhaid inni fwrw ymlaen â chyflwyno addysg feddygol ym Mangor, fel yr oedd pobl fel Dr Dai Lloyd yn sylweddoli bod angen cyflwyno addysg feddygol yn Abertawe flynyddoedd yn ôl, ac, wrth gwrs, mae hi'n ysgol feddygol lawn yn Abertawe erbyn hyn. Rydw i'n meddwl am yr holl feddygon hynny, y rhai sydd eisiau bod yn feddygon, yn bobl ifanc, yn rhieni, yn gyn-feddygon, yn nyrsys, sy'n gweld y budd o ddatblygu addysg feddygol ym Mangor, ac rydw i'n diolch iddyn nhw heddiw am fod yn gefn i ni sydd wedi ymgyrchu mor galed dros hyn, er mwyn troi hyn yn realiti.

Gadewch inni gofio pam fod hyn yn digwydd. Mae hyn yn gorfod digwydd oherwydd prinder meddygon mewn ardaloedd o'r gorllewin a'r gogledd. Mi fydd hyn yn help, rydw i'n hyderus, i recriwtio ac i lenwi'r tyllau. Mae o'n digwydd oherwydd bod rhy ychydig o feddygon yn cael eu hyfforddi yng Nghymru, a rhy ychydig o'r rheini yn dod o Gymru. Felly, mae hyn yn agor y drws, gobeithio, i fwy o'n pobl ifanc ni allu dilyn gyrfa mewn meddygaeth.

I'r Ceidwadwyr, os caf i ddweud: ar ddiwrnod lle rydym ni'n dathlu cael coleg meddygol, i bob pwrpas, yng Nghymru, rydych chi'n penderfynu canolbwyntio ar, 'Ond beth am y cysylltiadau efo gogledd-orllewin Lloegr?' Gwrandewch: wrth gwrs bod y cysylltiadau hynny yn bwysig, ond gadewch inni heddiw ganolbwyntio ar yr hyn rydym ni'n gallu ei wneud yma yng Nghymru, er mwyn cynyddu capasiti addysg feddygol ein hunain.

I chi, Ysgrifennydd y Cabinet, cwestiynau syml: a allwch chi gadarnhau mai dim ond dechrau ydy hyn ar dwf mewn addysg feddygol yng Nghymru, ac a allwch chi gadarnhau hefyd y byddwch chi'n rhannu fy nymuniad i o weld y coleg meddygol newydd ym Mangor yn datblygu i fod yn ganolfan o ragoriaeth, nid yn unig mewn dysgu meddygaeth drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mewn darpariaeth o ofal iechyd gwledig hefyd? Mae heddiw'n gam pwysig ymlaen.